Cyn Brif Weinidog Cymru i ymuno â Phrifysgol Aberystwyth

Cyflwynwyd Cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn James, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn ystod Graddio 2019.

Cyflwynwyd Cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn James, yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn ystod Graddio 2019.

15 Ionawr 2020

Mae Cyn Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, wedi ei benodi yn Athro’r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Fe fydd Carwyn Jones yn ymuno ag Adran Y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol yn rhan amser cyn camu o’i rôl fel Aelod Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr ar ddiwedd y Cynulliad presennol yn 2021.

Yn ei rôl newydd fe fydd yn cynnal darlithoedd ac yn cyfrannu at y drafodaeth ehangach ar gyfraith gyhoeddus a chyfansoddiadol.

Dywedodd Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rwy wrth fy modd fod Carwyn Jones yn ymuno â ni yn Aberystwyth. Fel Cyn Brif Weinidog, bargyfreithiwr ac un sydd wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth cyhoeddus daw â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth gyfreithiol, gyfansoddiadol a gwleidyddol a fydd o fudd mawr i’n myfyrwyr a chydweithwyr ar draws y Brifysgol.”

Wrth drafod ei benodiad, dywedodd Carwyn Jones: “Mae’n anrhydedd fawr i mi gael fy mhenodi i’r gadair ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae gen i atgofion gwych o Aber fel myfyriwr ac mae’r Brifysgol yn agos iawn at fy nghalon. Mae hwn yn gyfnod o newid mawr iawn yn hanes cyfraith gyfansoddiadol Cymraeg a Phrydeinig ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at weithio gyda fy nghydweithwyr newydd i sicrhau bod Aber ar flaen y gâd wrth siapio ein dyfodol cyfansoddiadol.

Mae Carwyn Jones yn gyn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac astudiodd y Gyfraith yn Aberystwyth. Cafodd ei gyflwyno’n Gymrawd y Brifysgol yng Ngorffennaf 2019.

Wedi iddo hyfforddi fel bargyfreithiwr yn Llundain, bu’n ymarfer ei grefft yn Abertawe am ddeng mlynedd. Yn ystod ei gyfnod yno bu’n gweithio fel tiwtor proffesiynol ar Gwrs Galwedigaethol y Bar ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cafodd ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf ym mis Mai 1999.

Apwyntiwyd ef yn Weinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad yn dilyn etholiad 2003, ac wedi hynny bu’n Weinidog Addysg, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg, Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Tŷ. Gwasanaethodd fel Prif Weinidog o 2009 tan 2018.

Dywedodd Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Emyr Lewis,: “Ac yntau’r cyfreithiwr cyntaf i gael ei benodi’n Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones oedd un o’r cyntaf o wleidyddion blaenllaw Cymru i ddeall yn llawn ardrefniant cyfansoddiadol 2006, ac i fynd ati’n hyderus i’w gryfhau a’i wneud yn fwy eglur.”

“Goruchwyliodd ddatblygiadau cyfansoddiadol sylweddol, gan gynnwys refferendwm o blaid pwerau deddfwriaethol mwy eglur ac effeithiol i’r Cynulliad Cenedlaethol, yn ogystal â gwrthsefyll heriau gan Lywodraeth y DU i ddeddfau Cymreig yn y Goruchaf Lys.”

“Yn ystod ei gyfnod fel Prifweinidog, arweiniodd y ddadl ar ddatganoli cyfiawnder, cyfraniad a brofodd yn drobwynt yn y drafodaeth am sefydlu system gyfiawnder annibynnol i Gymru. Fe oedd un o’r gwleidyddion cyntaf yn y DU i alw am gonfensiwn cyfansoddiadol i ailwampio cyfansoddiad y DU fel ei fod yn addas ar ôl datganoli, thema sy’n parhau yn ei waith gyda Grŵp Diwygio’r Cyfansoddiad ar Fil y Ddeddf Uno.”

“Fe fydd ei benodiad yn cyfoethogi profiad dysgu ein myfyrwyr, sydd eisoes yn ardderchog, ac yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr i’r cyfansoddiad Prydeinig mewn cyfnod sydd â photensial o newid mawr.”

Mae’r Gyfraith wedi cael ei dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 1909, a hi yw’r adran hynaf yng Nghymru.