Aberystwyth yw prifysgol orau’r DU am ansawdd dysgu a phrofiad myfyrwyr yn The Times Good University Guide

Golygfa dros y traeth yn Aberystwyth

Golygfa dros y traeth yn Aberystwyth

18 Medi 2020

Prifysgol Aberystwyth yw’r brifysgol orau yn y DU am ansawdd ei dysgu a phrofiad myfyrwyr, yn ôl The Times / The Sunday Times Good University Guide, wrth iddi barhau i godi yn nhablau’r cynghrair.

Cyhoeddir rhifyn diweddaraf The Times / The Sunday Times Good Unviersity Guide ar ddydd Sul 20 Medi 2020 lle gwelir Aberystwyth yn gyntaf yn y DU am Brofiad Myfyrwyr ac am Ansawdd y Dysgu, i fyny o ail y flwyddyn ddiwethaf.

Ers pum mlynedd bellach, mae Aberystwyth wedi bod y brifysgol orau yng Nghymru am brofiad myfyrwyr, a nawr ar y brig yn y DU.

Mae Aberystwyth wedi dringo tri lle i safle 42, gan atgyfnerthu’n bellach ei statws ymhlith 50 prifysgol orau'r DU.

Yn ei adolygiad, dywed The Times / Sunday Times Good University Guide:

“Daeth Aberystwyth i’r brig yn ein dadansoddiad o’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr ar gyfer boddhad gydag ansawdd y dysgu a’r profiad ehangach yn y brifysgol. Daeth yn ail yn y DU ar y ddau fesur yn 2019 and wedi bod ar y brig am foddhad myfyrwyr am bum mlynedd yn olynol.

“Mae’n beth prin i brifysgol gyflawni’r llwyddiant dwbl yma gyda sgoriau boddhad myfyrwyr ... Nid y myfyrwyr yn unig sy’n meddwl bod y dysgu yn dda; cafodd y brifysgol wobr aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu. Canfu ei banel ‘lefelau rhagorol o estyn’ gan sicrhau y cafodd ei holl fyfyrwyr eu herio i gyrraedd eu potensial llawn.”

Meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae hyn yn newyddion gwirioneddol wych. Mae’r canlyniadau hyn yn dystiolaeth o’r gwaith caled iawn gan gydweithwyr ar draws y Brifysgol.  Mae cael ein cydnabod fel y Brifysgol orau yn y DU am ansawdd y dysgu a phrofiad myfyrwyr yn rhywbeth gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddo.   Hoffwn ddiolch i bawb yma ym Mhrifysgol Aberystwyth am eu cyfraniad tuag at gyflawni hyn.

“Ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd, fydd yn golygu heriau ac addasiadau oherwydd y pandemig byd-eang, byddwn ni’n parhau i anelu at gynnig profiad i fyfyrwyr yn Aberystwyth sydd mor debyg â phosibl i'r profiad ansawdd-uchel rydyn ni bob amser yn anelu at ei gyflawni. Mae’n adeg gyffrous gyda buddsoddiadau allweddol yn dwyn ffrwyth, gan gynnwys ail-agor Neuadd Pantycelyn eleni, a’n hysgol filfeddygol newydd ac adfer yr Hen Goleg dros y blynyddoedd i ddod. Bydd y buddsoddi parhaus hyn yn caniatáu i ni adeiladu ar ein treftadaeth gyfoethog a’n hymrwymiad cenedlaethol at addysg wrth i ni groesawu myfyrwyr a staff o Gymru, y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.”