Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Diwrnod Heb Blastig

Rebecca Davies Dirprwy Is-Ganghellor a'r Prif Swyddog Gweithredu gyda staff  yn casglu sbwriel ar y campws fel rhan o Ddiwrnod Heb Blastig y Brifysgol.

Rebecca Davies Dirprwy Is-Ganghellor a'r Prif Swyddog Gweithredu gyda staff yn casglu sbwriel ar y campws fel rhan o Ddiwrnod Heb Blastig y Brifysgol.

28 Mehefin 2018

Cynhaliodd Prifysgol Aberystwyth ei Diwrnod Heb Blastig cyntaf ar 26 Mehefin, mewn ymgais i fod yn brifysgol ardystiedig ddi blastig gyntaf Cymru, cynllun wedi'i seilio ar roi’r gorau yn raddol i ddefnyddio plastigau untro.

Dan arweiniad timau Cynaladwyedd a Lletygarwch y Brifysgol, roedd y diwrnod heb blastig yn herio staff i ailystyried y ffordd y maen nhw’n defnyddio plastig. Roedd rhai o'r mentrau'n cynnwys:

  • Cyfyngu ar werthu nifer o eitemau plastig untro yn ei siopau lletygarwch.
  • Cynnig arbennig ar brynu cwpanau coffi y gellir eu hailddefnyddio
  • Stondin wybodaeth ar y Piazza
  • Casglu sbwriel o gwmpas y campws.
  • Ffilm 'Plastic Ocean’ yn sinema Canolfan y Celfyddydau hefyd

Nod yr achrediad Heb Blastig yw codi ymwybyddiaeth a mynd i'r afael ag effeithiau dinistriol plastig untro. Fe’i sefydlwyd gan Surfers Against Sewage, elusen ymgyrchu amgylcheddol ledled y DU sy'n canolbwyntio ar amddiffyn yr amgylchedd forol.

Dywedodd Rebecca Davies, Dirprwy Is-Ganghellor a'r Prif Swyddog Gweithredu: "Mae'n wych bod y Brifysgol ar flaen y gad yn yr ymgyrch i leihau gwastraff plastig. Mae ein staff a'n myfyrwyr yn frwd dros gynaladwyedd, ecoleg a chadwraeth, ac mae hwn yn gam arall ymlaen i ddangos sut y gallwn ni wneud gwahaniaeth i un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r byd heddiw."