Y Gymdeithas Deledu Frenhinol yn gwobrwyo gwaith myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth

Llun RTS Cymru: Sol Gardiner-Wade yng Ngwobrau RTS Cymru

Llun RTS Cymru: Sol Gardiner-Wade yng Ngwobrau RTS Cymru

05 Mawrth 2020

Mae ffilm ffeithiol gan fyfyrwyr o Adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth wedi cyrraedd y brig unwaith eto yng Ngwobrau Teledu Myfyrwyr y Gymdeithas Deledu Frenhinol yng Nghymru.

Bywyd amgen yw thema Rutted Fields gan Sol Gardiner-Wade a Monika Bednarczyk ac mae’n cynnwys cannoedd o oriau o archif ffilm teulu o deithwyr modern wedi eu cywasgu i ffilm ffeithiol pymtheg munud o hyd.

Cynhyrchwyd y ffilm fel rhan o brosiect blwyddyn olaf a dyfarnwyd gwobr ffilm Ffeithiol myfyrwyr iddi yng Ngwobrau RTS a gynhaliwyd yn Cineworld yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

Graddiodd Sol mewn Ysgrifennu Creadigol ac Astudiaethau Ffilm a Theledu ac mae’n parhau i astudio yn yr adran wrth iddo gwblhau ei radd Meistr, tra bod Monika wedi graddio mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu ac yn bwriadu cwblhau gradd Meistr yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.

Mae’r ffilm, sydd wedi ei chynhyrchu gan Sol a’i chyfarwyddo gan Monika, yn cyplysu deunaw mlynedd o ffilmiau teulu teithiol â chyfweliadau newydd gydag aelodau o’r teulu am eu hatgofion.

Dywedodd Sol: “Rydym wrth ein boddau o fod wedi ennill y wobr hon. Yn syml, mae’r ddogfen yn sôn am fywyd amgen ac yn bry ar y wal o fy nheulu teithio modern. Fe’m ganwyd ar fws ac yn ystod fy mhlentyndod buom yn teithio o amgylch Ewrop. Gyda benthyciad o £1,200, prynodd Mam gamera a chafodd ei ddefnyddio ar lawer o adegau i warchod y teulu. Mae’r casgliad yn gyfoeth o ffilmiau diddorol ac yn dangos sut mae gwahanol genhedloedd yn ymateb i’n teulu a’r tensiynau gwaelodol sydd ynghlwm â hyn.”

Ein nod oedd herio agweddau pobl tuag at deithwyr modern, term nad yw llawer o bobl yn gyfarwydd ag ef, gan dreiddio i fy ngorffennol er mwyn dangos yn hytrach na dweud.”

Ychwanegodd: “Enwyd y ffilm yn Rutted Fields oherwydd y rhigolau mae’r teiars yn eu gadael pan fyddwch yn gyrru trwy gae, felly dyna’r unig beth rydych chi’n gadael ar eich ôl ac yn mynd ag ef gyda chi. Yn ogystal, byddai ffermwyr yn atal teithwyr modern trwy gloddio ffosydd sydd hefyd yn cael eu galw’n rhigolau. Felly, mae Rutted Fields yn cynrychioli teithio ond mae hefyd yn cynrychioli’r rhwystrau a roddwyd ar waith i geisio ein hatal rhag byw fel teithwyr ac yn nodi realiti ein hamgylchiadau sef ein bod yn byw mewn caeau a bod mwd a baw ym mhobman.”

Dywedodd Monika: “Yr her fwyaf i mi oedd cael rheolaeth greadigol dros y ffordd yr oedd y stori yn cael ei hadrodd a pha segmentau i’w cynnwys. Caniataodd Sol a’i deulu imi dyrchu yn archif y teulu a dewis a dethol pa adrannau i’w defnyddio yn y ffilm. Roedd yn brofiad heriol ond pleserus a ffurfiannol. Rydym yn gobeithio creu nodwedd, pwy a ŵyr beth a ddaw yn y dyfodol.”

“Hoffem ddiolch i Elin Morse, cydlynydd y modiwl a’r adran dechnegol dan arweinyddiaeth yr Uwch Hyfforddwr Technegol Siencyn Langham a ddigideiddiodd yr holl archif, am eu holl waith yn ystod y prosiect hwn.”

Crëwyd y ffilm fel rhan o fodiwl Cynhyrchu Dogfen yn y drydedd flwyddyn dan arweiniad Elin Morse, darlithydd Cyfryngau Ymarferol yn yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd: “Rydym wrth ein boddau fel Adran bod gwaith Sol a Monika wedi ei gydnabod gyda gwobr RTS. Dyma’r pedwerydd tro mewn pum mlynedd i’n ffilmiau cael eu cydnabod yn genedlaethol, sy’n amlygu safon y gwaith a grëir mewn ffilmiau dogfen a ffuglen yn yr Adran.”