Cyhoeddi enillydd cystadleuaeth menter o fri i fyfyrwyr

Jamila La Malfa-Donaldson

Jamila La Malfa-Donaldson

13 Ebrill 2022

Mae cynnig busnes i gynhyrchu cynnyrch cywarch arloesol a therapiwtig wedi syfrdanu'r beirniaid i ennill cystadleuaeth syniadau busnes i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth Gwobr CaisDyfeisio (InvEnterPrizeeleni.

Enillodd y cynllun busnes a'r cyflwyniad gan Jamila La Malfa-Donaldson, myfyriwr uwchraddedig sy'n ymchwilio i gywarch diwydiannol, fuddsoddiad busnes o £10,000 a noddwyd gan gyn-fyfyrwyr y Brifysgol.

Bydd ei brand bwyd a chosmetigau, PROHEMPOTIC, yn cynnig amrywiaeth o gynnyrch sy'n deillio o gywarch organig gyda chynhwysion ychwanegol sy'n seiliedig ar blanhigion, â'r nod o gynorthwyo iechyd a lles.

Sicrhaodd syniad busnes Jamila hefyd un arall o wobrau mawr eu bri y gystadleuaeth, sef blwyddyn o ofod swyddfa ar gampws arloesi a menter Aberystwyth, ArloesiAber. Enillodd hefyd wobr o £500 i fusnes gwledig dan nawdd rhwydwaith GRRaIN (Rhwydwaith Twf, Gwydnwch Gwledig ac Arloesi).

Roedd pump o'r deuddeg cais eleni ar y rhestr fer gan y panel beirniadu, a oedd yn astudio’r cynlluniau busnes, yn gwrando ar y cyflwyniadau, ac yn trafod y ceisiadau. 

Dyfarnwyd £1,000 i bob un o'r pum cais gan y Brifysgol, o'i grant Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.   

Dyfarnwyd gwobr ar wahân o £3,000 a noddwyd gan Engineers in Business i Thomas Breeze, myfyriwr uwchraddedig Cyfrifiadureg, a arddangosodd gysyniad roboteg modiwlaidd arloesol, BreezeLabs.

Roedd y panel o feirniaid yn cynnwys nifer o raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus mewn busnes. Ymunodd Karl Swanepoel, enillydd Cais Dyfeisio y llynedd, â nhw hefyd. Graddiodd Karl gyda gradd mewn Deallusrwydd Artiffisial a Roboteg yn 2021.   

Ar ôl sicrhau buddsoddiad yn ei syniad busnes yn Cais Dyfeisio 2021, mae cwmni Karl Revolancer, marchnad lawrydd sy'n cysylltu gweithwyr llawrydd medrus â busnesau uchelgeisiol sydd am dyfu, wedi mynd o nerth i nerth. Yn ogystal â helpu i farnu ceisiadau eleni, cyfrannodd Karl hefyd daleb Revolancer gwerth £1,500 fel gwobr i'r unigolyn y byddai ei syniad busnes yn elwa fwyaf o gymorth llawrydd, megis gwaith dylunio neu ddatblygu gwefan. Dyfarnwyd y wobr hon hefyd i PROHEMPOTIC.

Ar ôl derbyn y gwobrau, dywedodd Jamila La Malfa-Donaldson : “Mae'r cyfle i gystadlu yn y gystadleuaeth Cais Dyfeisio, heb sôn am ei hennill, wedi rhoi cyfle i mi drawsnewid fy mywyd ac rwy'n ddiolchgar iawn amdano. Er mwyn paratoi ar gyfer y gystadleuaeth, gweithiais gydag ymgynghorydd busnes Syniadau Mawr Cymru, Julie Morgan, mynychais yr holl weithdai ar-lein dan arweiniad Aberpreneurs a chymerais ran yn y rhaglen BioAccelerate a gynhaliwyd gan ArloesiAber.”

Mae Jamila yn astudio ar gyfer ei PhD yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), Prifysgol Aberystwyth, ac mae wedi bod yn datblygu prosesau profi, a dulliau trin a phrosesu cywarch diwydiannol ar gyfer cyfansoddion therapiwtig.

