Perygl bod problemau iechyd hirach-dymor yn cael eu hanwybyddu wrth i’r feirws frathu - arbenigwr

01 Gorffennaf 2020

Mae perygl y caiff heriau iechyd hirach-dymor eu hesgeuluso wrth i lywodraethau ganolbwyntio ar bandemig y Coronafeirws, mae arbenigwr wedi rhybuddio.

Ar draws y byd, amcangyfrifir bod 829,000 o farwolaethau bob blwyddyn o ganlyniad i fol rhugl oherwydd dŵr yfed, iechydaeth a hylendid dwylo anniogel.

Gwnaed y sylwadau gan yr Athro Colin McInnes, sy’n Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn gyn-ymgynghorydd i Sefydliad Iechyd y Byd ac yn gyn-aelod o’u grŵp arbenigol ar Ddiplomyddiaeth Iechyd y Byd, mewn darlith gyhoeddus am “Gwleidyddiaeth Ryngwladol Covid19”.

Yn y ddarlith, rhybuddia’r academydd blaenllaw fod yr argyfwng yn debygol o gryfhau tueddiadau i ganolbwyntio ar faterion iechyd tymor byr, gyda ffocws ar ‘afiechydon acíwt ar draul afiechydon cronig’ ac ‘achosion ar draul cyflyrau endemig’.

Dywedodd Yr Athro McInnes: “Un o'r rhesymau pennaf dros achosion afiechydon yw tlodi byd-eang ac mae mynd i’r afael â thlodi byd-eang yn broblem mor anferth nad oes neb eisiau mynd i'r afael ag ef yn uniongyrchol.

“Felly, goblygiadau COVID ar bolisi iechyd yw ei fod yn atgyfnerthu ffordd benodol o fynd i’r afael â materion iechyd. Felly, rydyn ni’n llawer iawn mwy cyfforddus yn taclo achosion dros gyflyrau endemig. Rydyn ni’n llawer iawn mwy cyfforddus gydag effeithiau afiechydon na mynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi afiechydon.” 

Yn ogystal, dywedodd Yr Athro Colin McInnes y gallai diffyg arweinyddiaeth wleidyddol fyd-eang a chanfyddiad bod sefydliadau rhyngwladol wedi methu â thaclo’r Coronafeirws gyfrannu at gwymp globaleiddio.

Ychwanegodd: “Rwyf wir yn credu nad oes sicrwydd ar hyn ... Mi fyddwn i’n dweud bod globaleiddio mewn argyfwng. Oherwydd yr hyn rydyn ni’n ei weld yn awr yw argyfwng byd-eang, lle nad yw sefydliadau byd-eang wedi darparu’r datrysiadau.

“Felly, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn gwneud yn llawer gwell nag a wnaeth gydag argyfwng Ebola, ond dyw hynny ddim yn anodd iawn ... cafodd ei feirniadu, yn gywir yn gyffredinol, am ei ddelio gydag argyfwng Ebola. Mae’n gwneud yn well nawr.”

Cynhelir darlith gyhoeddus nesaf yn yr un gyfres gan Brifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher 8fed Gorffennaf gyda thrafodaeth am  faterion cyfoes mewn gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau gyda Dr Warren Dockter a Dr Jenny Mathers.