Darlith Gyhoeddus: The Roaring Nineties and Noughties

Yr Athro Syr Steve Smith

Yr Athro Syr Steve Smith

27 Chwefror 2019

Bydd Is-Ganghellor Prifysgol Caerwysg a chyn Bennaeth Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn dychwelyd i gampws Penglais ddydd Mawrth 5 Mawrth i gyflwyno darlith gyhoeddus fel rhan o Gyfres Siaradwyr Canmlwyddiant 2019.

O dan y teitl The Roaring Nineties and Noughties, bydd yr Athro Syr Steve Smith yn canolbwyntio ar gyfnod unigryw yn hanes gwleidyddiaeth ryngwladol yn dilyn diwedd y Rhyfel Oer a thwf cyflym yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a ddaeth yn sgil hynny ar droad y ganrif.

Caiff y ddarlith ei chynnal am 6yh nos Fawrth 5 Mawrth 2019 ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar gampws Penglais. Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb.

Roedd yr Athro Syr Steve Smith yn aelod o staff yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Aberystwyth rhwng 1992-2002, ac yn ystod y cyfnod hwn bu’n Bennaeth yr Adran ac yn Uwch Ddirprwy Is-Ganghellor (Materion Academaidd) y Brifysgol.

Dywedodd Dr Jan Ruzicka, Cyfarwyddwr Dathliadau Canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: "Pleser yw cael croesawu'r Athro Syr Steve Smith yn ôl i'r Adran i gyflwyno un o ddarlithoedd allweddol y canmlwyddiant. Yn ystod ei gyfnod yn Aberystwyth, roedd y byd yn dod yn fwyfwy cydgysylltiedig ac fe ddaeth yn hollbwysig deall trefn ryngwladol newydd y nawdegau a'r heriau a ddaeth yn ei sgil. Yn ei ddarlith gyhoeddus, bydd yr Athro Syr Steve Smith yn ystyried sut roedd Aberystwyth mewn sefyllfa unigryw i fynd i'r afael â'r heriau hynny a chwarae rhan hanfodol o safbwynt astudio a chyflunio gwleidyddiaeth ryngwladol."Caiff y ddarlith nesaf yng Nghyfres Siaradwyr y Canmlwyddiant ei thraddodi gan Gideon Rachman, Prif Sylwebydd Materion Tramor y Financial Times, ddydd Iau 4 Ebrill 2019.

Hanes yr Adran
Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919, yn fuan ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf lle cafodd mwy na 100 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth eu lladd.

Rhoddodd David Davies (a ddaeth yn Arglwydd Davies o Landinam), dyn busnes, cymwynaswr a gwleidydd o Ganolbarth Cymru, a'i chwiorydd Gwendoline a Margaret, £20,000 i goffáu’r myfyrwyr a syrthiodd ar faes y gâd er mwyn sefydlu “canolfan ddysg fyd-eang ac ymchwil ar wleidyddiaeth ryngwladol yn Aberystwyth”.

Aberystwyth oedd cartref y gadair gyntaf yn y byd ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol, ac fe’i henwyd mewn teyrnged i Arlywydd America, Woodrow Wilson - y gŵr sy’n cael ei gysylltu’n bennaf â chreu Cynghrair y Cenhedloedd dros gynnal cyfiawnder rhyngwladol a chadw’r heddwch.

Fel rhan o flwyddyn canmlwyddiant 2018-19, cynhelir aduniad arbennig i gyn-fyfyrwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym mis Mehefin 2019.

Mae rhagor o fanylion am y canmlwyddiant ar gael ar wefan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.