Darlith Gyhoeddus: ‘The End of the Liberal World Order?’

Yr Athro G. John Ikenberry

Yr Athro G. John Ikenberry

24 Ebrill 2019

Bydd yr Athro G. John Ikenberry, o Brifysgol Princeton yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau, 2 Mai 2019, yn rhan o Gyfres Canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Teitl ei ddarlith fydd 'The End of the Liberal World Order?' a bydd yn tybied am ddyfodol, ac yn cwestiynau’r heriau cyfredol sy’n wynebu’r drefn ryngwladol ryddfrydol a ffurfiwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac sydd wedi tra-arglwyddiaethu ar faterion byd-eang ers diwedd y Rhyfel Oer.

Mae G. John Ikenberry yn un o’r meddylwyr rhyngwladol mwyaf blaenllaw ar faterion yn ymwneud â threfn y byd. Ef yw Athro Albert G. Milbank Gwleidyddiaeth a Materion Rhyngwladol Prifysgol Princeton. Mae hefyd yn Ysgolhaig o Fri Byd-eang ym Mhrifysgol Kyung Hee yn Seoul, De Corea. Yn y gorffennol bu’n gweithio ym Mhrifysgol Georgetown a Choleg Balliol, Rhydychen. Mae ganddo brofiad helaeth ym maes polisi gan ei fod wedi gwasanaethu yn Adran y Wladwriaeth, UDA.

Ysgrifennodd yr Athro Ikenberry yn helaeth am bolisi tramor UDA a’i effeithiau ar y drefn ryngwladol. Ymhlith ei weithiau pwysig niferus mae llawer yn sefyll allan:Liberal Leviathan (2011) sy’n archwilio tarddiad, argyfwng a thrawsffurfiad system ryngwladol America; America Unrivaled (2002), sef casgliad o ysgrifau ar ddyfodol cydbwysedd grym; ac mae After Victory (2001) yn edrych ar y ffordd yr adeiladwyd trefnau rhyngwladol yn sgîl rhyfeloedd mawr am rym.

Meddai Dr Jan Ruzicka, Cyfarwyddwr Dathliadau Canmlwyddiant yr Adran Gweidyddiaeth Ryngwladol: "Mae John Ikenberry yn ysgolhaig rhagorol sy’n cyfuno ymchwil â phrofiad helaeth o bolisi. Mae ei gyfrol After Victory yn glasur ynghylch y ffordd y llwyddodd neu na lwyddodd grymoedd mawrion i greu trefnau rhyngwladol sy’n parhau. Yn ganolog i’w ddadl mae’r syniadau o ymataliaeth a sefydliadau, y ddeubeth wedi dod o dan bwysau cynyddol mewn gwleidyddiaeth ryngwladol yn ddiweddar. Ond hebddynt, nid yw trefn ryngwladol ryddfrydol yn bosibl."

Cynhelir darlith G. John Ikenberry 'The End of the Liberal World Order?' ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, am 6yh, nos Iau 2 Mai 2019. Mynediad AM DDIM ac mae croeso i unrhyw un sy'n dymuno dod.

Hanes yr Adran

Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919, yn fuan ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf lle cafodd mwy na 100 o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth eu lladd.

Rhoddodd David Davies (a ddaeth yn Arglwydd Davies o Landinam), dyn busnes, cymwynaswr a gwleidydd o Ganolbarth Cymru, a'i chwiorydd Gwendoline a Margaret, £20,000 i goffáu’r myfyrwyr a syrthiodd ar faes y gâd er mwyn sefydlu “canolfan ddysg fyd-eang ac ymchwil ar wleidyddiaeth ryngwladol yn Aberystwyth”.

Aberystwyth oedd cartref y gadair gyntaf yn y byd ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol, ac fe’i henwyd mewn teyrnged i Arlywydd America, Woodrow Wilson - y gŵr sy’n cael ei gysylltu’n bennaf â chreu Cynghrair y Cenhedloedd dros gynnal cyfiawnder rhyngwladol a chadw’r heddwch.

Yn rhan o flwyddyn canmlwyddiant 2018-19, cynhelir aduniad arbennig i gyn-fyfyrwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym mis Mehefin 2019.

Mae rhagor o fanylion am y canmlwyddiant ar gael ar wefan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol