Neges longyfarch i raddedigion 2020

17 Gorffennaf 2020

Mae Canghellor ac Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi llongyfarch eu myfyrwyr a fyddai wedi mynychu eu seremonïau graddio’r wythnos hon.

Fel arfer, yr adeg hon o’r flwyddyn, mae Prifysgol Aberystwyth yn croesawu cannoedd o fyfyrwyr sy’n graddio a’u teuluoedd o bob rhan o’r DU a’r byd yn ôl am bedwar diwrnod o seremonïau graddio yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Y seremoni ar y prynhawn Gwener fyddai’n cloi’r dathliadau.

Yn anffodus, oherwydd pandemig Covid-19, mae Graddio 2020 wedi’i ohirio tan haf 2021.

Mae Canghellor y Brifysgol, Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, ac Is Ganghellor y Brifysgol, Yr Athro Elizabeth Treasure wedi anfon negeseuon fideo at garfan o fyfyrwyr sy’n graddio yn 2020 gan ddymuno’n dda iddynt a’u llongyfarch ar yr hyn maent wedi ei gyflawni.

Eglura’r Athro Treasure: “Mae graddio yn un o gerrig milltir cofiadwy bywyd, yn uchafbwynt yng nghalendr y Brifysgol ac yn ddigwyddiad rwyf yn edrych ymlaen yn fawr tuag ato. Eleni, rwyf innau a fy nghydweithwyr yn rhannu siom ein myfyrwyr o fethu â dod at ei gilydd i ddathlu eu cyflawniadau yn y ffordd draddodiadol.”

“Er nad wyf yn gallu rhannu’r achlysur arbennig hwn mewn person eto, rwy’n llongyfarch pob un o’n carfan sy’n graddio yn 2020 ar gwblhau eu hastudiaethau, a dymunaf yn dda wrth iddynt gwblhau’r rhan hon o daith bywyd a chychwyn ar eu hantur newydd.

Rydym yn edrych ymlaen at eu croesawu yn ôl i Aberystwyth ar gyfer eu graddio'r haf nesaf. Yn y cyfamser, byddant yn ymuno â theulu cynyddol y Brifysgol o gyn-fyfyrwyr led-led y byd. Edrychwn ymlaen at glywed am eu llwyddiannau.”