Croesawu myfyrwyr Fulbright o’r Unol Daleithiau

Myfyrwyr Athrofa Haf Comisiwn Fulbright Aberystwyth 2018 (o’r Chwith i’r Dde), rhes gefn: Kevin Treadway, Janet Webster, Sarah Shapley, Justin Heywood, Camila Seluja; rhes waelod: Isaac Keller, Blake Jackson, Casey Wilson

Myfyrwyr Athrofa Haf Comisiwn Fulbright Aberystwyth 2018 (o’r Chwith i’r Dde), rhes gefn: Kevin Treadway, Janet Webster, Sarah Shapley, Justin Heywood, Camila Seluja; rhes waelod: Isaac Keller, Blake Jackson, Casey Wilson

08 Awst 2018

Croesawodd Prifysgol Aberystwyth wyth myfyriwr Fulbright o’r Unol Daleithiau ym mis Gorffennaf 2018, gan roi iddynt gyfle i ganfod mwy am ddiwylliant, treftadaeth a hanes Cymru a’r Deyrnas Unedig, ynghyd â phrofi addysg uwch mewn prifysgol flaenllaw yn y DU.

Rhaglen ddiwylliannol ac academaidd sy’n rhedeg dros dair wythnos yw Athrofa Haf Fulbright Prifysgol Aberystwyth, sy’n canolbwyntio ar faterion cyfoes mewn hunaniaeth a chenedligrwydd drwy lygaid Cymru.

Yn ystod eu hymweliad, fe brofodd y myfyrwyr amrywiaeth ddifyr o waith dosbarth a dysgu profiadol, ynghyd â theithiau i safleoedd o arwyddocad hanesyddol a diwylliannol i’r rhaglen.

Yn ogystal, cafwyd rhaglen gymdeithasol brysur a chyfleoedd i grwydro o gwmpas tref Aberystwyth, yr arfordir ac ardaloedd cefn gwlad cyfagos.

Cynhaliwyd Athrofa Haf Fulbright Prifysgol Aberystwyth 2018 yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, yr adran hynaf o’i bath yn y byd, sy’n dathlu ei chanmlwyddiant y flwyddyn nesaf. Roedd y rhaglen hefyd yn elwa ar yr ymchwil rhyngddisgyblaethol sy’n digwydd yng Nghanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (WISERD).

Dywedodd Dr Anwen Elias, Darllenydd mewn Gwleidyddiaeth yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol: “Nod y rhaglen yw trefnu rhaglen academaidd gyffrous i’r myfyrwyr, er mwyn rhoi darlun iddynt o ddaearyddiaeth, diwylliant, etifeddiaeth a hanes Cymru yn ogystal â chyfle i ddatblygu eu doniau dysgu, ymchwilio a chyfathrebu eu hunain.

Yn ystod y tair wythnos, caiff y myfyrwyr Fulbright y cyfle i ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, dysgu ychydig o’r iaith Gymraeg, cymryd rhan mewn trafodaethau ford gron gyda ffigyrau allweddol mewn gwleidyddiaeth Gymraeg, mwynhau teithiau amrywiol i’r Senedd yng Nghaerdydd, a Chanolfan y Dechnoleg Amgen yn Machynlleth, a phrofi cefn gwlad ac arfordir hyfryd canolbarth Cymru.”

Roedd y myfyrwyr yn dod o  Brifysgol Syracuse, Efrog Newydd; Coleg Sarah Lawrence, Oregon; Coleg Gettysburg, Pennsylvania; Coleg Allegheny, Pennsylvania; Prifysgol Western Kentucky, Kentucky;  Coleg Roanoke, Virginia; Prifysgol Arizona State, Arizona; a Phrifysgol Colorado State, Colorado.

Mae’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol hefyd wedi croesawu Ysgolhaig DU/UDA Fulbright Ôl-raddedig. Derbyniodd Kaela Bamberger Wobr Prifysgol Aberystwyth am Gysylltiadau Rhyngwladol ac mae’n dilyn cwrs MA mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Mae rhaglen Fulbright, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 70ain eleni, yn hyrwyddo heddwch a chyd-ddealltwriaeth ddiwylliannol trwy gyfrwng ysgoloriaethau addysgiadol, ac mae’n un o’r rhaglenni gwobrwyo rhyngwladol uchaf ei pharch. Nod yr Athrofeydd Haf yw cyflwyno myfyrwyr i’r DU tra’n datblygu eu sgiliau academaidd ac arwain.