Datgelu cynlluniau manwl i drawsnewid yr Hen Goleg

Dyluniad artist yn dangos yr atriwm arfaethedig y tu cefn ac uwchlaw 1 a 2 Y Rhodfa Newydd fel rhan o ailddatblygiad yr Hen Goleg.

Dyluniad artist yn dangos yr atriwm arfaethedig y tu cefn ac uwchlaw 1 a 2 Y Rhodfa Newydd fel rhan o ailddatblygiad yr Hen Goleg.

11 Rhagfyr 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi datgelu’r cynlluniau diweddaraf ar gyfer gwireddu ei gweledigaeth uchelgeisiol i adnewyddu’r Hen Goleg, un o adeiladau mwyaf eiconig Cymru.

Cafodd cynigion manwl ar gyfer y prosiect gwerth miliynau o bunnoedd eu datgelu yn ystod lansiad ymgynghoriad cyhoeddus 28 diwrnod a gynhaliwyd yn yr Hen Goleg nos Fawrth 11 Rhagfyr 2018.


Yr Hen Goleg ac 1 a 2 Y Rhodfa Newydd ar hyn o bryd

Bydd y prosiect i ddod â bywyd newydd i’r Hen Goleg yn darparu cyfleusterau diwylliannol, dysgu a menter newydd at ddefnydd y Brifysgol, y gymuned leol a'r rhanbarth yn ehangach.

Bydd yr ailddatblygiad arfaethedig yn sbarduno adfywiad economaidd, gan greu hyd at 40 o swyddi newydd a denu dros 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys creu amgueddfa yn adrodd hanes Coleg Prifysgol cyntaf Cymru, gofod ar gyfer celf ac arddangosfeydd eraill, canolfan wyddoniaeth a darganfod, cyfleusterau cynadledda a thrafod, a gofod astudio 24 awr i fyfyrwyr.

Gan weithio gyda phartneriaid prosiect megis Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Gŵyl y Gelli, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Ceredigion, bydd y Brifysgol yn amlygu iaith a diwylliant Cymraeg i gynulleidfaoedd rhyngwladol a rhaglen weithgareddau i deuluoedd ac ysgolion.

Caiff yr Hen Lyfrgell â’i phaneli pren godidog ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau a gwyliau yn ogystal â phriodasau, a bydd y lloriau uchaf yn cynnig llety pedair seren o safon uchel mewn 33 ystafell.

Mae elfennau eraill yr ailddatblygiad yn cynnwys 12 o unedau busnes newydd gyda chefnogaeth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), stiwdios ar gyfer artistiaid, cyfleusterau cymunedol, caffi-bistro a bar.

Mewn ychwanegiad trawiadol at y cynlluniau gwreiddiol i drawsnewid yr Hen Goleg, mae penseiri treftadaeth hefyd wedi ymgorffori yn y prosiect y ddau dŷ Sioraidd cyfagos sy'n eiddo i'r Brifysgol.

Caiff atriwm chwe llawr o uchder ei greu uwchben a thu ôl i rif 1 a 2 y Rhodfa Newydd, gan gadw'r ddau dŷ hanesyddol ond yn cynnig mynediad hwylus ar ffurf lifft a grisiau cyfoes i’r Hen Goleg yn ogystal ag i ystafell ddigwyddiadau ar y to gyda golygfeydd arbennig dros Fae Ceredigion.

(chwith i'r dde): Dyluniad artist yn dangos yr atriwm chwech llawr o uchder y tu cefn i 1 a 2 Y Rhodfa Newydd, dyluniad artist yn dangos y Llyfrgell fel lleoliad ar gyfer priodasau a dyluniad artist o’r Cwad.

 

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Mae'r Hen Goleg yn un o adeiladau mwyaf adnabyddus Cymru ac yn fan geni Prifysgol Cymru, ond mae angen inni ail-gyflunio ei bwrpas ar gyfer cenhedlaeth newydd. Bydd ein cynlluniau ailddatblygu a chodi arian yn arwain at greu cyfleusterau a chyfleoedd newydd i'r Brifysgol ac i fyfyrwyr yn ogystal â bod yn brosiect adfywio o bwys i'r gymuned leol, a fydd yn denu ymwelwyr o bell ac agos. Trwy roi bywyd newydd i'r Hen Goleg, byddwn hefyd yn diogelu rhan greiddiol o'n treftadaeth ac yn sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i’r adeilad rhestredig Gradd I hwn."

Mae’r cynigion manwl i ailddatblygu'r Hen Goleg ac 1 a 2 Y Rhodfa Newydd wedi’u llunio gan dîm o benseiri ac ymgynghorwyr treftadaeth profiadol, ac amcangyfrifir y bydd y gost yn £26.2m.

Bydd y costau'n cael eu cyllido’n rhannol trwy raglen fuddsoddi cyfalaf y Brifysgol ond y brif ffynhonnell fydd cyllid allanol, gan gynnwys grantiau gan sefydliadau ac ymddiriedolaethau elusennol, a lansio apêl godi arian fawr yn y Flwyddyn Newydd.

Cafodd y prosiect Bywyd Newydd i’r Hen Goleg gyllid datblygu rownd un o £850,000 gan y Loteri Genedlaethol ym mis Gorffennaf 2017, gan ganiatáu i Brifysgol Aberystwyth barhau â’i chynlluniau ar gyfer yr adeilad. Caiff yr argymhellion manwl eu hystyried gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn yr ail rownd, lle mae disgwyl y bydd penderfyniad ar y grant llawn o £10.5m yn cael ei wneud yn hydref 2019.

Y bwriad yw ailagor yn y flwyddyn academaidd 2022-2023 pan fydd y Brifysgol yn dathlu ei 150 mlwyddiant.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr yr Iaith Gymraeg a Chysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae hwn yn brosiect ysbrydoledig gyda photensial diwylliannol, addysgol ac economaidd enfawr. Datblygwyd ein cynigion gyda mewnbwn gan y gymuned leol yma yn Aberystwyth a'n cyn-fyfyrwyr, yn enwedig Cymdeithas y Cyn Fyfyrwyr. Edrychwn ymlaen at dderbyn rhagor o adborth ar ein cynigion yn ystod yr wythnosau nesaf ac i lansio ein hapêl codi arian yn fuan ar ôl hynny er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr adeilad sy’n agos at galonnau cynifer."

Fel rhan o'r ymgynghoriad cyhoeddus, mae'r cynlluniau a'r delweddau manwl ar gael ar-lein www.aber.ac.uk/hengoleg ac yn cael eu harddangos yn yr Hen Goleg o 12 Rhagfyr 2018 hyd 24 Ionawr 2019 (ac eithrio gwyliau’r Nadolig 22 Rhagfyr 2018 - 2 Ionawr 2019). Bydd cais am ganiatâd cynllunio a chaniatâd adeilad rhestredig yn cael ei gyflwyno wedi hynny i Gyngor Sir Ceredigion.