Y Brifysgol yn dathlu rhagoriaeth wrth addysgu

Alison Pierse, Dysgu Gydol Oes yn derbyn tystysgrif y buddugwr yng Ngwobrau Cwrs Nodedig 2018-19 yn ystod Wythnos y Graddio 2019.

Alison Pierse, Dysgu Gydol Oes yn derbyn tystysgrif y buddugwr yng Ngwobrau Cwrs Nodedig 2018-19 yn ystod Wythnos y Graddio 2019.

08 Awst 2019

Alison Pierse, Tiwtor Celf Dysgu Gydol Oes, sydd wedi ennill Gwobr Cwrs Nodedig Prifysgol Aberystwyth 2018-19 am ei modiwl dysgu o bell Hanes Celf, Figuratively Speaking: The History of Western Figurative Sculpture.

Nod y Gwobrau Cwrs Nodedig, sydd ar eu chweched flwyddyn bellach, yw cydnabod yr arferion dysgu ac addysgu gorau oll ymhob rhan o'r Brifysgol.

Cafodd y modiwl buddugol ei ganmol am ei agwedd arloesol tuag at gyd-gynllunio â'r myfyrwyr, y profiad dysgu 3 dimensiwn ar gyfer myfyrwyr nad ydynt o bosibl yn astudio ar y campws, ac am sicrhau bod pob agwedd ar y modiwl yn gwbl hygyrch i ddysgwyr.

Yn ogystal â'r enillydd, cafodd y modiwlau canlynol Ganmoliaeth Uchel:

  • Tîm Dysgu o Bell, Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig - Research Methods
  • Dr Stephen Chapman, Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig - The Future of Packaging
  • Dr Alexandros Koutsoukis, Gwleidyddiaeth Ryngwladol - Behind the Headlines
  • Dr Jennifer Wood, Ieithoedd Modern - Sbaeneg (i Ddechreuwyr)

Meddai Dr James Woolley o'r Uned Cyfoethogi Dysgu ac Addysgu: "Mae ystod amrywiol yr arddulliau dysgu ac addysgu a welwyd yn y ceisiadau am y Gwobrau eleni yn adlewyrchu'r gwaith arloesol sy'n cael ei wneud ledled y sefydliad, ac ehangder y dulliau dysgu ac addysgu a gynigir i fyfyrwyr, gan gynnwys Dysgu o Bell, Dysgu Gydol Oes, a modiwlau campws.

"Llongyfarchiadau i enillwyr eleni ac i'r rhai a gafodd glod uchel, bob un ohonynt yn dangos dirnadaeth gadarn o gyd-destun a gofynion y dysgwyr, yn ogystal ag agwedd arloesol tuag at gynllunio cwrs a defnydd ysbrydoledig o adnoddau i gyfoethogi'r dysgu, megis Blackboard."

Cyflwynwyd y gwobrau i'r enillwyr yn seremonïau graddio'r Brifysgol a gynhaliwyd rhwng 16 - 19 Gorffennaf 2019.

Dyfarnwyd safon Aur i Brifysgol Aberystwyth yn Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu 2018 a chafodd ei henwi'n Brifysgol y Flwyddyn am Ansawdd y Dysgu yng Nghanllaw Prifysgolion Da'r Times a'r Sunday Times am 2018 ac yn 2019.