Sain newydd i hen ffilmiau distaw

Philomusica yn perfformio sgôr Neil mewn dangosiad o ffilm ias gan Hitchcock, Blackmail, yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn 2014. Llun: Keith Morris

Philomusica yn perfformio sgôr Neil mewn dangosiad o ffilm ias gan Hitchcock, Blackmail, yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn 2014. Llun: Keith Morris

18 Mawrth 2019

Bydd gwaith un o ffigurau mwyaf adnabyddus ym maes cyfeilio a chyfansoddi i ffilmiau distaw yn cael ei ddathlu mewn cyfres o ddigwyddiadau ym Mhrifysgol Aberystwyth o 22-24 Mawrth 2019.

Mae Neil Brand, a astudiodd Ddrama ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi perfformio ledled y byd ac wedi chwarae i gynulleidfaoedd o dros 5,000 - o'r Piazza Maggiore yn Bologna i Sgwâr Trafalgar. 

Wedi gwneud enw iddo'i hun fel pianydd i ffilmiau distaw, aeth ymlaen i gyfansoddi sgoriau cerddorfaol hefyd i ffilmiau distaw. 

Mae'n ymddangos yn rheolaidd fel arbenigwr gwadd ar raglenni teledu a radio i siarad am gerddoriaeth ffilm, ac ef oedd cyflwynwr y cyfresi diweddar gan y BBC, Sound of Cinema, Sound of Song aThe Sound of Movie Musicals.

Yn Aberystwyth y cychwynnodd Neil ar ei daith i yrfa mewn cerddoriaeth a darlledu, yn astudio yma yn y 1970au hwyr.  Cyflwynwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddo gan y Brifysgol yn 2013.

Mae'r penwythnos o ddathliadau yn agor gyda chyflwyniad cyhoeddus yn rhad ac am ddim yn Hen Neuadd yr Hen Goleg, yn dechrau am 6yh ddydd Gwener 22 Mawrth. 

Yn The Silent Pianist Speaks bydd Neil yn siarad am ei yrfa amrywiol o chwarter canrif yn teithio'r byd, gyda chlipiau o ffilmiau distaw, a digonedd o ddarnau yn cael eu chwarae'n fyw.

Digwyddiad canolog y penwythnos fydd dangos campwaith o ffilm ddistaw gan Anthony Asquith, sef Underground, gyda chyfeiliant byw o dan y sgrin fawr gan gerddorfa Philomusica a fydd yn chwarae sgôr a gyfansoddwyd gan Neil. 

Bydd y noson, a fydd yn dechrau am 8yh nos Sadwrn, 23 Mawrth, yng Nghanolfan y Celfyddydau, hefyd yn cynnwys darnau o sgoriau ffilm enwog i Gone with the Wind, Murder on the Orient Express aThe Big Country

Mae tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau ar 01970 623232 neu www.aberystwythartscentre.co.uk.  

Mae Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Aberystwyth, David Russell Hulme, wedi cydweithio â Neil wrth drefnu cerddoriaeth i'r gerddorfa, ac fe fydd yn arwain perfformiad y Philomusica nos Sadwrn.

Dywedodd David: “Mae partneriaeth fyw rhwng cerddoriaeth a ffilm byth ers dyddiadau cyntaf y 'darluniau byw' hyd y ffilmiau mawr hynod o boblogaidd heddiw. Mae gweld ffilm ddistaw gyda cherddorfa lawn yn chwarae sgôr a gyfansoddwyd yn unswydd iddi yn brofiad unigryw ac eithriadol o gyffrous. Mae'r gerddorfa yn creu dimensiwn byw, bron yn operatig, sy'n cyfareddu’r gynulleidfa nes ei bod hi'n ymgolli yn y delweddau a'r ddrama ar y sgrin. Mae ffilmiau fel Underground, sydd wedi'u ffilmio'n atmosfferig mewn du-a-gwyn, yn dod yn fyw mewn ffordd na ellir ei gwerthfawrogi heb ei phrofi drosoch eich hun.  Mae'r sgôr yn fendigedig o amrywiol, llawn dychymyg a melodïau cyfoethog ac, wrth gwrs, mae'n ddramatig gyda naws arbennig.

“Mae arwain cerddorfa i gyd-chwarae â ffilm ddistaw, heb glic-draciau na chymorth arall tebyg yn gofyn am ymdrech arbennig - 90 munud o gerddoriaeth ddi-dor, sydd angen dilyn union dempo metronomaidd fel y bydd digwyddiadau allweddol a welir ar y sgrin yn cyd-fynd yn union â'r gerddoriaeth.  Yn nhermau arwain cerddorfa, mae'n debyg i groesi Rhaeadr Niagara ar raff dynn lithrig.”

Ac yn olaf, ar 2yp ddydd Sul, 24 Mawrth, bydd Neil ar lwyfan Theatr y Werin yng Nghanolfan y Celfyddydau gyda'i sioe newydd am yr enwog Buster Keaton, yn gwahodd y gynulleidfa i ddod gydag ef ar daith drwy fywyd cynnar Buster, ei gastiau doniolaf a mwyaf peryglus, cyn iddo gyfeilio i glasur o ffilm ddistaw Keaton o 1928,  Steamboat Bill Junior