Prifysgol Aberystwyth yn darparu offer diogelwch i'r GIG yn ystod argyfwng COVID19

Un o’r sgriniau wyneb sydd yn cael eu creu drwy ddefnyddio technoleg argraffu 3D

Un o’r sgriniau wyneb sydd yn cael eu creu drwy ddefnyddio technoleg argraffu 3D

01 Ebrill 2020

Mae adrannau o Brifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at sicrhau diogelwch gweithwyr gofal iechyd wrth i nifer y cleifion sydd wedi'u heintio â’r Coronafeirws barhau i gynyddu.

Mae staff y Brifysgol yn cynhyrchu ac yn rhoi offer diogelwch personol (PPE) i staff sydd yn gweithio mewn canolfanau gofal iechyd lleol.

Aeth tîm o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear â'u holl gyflenwad o offer diogelwch personol i'r ysbyty cyffredinol lleol yn Aberystwyth, Ysbyty Bronglais, tra bod cydweithwyr yn y Gyfadran Busnes a Gwyddorau Ffisegol yn cynhyrchu penwisgoedd diogelwch ar gyfer gweithwyr iechyd rheng flaen.

Mae Dr Patricia Shaw, arbenigwraig mewn roboteg ddeallusol, a Natalie Roberts, Swyddog Ymgysylltu, yn defnyddio technoleg argraffu 3D i gynhyrchu sgriniau wyneb ac yn eu darparu yn rhad ac am ddim i ofalwyr yn y gymuned, meddygfa leol a grŵp elusennol ym maes gofal iechyd arbenigol.

Gan weithio o’u cartre, mae Patricia a Natalie yn argraffu'r benwisg cyn atodi sgrin a strap elastig y mae modd ei haddasu sy’n cael eu darparu gan roddwyr lleol.

Pan fyddant wedi eu hargraffu a'u gosod at ei gilydd, mae'r sgriniau yn amddiffyn yr wyneb rhag gronynnau hylif mwy o faint ac yn atal pobl rhag cyffwrdd â’u hwynebau gyda’u dwylo.

Dyluniad cwmni argraffwyr 3D yw’r benwisg, ac mae ymdrech Patricia a Natalie yn rhan o fudiad ehangach gan y gymuned argraffu 3D ledled y DU i gyflewni offer i ddarparwyr gofal iechyd ar adeg o angen mawr.

Dywedodd Natalie Roberts: “Daeth y cais cyntaf i’r Adran Cyfrifiadureg, ond erbyn hynny roeddem eisoes wedi cau ac yn gweithio o gartref. Diolch byth fod cyswllt yr adran yn gwybod bod gennym ni argraffydd 3D parod a da, ac felly cyfeiriodd y cais aton ni. Yna fe wnaethon ni hysbysebu ar ein grŵp WhatsApp Covid-19 lleol i weld a oedd unrhyw un arall a fyddai’n elwa. Yn sgil hyn daethom i gysylltiad ag aelod o staff o elusen gofal iechyd arbenigol a ofynnodd beth y gallem ei ddarparu, a meddygfa leol.”

Mae natur fanwl y gwaith yn golygu mai tair penwisg maent yn gallu eu cynhyrchu bob dydd. Eisoes cafodd chwe sgrin wyneb eu danfon, gyda'r eitemau gorffenedig yn cael eu casglu o gynhwysydd bwyd wedi'i sterileiddio y tu allan i'w cartref.

Ychwanegodd Natalie Roberts: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi dod o hyd i ffordd o helpu eraill yn ystod y cyfnod anodd hwn. Os gall unrhyw berchnogion argraffwyr 3D lleol eraill roi help llaw, bydden ni’n awyddus iawn iddyn nhw gysylltu, oherwydd, fel mae pethau’n mynd, bydd angen mwy o gapasiti arnon ni yn fuan iawn.”

Yn ogystal ag amddiffyn y defnyddiwr, mae'r penwisgoedd yn eco-gyfeillgar gan eu bod wedi'u gwneud o PLA, math o blastig sy'n fioddiraddadwy ac yn ailgylchadwy.

Ar ôl i'r pandemig coronafirws gilio, mae Natalie yn edrych ymlaen at ailafael yn ei gwaith ymgysylltu ac ymgorffori gweithdai ar ddylunio ac argraffu 3D wrth i fwy a mwy o ysgolion fuddsoddi yn y dechnoleg.

Yn y cyfamser, roedd pennaeth yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Dr Sarah Davies yn rhan o dîm a gludodd yr offer diogelwch personol i Ysbyty Bronglais - gan roi eu stoc gyfan i weithwyr rheng flaen.

Dywedodd Dr Davies: “Rydyn ni'n gweld straeon dyddiol yn y cyfryngau am sut mae ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol yn hepgor eu diogelwch personol eu hunain er mwyn cynorthwyo rhai sydd â'r angen mwyaf o dan yr amgylchiadau enbyd hyn. Allwn ni ddim diolch digon iddyn nhw wrth gwrs, ond os gall ein stoc o offer eu helpu mewn unrhyw ffordd, rydyn ni’n fwy na pharod i'w rhoi iddyn nhw.”