Prifysgol Aberystwyth yn sicrhau £1.8m o gyllid yr UE ar gyfer diwydiannau creadigol Cymru

Dr Helen Miles, Arweinydd Prosiect a Chydlynydd Academaidd y rhaglen Advanced Media Production.

Dr Helen Miles, Arweinydd Prosiect a Chydlynydd Academaidd y rhaglen Advanced Media Production.

21 Mehefin 2019

Mae disgwyl y bydd sector diwydiannau creadigol Cymru yn elwa ar fuddsoddiad gwerth £1.8m o gyllid yr UE mewn rhaglen sgiliau lefel uchel dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth.

Bydd y cyllid yn cefnogi'r rhaglen Advanced Media Production, sy'n ceisio sicrhau mwy o arloesedd a chynhyrchiant drwy weithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y sector, gan gynnwys graddedigion newydd.

Fel rhan o'r rhaglen lefel Meistr, bydd 155 o bobl yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio technolegau newydd ym maes cynhyrchu'r cyfryngau dros y pedair blynedd nesaf.

Bydd yr hyfforddiant yn arwain pobl i wneud gwaith dwysach ym maes ymchwil ac arloesi o fewn y sector, ac yn helpu cyflogwyr i fynd i'r afael â'r prinder mewn sgiliau technegol ym maes cynhyrchu'r cyfyngau drwy wella sgiliau'r gweithlu presennol.

Mae sector diwydiannau creadigol Cymru yn un sy'n symud yn gyflym ac yn cynnwys ffilm a theledu, dylunio cynhyrchion, ffasiwn, cerddoriaeth a'r celfyddydau perfformio. Drwy Advanced Media Production, bydd tua 50 o gyflogwyr yn Ne Cymru, Gorllewin Cymru a Gogledd-orllewin Cymru yn profi manteision y rhaglen.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles: "Mae economi'r diwydiannau creadigol werth bron i £1 biliwn i Gymru, a dyma un o'r sectorau sy'n tyfu gyflymaf yn y DU.

"Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau bod gan fusnesau Cymru y sgiliau a'r arbenigedd i dyfu mewn diwydiant byd-eang sy'n profi newidiadau technolegol mawr. Rwy'n hynod o falch hefyd y bydd mwy na 150 o bobl yn y sector hwn yng Nghymru yn gallu datblygu eu gyrfa ymhellach a'u potensial i ennill mwy o gyflog o ganlyniad i'r rhaglen.

"Dyma enghraifft arall o sut mae Cymru yn elwa ar gyllid yr UE, sy'n parhau i fod yn hanfodol wrth foderneiddio ein heconomi a sbarduno cynnydd go iawn ym maes ymchwil a datblygu, gwyddoniaeth, seilwaith a sgiliau. Mae mentrau fel hyn yn hollbwysig wrth gyflawni uchelgeisiau Cynllun Cyflogadwyedd Cymru, sy'n ceisio cefnogi pobl i fewn i waith heddiw gan baratoi hefyd ar gyfer heriau uniongyrchol a heriau hirdymor y dyfodol."

Drwy raglenni 2014-2020 yr UE, mae Prifysgol Aberystwyth wedi sicrhau mwy na £40m sydd wedi helpu i ddatblygu'r Campws Arloesi a Menter newydd, canolfan filfeddygaeth o'r radd flaenaf, ailwampio adeilad yr Hen Goleg ac amrywiaeth o brosiectau ymchwil a datblygu, a sgiliau.

Wrth groesawu'r rhaglen newydd, dywedodd yr Athro Qiang Shen, Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran Busnes a'r Gwyddorau Ffisegol, Prifysgol Aberystwyth: “Fel sefydliad addysgu ac ymchwilio blaengar, ein nod yw cynnig addysg ysbrydoledig mewn amgylchedd creadigol. Mae'r cyhoeddiad hwn yn gam pwysig tuag at sicrhau bod ymchwil sydd ar flaen y gad ym meysydd realiti estynedig a rhithwir, ar gael i gwmnïau, sefydliadau ac unigolion lleol. Gall hefyd wneud cyfraniad enfawr i economi, gan gynnig dimensiwn hollol newydd i fusnesau mewn byd sy'n gynyddol ddigidol.”

Yn y degawd diwethaf, mae prosiectau yng Nghymru sydd wedi derbyn cyllid gan yr UE wedi creu mwy na 48,000 o swyddi ac 13,000 o fusnesau newydd, gan helpu 86,000 o bobl nôl i fyd gwaith.