Ombwdsmyn rhyngwladol yn ymgynnull yn Aberystwyth

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal yr ail ddigwyddiad ar ‘Seminar Arfer Da: Grymoedd a Phosibiliadau Newydd: Yr Ombwdsmon a gwella darparu gwasanaethau cyhoeddus’ ar ddydd Gwener 21 Mehefin 2019.

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal yr ail ddigwyddiad ar ‘Seminar Arfer Da: Grymoedd a Phosibiliadau Newydd: Yr Ombwdsmon a gwella darparu gwasanaethau cyhoeddus’ ar ddydd Gwener 21 Mehefin 2019.

20 Mehefin 2019

Bydd Ombwdsmyn Gwasanaethau Cyhoeddus o’r DU, Iwerddon a Chatalonia yn ymgynnull ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Gwener 21 Mehefin 2019 ar gyfer seminar ryngwladol ar sut maen nhw’n dal gwasanaethau cyhoeddus i gyfrif.

Dan gadeiryddiaeth Dr Elin Royles o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol a Chanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, bydd y seminar arbenigol yn dwyn ynghyd Rosemary Agnew, Swyddog Gwasanaethau Cyhoeddus yr Alban; Marie Anderson, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon, a Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Yn ymuno â nhw fydd Peter Tyndall, Llywydd Sefydliad Rhyngwladol yr Ombwdsmon (IOI); Rafael Ribo, Ombwdsmon Catalonia a Llywydd Ewropeaidd yr IOI, a Llyr Gruffydd AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru. 

Hefyd yn annerch y digwyddiad bydd Dr Richard Kirkham, Prifysgol Sheffield ac Ania Rolewska sy’n ymgeisydd PhD yn y maes hwn ym Mhrifysgol Aberystwyth

Dyma’r ail seminar i’w drefnu ym Mhrifysgol Aberystwyth i drafod pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, corff annibynnol sydd â phwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus.

Bydd y seminar yn canolbwyntio ar y pwerau newydd a roddwyd i’r Ombwdsmon yng Nghymru, sy’n cynnwys pwerau i ddechrau ymchwiliadau ar ei liwt ei hun lle mae tystiolaeth i awgrymu y byddai hynny er budd y cyhoedd.

Dywedodd Dr Elin Royles: “Mae’r seminar amserol hwn yn dilyn pasio deddf 2019 Gwasanaethau Cyhoeddus Ombwdsmon (Cymru) ym mis Mai 2019. Mae’n gyfle gwerthfawr i drafod goblygiadau’r pwerau newydd hynny, gan dynnu’n benodol ar  ddealltwriaeth gymharol o arfer da mewn rhannau eraill o’r DU ac Ewrop. Wrth wneud hynny, gallwn gyfrannu at drafodaethau ehangach ar rôl yr Ombwdsmon parthed dwyn gwasanaethau cyhoeddus i gyfrif.”

Dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: “Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddod â chymuned yr Ombwdsmyn ynghyd a rhannu arfer da. Byddwn hefyd yn edrych ar sut gall pwerau newydd fy swyddfa roi mwy o lais i’r rheiny sydd heb lais. Er enghraifft, gwyddom fod pobl weithiau’n amharod neu’n ofn siarad felly bydd y ddeddfwriaeth newydd yn caniatau i bobl gwyno’n anhysbys, ac o gwrdd â’n meini prawf, byddwn ni’n gallu cynnal ymchwiliad. Rwy’n edrych ymlaen at weithredu’r newid cyffrous hwn, ac rwy’n ffyddiog y bydd yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yng Nghymru.”

Bydd ‘Seminar Arfer Da: Grymoedd a Phosibiliadau Newydd: Yr Ombwdsmon a gwella darparu gwasanaethau cyhoeddus’ yn dechrau am 09:45 ddydd Gwener 21 Mehefin 2019. Mynediad drwy wahoddiad yn unig.