Gôl-geidwad talentog yw’r diweddaraf i dderbyn Ysgoloriaeth Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth

Chwith i'r dde:  Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr gyda deiliaid yr Ysgoloriaeth, Alex Pennock a Mathew Jones, a Donald Kane, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth.

Chwith i'r dde: Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr gyda deiliaid yr Ysgoloriaeth, Alex Pennock a Mathew Jones, a Donald Kane, Cadeirydd Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth.

13 Tachwedd 2019

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Prifysgol Aberystwyth a Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth i’r gôl-geidwad talentog, Alex Pennock.

Mae Alex, sy’n ddeunaw oed ac yn dod o Aberystwyth, yn fyfyriwr yn y flwyddyn gyntaf yn astudio BSc mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.

Tra bo’n astudio ar gyfer ei radd, bydd Alex yn chwarae i Glwb Pêl-droed Tref Aberystwyth yn Uwch Gynghrair Cymru a hefyd i dîm pêl-droed Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Cymru (BUCS).

Mae Ysgoloriaeth Prifysgol Aberystwyth a Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth yn werth £4,000 y flwyddyn, a cheir ystod o fanteision eraill yn cynnwys aelodaeth Blatinwm o Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol, cyfleoedd datblygu hyfforddiant pêl-droed, yswiriant meddygol, gwasanaeth ffisiotherapi, a chit ar gyfer gemau ac ymarfer.

Ariennir yr ysgoloriaeth ar y cyd gan Glwb Pêl-droed Tref Aberystwyth a Chronfa Aber y Brifysgol, sy’n derbyn rhoddion gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth o bob cwr o’r byd.

“Mae cael lle ar y cynllun ysgoloriaeth hwn yn rhywbeth yr wyf i a fy nheulu yn falch iawn ohono,” meddai Alex. “Mae gallu chwarae pêl-droed a chael addysg prifysgol yn wych. Hyd yn hyn, rwy’n mwynhau fy amser yn y Brifysgol yn fawr, gan fod fy nghwrs mor ddiddorol ac rwyf wedi cwrdd â llawer o bobl newydd sydd eisoes yn ffrindiau da. Rwy’n edrych ymlaen at yr hyn fydd gan y tair blynedd nesaf i’w gynnig, yn academaidd ac o ran y pêl-droed.”

Dywedodd Cadeirydd Clwb Pêl-droed Tref, Donald Kane, sy’n gyn-fyfyriwr o’r Brifysgol: “Llongyfarchiadau calonnog i Alex ar ennill Ysgoloriaeth fawr ei bri Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth. Mae Alex yn fachgen lleol a fu’n chwarae dan 16 oed ac roedd yn aelod o dîm dan 19 Tref Aberystwyth a enillodd Gwpan Datblygu Uwch Gynghrair Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol yn y Drenewydd ym mis Mai 2019. Mae ef bellach yn chwarae i’r Tîm Cyntaf, ac un o’i gyd-chwaraewyr yn y tîm yw deiliad arall yr Ysgoloriaeth, Mathew Jones.

“Ers iddo ennill yr ysgoloriaeth yn 2018, mae Mathew wedi chwarae bron yn ddi-dor i’r tîm cyntaf. Cafodd ei enwi’n Is-Gapten a’i ddewis ar gyfer carfan Rannol Broffesiynol Cymru a gafodd gêm gyfartal yn erbyn Lloegr yng Nghlwb Pêl-droed Dinas Salford ym mis Mawrth 2019. Ef hefyd oedd capten tîm Prifysgol Aberystwyth pan chwaraeodd yn erbyn Prifysgol Bangor yng nghystadleuaeth ryng-golegol 2019 yng Nghoedlan y Parc o flaen 1,500 o bobl.”

Prifysgol Aberystwyth yw prif noddwr Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth ar gyfer tymor 2019-20.

Yng ngêm y tîm yn erbyn Clwb Pêl-droed y Bala nos Wener 8 Tachwedd, derbyniodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr, git y tîm cyntaf mewn ffrâm ar ran y Brifysgol, fel arwydd o ddiolch gan Glwb Pêl-droed Tref Aberystwyth.

Dywedodd yr Athro Woods: “Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth yn 1884, ddeuddeng mlynedd yn unig ar ôl i’r Brifysgol agor ei drysau hithau i fyfyrwyr. Ers hynny mae myfyrwyr a staff o’r Brifysgol wedi cefnogi’r ‘Seasiders’, neu chwarae iddynt, ac mae’r nawdd a’r ysgoloriaeth yn adeiladu ar y berthynas hirdymor hon, ac yn agor cyfleoedd i chwaraeon ac addysg uwch.”

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am Ysgoloriaeth Prifysgol Aberystwyth a Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth yw 15 Gorffennaf 2020. Gellir cael hyd i fanylion llawn a’r ffurflen gais ar-lein ar: www.aber.ac.uk/ysgoloriaethau.  Gall ymgeiswyr hefyd gysylltu â Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth i drafod eu haddasrwydd: abertownfc@live.co.uk.