Arddangosfa: ‘This Is How It Feels’

22 Tachwedd 2018

Dynion trawsryweddol a’u teithiau trawsnewidiol fydd ffocws arddangosfa gelf newydd sy’n agor yn Oriel Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth ddydd Iau 22 Tachwedd 2018.

Mae’r arddangosfa This Is How It Feels gan Holden Holcombe yn edrych ar straeon personol deunaw dyn trawsryweddol a’u teithiau trawsnewidiol o fod yn fenywod i ddynion, gan ddefnyddio technolegau sy’n datblygu megis realiti estynedig.

Cynhelir agoriad swyddogol yr arddangosfa, sy’n cynnig cipolwg ar y profiad traws, rhwng 6-7.30 yr hwyr, nos Iau 22 Tachwedd. Croeso cynnes i bawb.

Dywedodd Holden, myfyriwr PhD a darlithydd yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth: “Mae fy ymchwil a’r arddangosfa wedi fy nghalluogi i ddangos fy mhersbectif fel artist trawsryweddol mewn cyfrwng sy’n datblygu, yn ogystal â chodi fy llais fel ymgyrchydd dros hawliau trawsryweddol. Mae’r arddangosfa yn ganolbwynt i bobl drawsryweddol a chisryweddol i gyfathrebu a deall y tebygrwydd rydym i gyd yn ei rannu.”

Mae ymchwil Holden yn ystyried rôl straen rhywiol gwrywaidd mewn dynion trawsryweddol a lle lleisiau trawsryweddol mewn celf gyfoes.

Bydd This Is How It Feels yn Oriel yr Ysgol Gelf tan 9 Chwefror 2019.

Mae’r Oriel ar agor o 10yb tan 5yh, ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd ar gau dros dymor y Nadolig, o 21 Rhagfyr tan 4 Ionawr 2019. Mynediad am ddim.