Ysgolhaig o’r Brifysgol Haf yn cael ei benodi i bwyllgor Iechyd

Jarrod Thomas yn derbyn ei dystysgrif gradd Prifysgol Haf Aberystwyth gan Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, Awst 2017

Jarrod Thomas yn derbyn ei dystysgrif gradd Prifysgol Haf Aberystwyth gan Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, Awst 2017

12 Mehefin 2018

Mae myfyriwr chweched dosbarth a gwblhaodd Brifysgol Haf Prifysgol Aberystwyth yn 2017 wedi cael ei benodi’n aelod o’i Gyngor Iechyd Cymunedol lleol.

Mae Jarrod Thomas bellach yn aelod llawn o Gyngor Iechyd Cymunedol Abertawe Bro Morgannwg a bydd yn gwasanaethu ar bwyllgor Castell Nedd Port Talbot.

Ar hyn o bryd mae’n sefyll ei arholiadau lefel A yng Ngrŵp Colegau NPTC yng Nghastell Nedd cyn cymryd ei le i astudio BSc mewn Biocemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2018.

Roedd Jarrod yn un o 85 o fyfyrwyr a ddilynodd gwrs chwe wythnos y Brifysgol Haf yn Aberystwyth yn 2017.

“Bu’r Brifysgol Haf yn allweddol i ddangos y ffin rhwng agweddau cymdeithasol a hwyliog y Brifysgol, a phwrpas bod yn y Brifysgol – sef i gael addysg,” meddai Jarrod.

“Caniataodd y cyfle i mi gwrdd â llawer o wahanol bobl a meithrin sawl cyfeillgarwch, a allai bara am oes, a chreu nifer o rwydweithiau. Rwy’n teimlo bod y rhaglen wedi fy mharatoi ar gyfer dysgu gydol oes gan roi profiad (cipolwg) cynnar bron o Addysg Uwch ym Mhrifysgol Aberystwyth.”

Dywedodd Dr Debra Croft, Rheolwr y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol yn Aberystwyth: “Roedd yn amlwg bod Jarrod yn fyfyriwr disglair pan dreuliodd yr haf gyda ni yn 2017 ar ein rhaglen breswyl chwe wythnos. Mae myfyrwyr yn dod i Brifysgol Haf Aberystwyth am amrywiaeth eang o resymau, ac fe welsom Jarrod yn magu hyder a hunangred dros y chwe wythnos. Ym mis Ionawr 2018, safodd arholiadau Ysgoloriaeth y Brifysgol yn llwyddiannus ac ar ben hynny ennillodd Fwrsariaeth Rashid Domingo i fyfyriwr Cymraeg ym maes y gwyddorau naturiol. Rydym yn edrych ymlaen at ei groesawu yn ôl i Aberystwyth yn yr hydref.”

Beth yw’r Brifysgol Haf?

Bellach yn ei 18fed flwyddyn, mae Prifysgol Haf Aberystwyth yn rhoi cyfle i fyfyrwyr o ardaloedd mwy difreintiedig yng Nghymru i brofi bywyd ar y campws.  

Yn ystod eu harhosiad preswyl chwe wythnos, gall myfyrwyr ddewis o blith ystod o fodiwlau academaidd dewisol yn ogystal â dilyn rhaglen lawn o weithgareddau cymdeithasol a chwaraeon. 

Mae’r holl leoedd ar gyfer y Brifysgol Haf yn Aberystwyth wedi’u llenwi am eleni, ond gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen ar ein gwefan. Am wybodaeth am sut i wneud cais yn y dyfodol, gweler:
https://www.aber.ac.uk/cy/widening-participation/schoolscolleges/summer-uni/

Ynglŷn â Chynghorau Iechyd Cymunedol

Penodir aelodau’r saith Cyngor Iechyd Cymunedol yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru.

Maent yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau cleifion a’r cyhoedd yn annibynnol a diduedd er mwyn dylanwadu ar y ffordd y caiff Gwasanaethau Iechyd Cenedlaethol eu cynllunio a’u darparu yng Nghymru, a gwella hyn.

Gwirfoddolwyr lleol yw aelodau’r Cynghorau, sy’n gweithredu fel llygaid a chlustiau cleifion a’r cyhoedd, gan ymweld ag ysbytai, gwrando ar bryderon cleifion a gweithio gyda’r gwasanaeth iechyd i wella ansawdd gofal cleifion.

 

AU25718