Cynnig adeiladau’r Brifysgol i addysgu myfyrwyr Ysgol

Campws Penglais

Campws Penglais

06 Mai 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cynnig safle i Gyngor Sir Ceredigion ar Gampws Penglais  fel rhan o gynlluniau wrth gefn sydd wedi’u rhoi ar waith pe bai disgyblion yn dychwelyd yn raddol i’r ysgol cyn Medi 2020.

Mae adeilad Ysgol Penweddig yn cael ei ddefnyddio i ffurfio rhan o Ysbyty Enfys Ystwyth, felly mae’r Brifysgol wedi cynnig i Gyngor Sir Ceredigion ddefnyddio adeiladau ac adnoddau, fel y gellir darparu addysg tan ddiwedd naturiol Tymor yr Haf ym mis Gorffennaf 2020. 

Bydd y safle ar gael i’r Cyngor ar Gampws Penglais. Mae’r Cyngor a’r Brifysgol yn gweithio gyda’i gilydd ar hyn o bryd er mwyn cwblhau’r trefniadau ymarferol o ran sut gall hyn weithio, a hynny o fewn cyfyngiadau’r Llywodraeth.

Meddai Andrea James, Cyfarwyddwr Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym yn falch o allu cynorthwyo’r ysgol a’r sir. Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o gyfraniadau gan y Brifysgol, o ran adnoddau ac arbenigedd, at yr ymdrechion i fynd i’r afael â’r feirws o fewn ein cymuned, yn ogystal ag yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Yn yr amseroedd heriol iawn hyn, mae ein rôl ganolog o fewn ein cymuned yn bwysicach nag erioed.”

Dywedodd Meinir Ebbsworth, Prif Swyddog Addysg: “Rydym yn falch iawn bod un o’n hysgolion yn barod i helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn cyfnod o angen mawr. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio na fydd angen defnyddio’r lleoliad fel ysbyty ac y bydd ein hymdrechion i reoli’r haint yn ddigon effeithiol. Rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Aberystwyth am eu haelioni a’u perthynas waith wych. Os bydd angen, bydd y cyfleusterau hyn yn sicrhau y bydd disgyblion yn gallu derbyn addysg mewn amgylchedd diogel a phriodol.”

Nid oes unrhyw gyhoeddiad wedi’i wneud ynglŷn â disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol, ac ni wyddys eto a fydd angen y cynlluniau wrth gefn hyn. Fodd bynnag, mae’r cynlluniau hyn wedi’u sefydlu er mwyn sicrhau y bydd grwpiau o ddisgyblion Penweddig yn gallu dychwelyd i’w haddysg ffurfiol ar yr un pryd â phob disgybl tebyg yn y sir.