Cyn-fyfyrwraig yn cipio Coron Eisteddfod Caerdydd 2018

Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 yw Catrin Dafydd, sy'n raddedig o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.

Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 yw Catrin Dafydd, sy'n raddedig o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.

06 Awst 2018

Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 yw Catrin Dafydd, sy'n raddedig o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.

Mae Catrin yn cael ei hystyried yn un o feirdd a llenorion ifanc mwyaf cyffrous Cymru, ac fe gipiodd y Goron am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau, ar y testun ‘Olion’.

Y beirniaid oedd Christine James, Ifor ap Glyn a Damian Walford Davies, mewn cystadleuaeth a ddenodd 42 o geisiadau.

Llwyddodd 14 o feirdd i gyrraedd dosbarth cyntaf o leiaf un o’r beirniaid, gyda’r tri beirniad yn gytûn fod pump yn cyrraedd brig y gystadleuaeth eleni. 

Wrth draddodi’r feirniadaeth dywedodd Christine James am gasgliad buddugol Yma: “Gall Yma ganu’n dyner, ond hefyd â’i dafod-yn-y-boch, fel yn y gerdd ‘Jentrifficeshyn’, sy’n codi cwestiynau dilys ynghylch beth yn union sy’n digwydd pan fydd Cymry Cymraeg yn ‘coloneiddio’ rhan o’r ddinas.

“Dyma gasgliad amserol ac apelgar o obeithiol gan fardd sy’n lladmerydd huawdl dros Gymreictod cymysg, byrlymus y brifddinas.”

Yn wreiddiol o Waelod y Garth, graddiodd Catrin Dafydd gyda gradd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth yn 2003. Aeth ymlaen i dreulio blwyddyn fel Llywydd UMCA 2003–2004.

Mae enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017, Gwion Hallam, hefyd yn gyn-Lywydd UMCA a'r tro diwethaf y cynhaliwyd y Brifwyl yng Nghaerdydd yn 2008, roedd y bardd coronnog yn un o gyfoedion Catrin Dafydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, sef Hywel Griffiths sydd bellach yn ddarlithydd yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. 

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Diwylliant Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Estynnwn ein llongyfarchiadau gwresocaf i Catrin ar ennill un o wobrau disgleiriaf y brifwyl. Ers graddio o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn Aberystwyth, mae hi wedi profi llwyddiant mewn ystod o feysydd ysgrifennu – fel bardd, nofelydd, sgriptwraig a golygydd. Gwnaeth gyfraniad gwerthfawr hefyd fel Llywydd UMCA ac mae wedi bod yn ymgyrchydd frwd dros yr iaith ac achosion eraill sy'n agos at ei chalon. Ein dymuniadau gorau iddi yn y dyfodol wrth iddi ddatblygu ei gyrfa greadigol ymhellach."  

Erbyn hyn mae Catrin yn byw yng Nghaerdydd, ac yn aelod o dîm ysgrifennu Pobol y Cwm. Mae’n awdur pum nofel, a’r ddiweddaraf, Gwales, a enillodd Wobr Ffuglen cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni. Ei nofelau eraill yw Pili Pala, Y Tiwniwr Piano, Random Deaths and Custard a Random Births and Love Hearts.

Bu'n olygydd ar gylchgrawn Tu Chwith a Dim Lol ac yn 2011, roedd ymhlith y beirdd a sefydlodd nosweithiau annibynnol Bragdy'r Beirdd. 

Mae'n ymgyrchu gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a mudiadau eraill ac yn aelod o'r tîm sy'n hyrwyddo Diwrnod Shw’mae Sumae er mwyn tynnu sylw at y ffaith fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru.

Rhoddir y Goron eleni gan Brifysgol Caerdydd, a daw'r wobr ariannol gan Manon Rhys a Jim Parc Nest, â diolch ac er cof.

Cynlluniwyd a chynhyrchwyd y Goron gan Laura Thomas o Gastell-nedd a dreuliodd dros 400 awr yn cynhyrchu coron unigryw sy'n fodern ac eto'n parchu traddodiadau'r Eisteddfod.

Deilliodd ei hysbrydoliaeth ar gyfer y dyluniad o'i thechneg adnabyddus – gwaith parquet – lle mae'n gosod argaenau pren mewn arian pur. Mae'r Goron yn cynnwys dros 600 o argaenau chweochrog, pob un wedi'i hychwanegu â llaw.

Mae’r cerddi buddugol wedi’u cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod a bydd modd prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener 10 Awst 2018.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ym Mae Caerdydd tan 11 Awst. Mae gan Brifysgol Aberystwyth stondin ger y Senedd (rhif 303–304) ac mae wedi trefnu ystod o ddigwyddiadau a gweithgareddau gydol yr wythnos: www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2018/08/title-215505-cy.html