Y radd a allai fynd â chi i’r blaned Mawrth

Ariel Ladegaard sydd wedi bod yn gweithio yn ucheldir Atacama Chile ar ExoFiT, treialon maes sy’n cael eu harwain gan Airbus ar ran ESA.

Ariel Ladegaard sydd wedi bod yn gweithio yn ucheldir Atacama Chile ar ExoFiT, treialon maes sy’n cael eu harwain gan Airbus ar ran ESA.

14 Mawrth 2019

Mae cyfle i weithio ar daith Asiantaeth Ofod Ewrop (ESA) / Roscosmos i’r blaned Mawrth yn 2020 yn golygu bod myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth gam yn nes at yrfa yn y diwydiant gofod.

Mae Ariel Ladegaard o Bergen yn Norwy newydd ddychwelyd o Anialwch Atacama yn Chile, lle roedd ESA yn cynnal profion maes ar fersiwn o’r crwydryn gaiff ei ddefnyddio i  i chwilio am fywyd ar y blaned goch.

Tra’n fyfyriwr israddedig ar radd Gwyddoniaeth y Gofod a Roboteg yn Aberystwyth, cafodd Ariel wahoddiad gan y darlithydd cyfrifiadureg Dr Helen Miles i edrych ar sut y gellid cywiro delweddau wedi iddynt gael eu hanfon yn ôl o’r blaned Mawrth ac adlewyrchu ei gwir liwiau.

Mae Dr Miles a'i chyd-wyddonydd y gofod ym Mhrifysgol Aberystwyth Dr Matt Gunn wedi bod yn gweithio ar PanCam, system gamera panoramig y daith.

Pwrpas PanCam, a adeiladwyd gan Labordy Gwyddoniaeth y Gofod Mullard yng Ngholeg Prifysgol Llundain, yw tynnu delweddau stereo a 3D o diroedd Mawrth.

Mae’r tîm yn Aberystwyth, o dan arweinyddiaeth Dr Gunn, wedi datblygu model o PanCam a tharged graddnodi unigryw sydd wedi ei ysbrydoli gan ffenestri lliwgar eglwysi’r oesoedd canol er mwyn sicrhau bod y lliwiau’n gywir.

Bydd daearegwyr yn astudio’r delweddau sydd yn cael eu tynnu yn ystod y daith i chwilio am fwynau a allai olygu presenoldeb dŵr a hanfodion bywyd.

Ar gyfer ei brosiect israddedig blwyddyn olaf yn 2018, yr her i Ariel oedd datblygu pecyn meddalwedd prototeip sydd yn gwneud yn iawn am ddiffygion camera'r daith, ac effeithiau gweithio mewn amgylchedd garw’r blaned Mawrth.

“Mae gyrru o gwmpas Mars yn heriol ac yn cymryd llawer o amser, felly rydych chi eisiau bod yn sicr eich bod chi'n mynd i'r cyfeiriad cywir. Bydd delweddau a gymerwyd o bellter yn cael eu dadansoddi i chwilio am safleoedd posibl lle gall y crwydryn ddefnyddio ei radar dadansoddi tîr a'i ddril, ac felly mae angen iddynt fod mor gywir â phosibl.

“Unwaith y byddant yn ôl ar y Ddaear, bydd y delweddau'n cael eu prosesu gan biblinell gywiro radiometrig sy'n eu haddasu'n awtomatig ar sail yr hyn a wyddom am sut y cymerwyd y delweddau a sut mae'r camera'n ymateb i olau dan amgylchiadau amrywiol.”

Canolbwyntiodd prosiect israddedig Ariel ar ddatblygu fframwaith i brofi’r cysyniad ar gyfer y biblinell gywiro, gan dynnu ar y gwaith a wnaed ar y feddalwedd ar gyfer Telesgop Gofod James Webb NASA.

Ac yntau bellach yn fyfyriwr PhD yn Aberystwyth, mae Ariel yn gweithio ar y cam nesaf ac yn datblygu'r algorithmau fydd yn cywiro'r delweddau.

Dywedodd Ariel: “Mae Aberystwyth wedi bod yn wych. Mae wedi bod yn bopeth y gallwn fod wedi’i ddymuno ei gael o addysg o ran pa mor gyflym yr wyf wedi gallu cymryd rhan mewn rhywbeth ystyrlon i mi, prosiect go iawn. Fy nod yw gweithio ym maes robotiaid sydd yn archwilio’r gofod, diwydiant arbenigol a all fod yn anodd cael mynediad iddo, ond yn sicr mae Aberystwyth wedi agor y drws i mi.”

Wrth siarad am ei waith ar ExoMars, ychwanegodd Ariel: “Mae wedi bod yn braf iawn gweld pa mor agored mae cymuned ExoMars wedi bod i actorion newydd sydd â’u cwestiynau, eu syniadau a'u safbwyntiau eu hunain ar bethau. Ar y dechrau roedd popeth am y daith yn ymddangos yn frawychus o fawr gan ei bod wedi datblygu dros gyfnod mor hir. Mae tipyn o rwystrau yn wynebu pobl newydd wrth iddynt ddeall sut mae popeth yn cyd-blethu, nid yn unig ar lefel dechnegol, ond hefyd ar lefelau cymdeithasol a gwleidyddol. Ond wrth i mi ddod i wybod mwy, rwy’n hyderus bod gen i rywbeth i'w gynnig i'r prosiect.”

Yn ogystal â datblygu meddalwedd prosesu delweddau, mae Ariel wedi bod yn gweithio ar ExoFiT, treialon maes sy’n cael eu harwain gan Airbus ar ran ESA, ac sy’n defnyddio crwydryn prototeip tebyg i ExoMars yn Sbaen a Chile.

Yn ystod mis Chwefror 2019, bu’n gweithio ger Arsyllfa Paranal, yn ucheldir Anialwch Atacama, fel rhan o'r tîm sy’n profi gweithdrefnau a dulliau'r daith o gasglu gwyddoniaeth.

Roedd hefyd yn gyfle i brofi’r biblinell brosesu delweddau, gyda lluniau'n cael eu hanfon yn ôl i'r DU i'w cywiro.

Ychwanegodd Ariel: “Mae cyfraniad Aberystwyth at ExoMars yn troi o amgylch graddnodi system gamera'r daith a chywiro delweddau - deall sut mae'r camerâu yn gweithio a sut y gallwn brosesu a dehongli'r delweddau. Braf oedd gallu profi rhywfaint o’r gwaith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yn Aber tra yn Chile a chasglu prawf-ddata gwerthfawr.”

Cyn dod i  Aberystwyth, bu Ariel yn astudio yng Nghanolfan Addysg y Gofod Norwy ger Andenes yng ngogledd Norwy.

Bu'n gweithio am saith mlynedd yn y diwydiant teledu a ffilm cyn dychwelyd i addysg uwch fel myfyriwr aeddfed i astudio gradd BSc mewn Gwyddoniaeth y Gofod a Roboteg yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth.