Gŵyl Ddysgu yn cynnig cyfleoedd astudio newydd ar gyfer y Flwyddyn Newydd

19 Rhagfyr 2018

Ydych chi'n bwriadu gwneud adduned Blwyddyn Newydd i roi cynnig ar rywbeth gwahanol neu ddysgu sgil newydd?

Os felly, gallai Gŵyl Ddysgu Prifysgol Aberystwyth fod yn union yr hyn sydd ei angen arnoch.

Trefnir y digwyddiad gan adran Dysgu Gydol Oes y Brifysgol, a caiff ei chynnal rhwng 3 a 6 o’r gloch brynhawn Iau 10 Ionawr 2019 yn Adeilad Elystan Morgan ar Gampws Llanbadarn y Brifysgol.

Mae'r Ŵyl yn cynnig sesiynau blasu 40 munud yn y dyniaethau, gwyddoniaeth, celf ac ieithoedd, ac mae croeso i ymwelwyr alw heibio unrhyw sesiwn neu aros am y tair awr llawn.

Mae'r sesiynau'n cynnwys:

  • Rhag i ni anghofio: beth allwn ni ei ddarganfod am ein cyn-deidiau fu’n ymladd yn y rhyfel byd
  • Siarad yn ffigurol: Cerfio gwraig o Willendorf allan o sebon lemon
  • Rhowch gynnig ar eich Sbaeneg: Cyfarchion
  • Rhedyn a sut maent yn atgynhyrchu
  • Gweithdy Stori
  • Beth ydych chi'n ei wybod am ddiwylliant Sbaeneg? Sesiwn cwis
  • Paentio gyda dyfrlliw: gweithgaredd byr
  • Golwg ar hanes celf
  • Dehongliad cyfoes ar Fywyd Llonydd

Mi fydd yna groeso cynnes i bawb, a digonedd o barcio am ddim a diodydd cynnes.

Dywedodd Alison Pierse, Cydlynydd Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae'r Flwyddyn Newydd yn gyfle gwych i fentro ar her newydd, rhoi cynnig ar rywbeth newydd, datblygu sgil efallai neu ddysgu iaith newydd. Mae ein Gŵyl Ddysgu yn gyfle i roi cynnig arni, gweld beth allai apelio, a gobeithio y bydd y cymhelliant ychwanegol hwnnw yn eu harwain ar daith ddarganfod, boed hynny er mwynhad neu i wella potensial gyrfa. A beth allai fod yn well na gwneud hyn mewn amgylchedd cyfeillgar lle gallwch gyfarfod â phobl ddiddorol a gwneud ffrindiau newydd.”

Bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i gofrestru ar gyrsiau a manteisio ar y gostyngiad 'cynnig cynnar'.

Mae'r Adran Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig ystod eang o gyrsiau o Gelf Jync i Siapaneeg, Creu Printiau i Permaddiwylliant, ac ysgrifennu sgriptiau i Fywyd Llonydd.

Os am wybod mwy, ewch i dudalennau ar-lein yr adran neu cysylltwch â (01970) 621580 / dysgu@aber.ac.uk.