Achrediad Cyflog Byw Go Iawn i’r Brifysgol

(Chwith i’r dde) Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Elizabeth Treasure, Carwyn Jones AC Prifweinidog Cymru, Mohamed Cheggaf o Brifysgol Aberystwyth, a Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth yn lansiad Wythnos Cyflog Byw Go Iawn ddydd Llun 5 Tachwedd 2018. Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o 174 o gyflogwyr yng Nghymru sydd wedi gwneud penderfyniad gwirfoddol i dalu’r Cyflog Byw Go Iawn.

(Chwith i’r dde) Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Elizabeth Treasure, Carwyn Jones AC Prifweinidog Cymru, Mohamed Cheggaf o Brifysgol Aberystwyth, a Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth yn lansiad Wythnos Cyflog Byw Go Iawn ddydd Llun 5 Tachwedd 2018. Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o 174 o gyflogwyr yng Nghymru sydd wedi gwneud penderfyniad gwirfoddol i dalu’r Cyflog Byw Go Iawn.

05 Tachwedd 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i hachredu’n swyddogol fel cyflogwr Cyflog Byw Go Iawn.

Cyhoeddwyd y newyddion gan y Sefydliad Cyflog Byw ddydd Llun 5 Tachwedd 2018, ar ddechrau Wythnos Cyflog Byw 2018.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o 174 o gyflogwyr yng Nghymru sydd wedi gwneud penderfyniad gwirfoddol i dalu’r Cyflog Byw Go Iawn.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Prifysgol Aberystwyth yw un o gyflogwyr mwyaf Canolbarth Cymru ac mae gennym dros 2,000 o staff llawn amser a rhan amser. Rydym yn gwerthfawrogi eu cyfraniad i bob agwedd o fywyd campws, ac mae eu hymroddiad yn sail i lwyddiant ein sefydliad. Mae ein penderfyniad i fabwysiadu’r Cyflog Byw Go Iawn yn adlewyrchu ein gwerthoedd a’n  hegwyddorion fel cyflogwr moesegol, ac rydym yn gweithio nawr tuag at gefnogi arferion cyflogaeth gyfrifol drwy ein cadwyn gyflenwi.”

Yn dilyn penderfyniad gan y Cyngor, fe ddechreuodd y Brifysgol ar y broses o dalu’r Cyflog Byw Go Iawn i staff ar raddfeydd cyflog is ym mis Ebrill 2018 tra bod cais y sefydliad am achrediad swyddogol yn cael ei gyflwyno i’r Sefydliad Cyflog Byw.

Mae Mohamed Cheggaf, sy’n gweithio fel porthwr yn y Brifysgol, ymhlith y rhai sy’n elwa o’r gyfradd uwch.

“Mae derbyn y gyfradd Cyflog Byw wedi gwneud gwahaniaeth mawr imi. Mae’r gost o fyw yn cynyddu drwy’r amser, gyda biliau siopa a biliau eraill yn codi’n  gyson. Dwi nawr yn derbyn y Cyflog Byw, ac felly mae talu’r biliau yn haws ac mae bywyd yn well i fi a’n nheulu,” meddai Mohamed, sydd hefyd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers symud i Aberystwyth ddeuddeng mlynedd yn ôl.

Caiff y Cyflog Byw ei osod gan y Sefydliad Cyflog Byw ac mae’n seiliedig ar yr enillion sydd ei hangen ar weithiwr i dalu costau byw elfennol. Mae’r gyfradd yn uwch na Chyflog Byw Cenedlaethol Llywodraeth y DU.

Wrth lansio Wythnos Cyflog Byw Cymru 2018 ar ddydd Llun 5 Tachwedd, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y bydd cyfradd y Cyflog Byw Go Iawn y tu allan i Lundain yn cynyddu o £8.75 yr awr i £9 yr awr.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Sefydliad Cyflog Byw, Tess Lanning: “Bydd y cyfraddau Cyflog Byw newydd yn rhoi hwb i filoedd o weithwyr ledled Cymru. Mae busnesau cyfrifol yn ymwybodol nad yw cyflog isafswm y llywodraeth yn ddigon i fyw arno. Mae cyflogwyr sy’n talu’r Cyflog Byw Go Iawn yn galluogi eu gweithwyr i fyw bywyd urddasol, ac yn eu cynorthwyo i dalu dyledion a thalu biliau. 

“Rydym am weld cynghorau lleol, prifysgolion, clybiau pêl-droed, cwmnïau bysiau a chyflogwyr yn y sectorau preifat a chyhoeddus ym mhob dinas yn ymrwymo i fod yn gyflogwyr Cyflog Byw Go Iawn. O ganlyniad, bydd miloedd yn derbyn cynnydd cyflog, a bydd cyflogwyr lleol eraill yn dilyn eu hesiampl. Pan fydd y sefydliadau hyn yn camu tuag at y cyfeiriad yma, gallwn ddechrau adeiladu ar leoliadau Cyflog Byw Go Iawn.”