Wythnos Gwyddoniaeth Prydain ym Mhrifysgol Aberystwyth

07 Mawrth 2019

Bydd dros 1,600 o ddisgyblion o ysgolion ar draws canolbarth a gorllewin Cymru yn ymweld â ffair wyddoniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 12, 13 a 14 Mawrth, fel rhan o Wythnos Gwyddoniaeth Prydain 2019.

Wedi ei seilio ar y thema “Teithiau”, bydd cyfle i gyw-wyddonwyr ymweld â glan môr; gamu o’r fferm i’r fforc; trwy ddyffrynoedd afonydd a thros rhewlifoedd; i’r blaned Mawrth a'r sêr; trwy berfeddion, goluddion ac ymenyddau; a chwrdd â robotiaid.

Mae'r arddangosfa wyddoniaeth flynyddol hynnod boblogaidd, sydd bellach yn ei 21ain blwyddyn, wedi sefydlu ei hun fel rhan o raglen Wythnos Wyddoniaeth Prydain.

Dywedodd Dr Debra Croft, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiad Cymdeithasol sy’n trefnu'r Ffair Wyddoniaeth flynyddol : “Rwy’n rhyfeddu at wybodaeth, brwdfrydedd a phroffesiynoldeb ein staff a'n myfyrwyr, wrth iddynt gyd-weithio a gwirfoddoli er mwyn sicrhau llwyddiant y digwyddiad hwn. Mae'r sgiliau trosglwyddadwy sydd yn cael eu dysgu a’u defnyddio gan ein myfyrwyr gwyddoniaeth gyda’r gynulleidfa heriol ifanc hon yn agoriad llygad ac yn arloesol.”

Nod yr arddangsofa yw ehangu gwybodaeth am wyddoniaeth ymhlith disgyblion ysgol, eu hysbrydoli a dangos iddynt pa mor bwysig yw gwyddoniaeth ym mywydau pob un ohonom.

Mae hefyd yn gyfle gwych i dynnu sylw at ehangder a dyfnder y gwaith gwyddonol sy'n cael ei wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd disgyblion o flynyddoedd 4, 5, 6 a 7 yn ymweld â'r digwyddiad yn y Gawell Chwaraeon ar Gampws Penglais rhwng 9.30 y bore a 3 y prynhawn, 12-14 Mawrth.

Mae'r arddangosfa hefyd ar agor i aelodau'r cyhoedd, gyda digwyddiad noson drws agored estynedig nos Fercher 13 Mawrth o 4 - 6.30 yr hwyr.