Mae'r fyfyrwraig 29 oed o dde-ddwyrain Llundain eisoes wedi bod yn cynllunio sut i ddefnyddio ei gwobr ariannol: “Rwy'n bwriadu gwario'r wobr ariannol ar weithgareddau ymchwil a datblygu ar gyfer y math o gynnyrch, profi'r cynnyrch am ei gynnwys diogelwch a maeth, yn ogystal â datblygu'r brand a gwefan e-fasnach a blog. Rwy’n edrych ymlaen at allu creu tîm o weithwyr llawrydd drwy Revolancer. Rwyf hefyd yn cymryd rhan yn y rhaglen Cynhyrchiant i Ffyniant sy'n cael ei rhedeg gan ArloesiAber i ddatblygu rysáit ar gyfer diod cywarch newydd. Edrychaf ymlaen at ddal ati i weithio gyda Julie Morgan, sydd bellach yn gweithio gyda Menter Antur Cymru, i brofi’r math o gynnyrch mewn Gofod Masnachu dros dro yng nghanol tref Aberystwyth yr haf yma.”

Mae cystadleuaeth Cais Dyfeisio yn cael ei threfnu’n flynyddol gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, ac eleni cafwyd ceisiadau gan fyfyrwyr entrepreneuraidd a grwpiau o fyfyrwyr o bob rhan o'r Brifysgol, a gyflwynodd ystod eang o syniadau busnes. 

Cafwyd cysyniadau dylunio cynnyrch megis cymorth ffon clyfar i bobl ddall a harnais pwysau ar gyfer pwysau tegell; mentrau ar-lein gan gynnwys llwyfan cerddoriaeth a sgwrsio a llwyfan steilio; meddalwedd i gynorthwyo i greu teithiau rhithiol; ap ysgyfaint iach i helpu cleifion i reoli eu clefyd; siop sy'n gwerthu cynnyrch sy'n amgylcheddol-ymwybodol; a chwmni datblygu hadau ac eginblanhigion.

Dywedodd Tony Orme, Ymgynghorydd Gyrfaoedd a Hyrwyddwr Mentergarwch y Brifysgol: “Ddegawd ers ei lansio, mae Cais Dyfeisio yn parhau i fod yn un o'r cystadlaethau syniad busnes i fyfyrwyr mwyaf cyffrous yn y DU.  Gwerth ychwanegol y gystadleuaeth yw, wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau busnes, mae’r ymgeiswyr yn cael cyfle i fynychu gweithdai a chyflwyniadau i fireinio eu sgiliau menter a mynediad at fentora cychwyn busnes un-i-un am ddim gan Syniadau Mawr Cymru. 

“Mae safon y ceisiadau a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni yn sicr wedi bodloni'r disgwyliadau - llongyfarchiadau i bob un ohonynt.  Rydym yn diolch i gyn-fyfyrwyr Aber am eu rhoddion hael sy’n ariannu'r brif wobr, ac wrth gwrs i'n beirniaid gwych. Roedd hi’n wych croesawu enillydd y llynedd, Karl Swanepoel, yn ôl. Rydym yn dilyn ei lwyddiant gyda Revolancer yn eiddgar.  Dymunwn y gorau i Jamila wrth iddi ddatblygu ei busnes.”

Dywedodd Cadeirydd y panel o feirniaid ar gyfer Cais Dyfeisio, Peter Gradwell, a raddiodd o Aberystwyth gyda gradd mewn Peirianneg Meddalwedd yn 2002 ac a sefydlodd y cwmni cyfathrebu rhyngrwyd Gradwell Communications Ltd ac, yn fwy diweddar, rhwydwaith ffonau symudol (IQ Mobile Cyf.): “Roedd y 'Dreigiau' yn falch iawn o ddod yn ôl i asesu ystod wych arall o syniadau busnes arloesol gan fyfyrwyr Aber. Roedd y ceisiadau'n tynnu sylw at amrywiaeth a dycnwch busnesau myfyrwyr, gan ymdrin â chyfleoedd busnes megis ffitrwydd, adloniant, iechyd meddwl, gwyddorau biofeddygol, twristiaeth a roboteg. Llongyfarchiadau i'r enillydd cyffredinol, Jamila, a roddodd gyflwyniad clir ac a gyflwynodd gynllun busnes cynhwysfawr i gyflwyno ystod arloesol o gynnyrch cywarch i'r farchnad, gan ysgogi tueddiad gofal iechyd cyffrous i ddefnyddwyr a phrofiad y Brifysgol o ddatblygu cywarch diwydiannol.”

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau i gefnogi gweithgaredd menter ymysg myfyrwyr (ar draws pob rhaglen radd), graddedigion a staff. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we AberPreneurs.