Academyddion Prifysgol Aberystwyth yn cael eu hanrhydeddu gan Academi Cymru

Yr Athro Glyn Hewinson, Deiliad Cadair Sêr Cymru II STAR a Chyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Tiwberciwlosis Buchol –un o bum academydd Prifysgol Aberystwyth i gael ei ethol fel Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru eleni.

Yr Athro Glyn Hewinson, Deiliad Cadair Sêr Cymru II STAR a Chyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Tiwberciwlosis Buchol –un o bum academydd Prifysgol Aberystwyth i gael ei ethol fel Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru eleni.

29 Ebrill 2020

Mae pump o academyddion Prifysgol Aberystwyth ymhlith y newydd-ddyfodiaid i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Y Cymrodyr newydd o Brifysgol Aberystwyth yw:

  • Yr Athro Glyn Hewinson, Deiliad Cadair Sêr Cymru II STAR a Chyfarwyddwr Canolfan Ragoriaeth Tiwberciwlosis Buchol
  • Yr Athro Emyr Lewis, Athro’r Gyfraith a Phennaeth Adran y Gyfraith a Throseddedeg Prifysgol Aberystwyth
  • Yr Athro Ryszard Piotrowicz, Athro’r Gyfraith, Prifysgol Aberystwyth; Athro Cynorthwyol y Gyfraith, Prifysgol De Awstralia; Is-lywydd Cyntaf GRETA, Grŵp Arbenigwyr Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn y Fasnach mewn Pobl
  • Yr Athro David Rabey, Athro Theatr ac Ymarfer Theatr
  • Yr Athro Reyer Zwiggelaar, Pennaeth Ysgol y Graddedigion, Deon Cyswllt Cyfadran Ymchwil ac Athro’r Adran Cyfrifiadureg

Maen nhw’n ymuno â 38 o Gymrodyr newydd eraill, sydd oll yn rhannu cyswllt â Chymru, ei phrifysgolion neu ei bywyd deallusol, gan gynrychioli pob arbenigedd.

Dywedodd Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae’n bleser clywed bod pum academydd arall Aberystwyth wedi’u hethol yn Gymrodorion Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r anrhydedd hwn yn gydnabyddiaeth haeddiannol o amlygrwydd ein cydweithwyr yn eu priod ddisgyblaethau academaidd a’u cyfraniad gwerthfawr i fywyd academaidd Cymru.”

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas am yr aelodau newydd: “Rwyf i wrth fy modd yn gweld ethol 43 o Gymrodyr newydd, sydd unwaith eto’n dangos y talentau sy’n gysylltiedig â Chymru, fydd yn atgyfnerthu gwaith y Gymdeithas, yn cydnabod rhagoriaeth, hyrwyddo ymchwil a defnyddio ein harbenigedd i wasanaethu’r Genedl.”

Yn ogystal mae’r Gymdeithas wedi derbyn dau Gymrawd newydd Er Anrhydedd, y Ffisegydd y Fonesig Jocelyn Bell Burnell a’r Hanesydd yr Athro Margaret Macmillan.

Mae etholiad i’r Gymrodoriaeth yn gydnabyddiaeth gyhoeddus o ragoriaeth, ac fe’i cynhelir yn dilyn archwiliad trylwyr o gyflawniadau’r rheini a enwebir yn eu meysydd perthnasol.

Bellach mae gan Gymrodoriaeth y Gymdeithas 562 o aelodau. Mae eu harbenigedd cyfunol yn galluogi’r Gymdeithas i gryfhau ei chyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru, drwy ei chyfraniadau o ran datblygu polisi, cynnal darlithoedd a seminarau cyhoeddus a’i rhaglen Astudiaethau Cymreig sy’n ehangu.

Caiff y Cymrodyr newydd eu derbyn yn ffurfiol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas, a gynhelir o bell eleni oherwydd cyfyngiadau Covid-19, ar 20 Mai.