Cyfarwyddwr Cenedlaethol BBC Cymru yn derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd

Rhuanedd Richards

Rhuanedd Richards

13 Gorffennaf 2022

Mae Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cenedlaethol BBC Cymru, wedi’i hanrhydeddu’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth fel rhan o seremonïau graddio’r haf.

Graddiodd Rhuanedd Richards yn Aberystwyth yn 1995, â gradd mewn Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. Yna treuliodd flwyddyn yn Llywydd Sabothol Urdd Myfyrwyr Aberystwyth, gan wirfoddoli hefyd â Radio Ceredigion, a chyflwyno bwletinau lleol ar BBC Radio Cymru.

Yn 1996 cafodd ysgoloriaeth gan y BBC i astudio am Ddiploma Ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth Darlledu yng Nghaerdydd. Dechreuodd ei gyrfa fel newyddiadurwr gyda BBC Cymru, gan weithio fel Gohebydd y De-orllewin ac, yn nes ymlaen, fel Gohebydd Gwleidyddol.

Cyflwynodd rai o raglenni newyddion a rhaglenni gwleidyddol blaenllaw'r darlledwr ar deledu a radio, yn ogystal â gohebu ar ddigwyddiadau o bwys gartref a thramor a chyfweld ag unigolion cyhoeddus blaenllaw.

Yn 2007, fe'i gwahoddwyd i fod yn Ymgynghorydd Arbennig i Lywodraeth Cymru (2007-11).

Fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr Plaid Cymru o 2011 hyd 2016. Wedi hynny bu’n gweithio fel Ymgynghorydd Arbennig i Lywydd y Cynulliad.

Yn 2018, dychwelodd i'r BBC a daeth yn Olygydd BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw.

Yn 2021 cafodd ei dyrchafu i fod yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol BBC Cymru, yn gofalu am holl wasanaethau a chynnwys y gorfforaeth o Gymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar radio, teledu ac ar-lein.

Cyflwynwyd Rhuanedd Richards fel Cymrawd er Anrhydedd gan Yr Athro Jamie Medhurst o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ar ddydd Mercher 13 Gorffennaf 2022.

Mae’r cyflwyniad llawn ar gael isod, yn yr iaith y’i traddodwyd.

Cyflwyno Rhuanedd Richards gan Yr Athro Jamie Medhurst

Canghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Rhuanedd Richards yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Chancellor, Vice-Chancellor, prospective graduates, and supporters.  It is an honour and a privilege to present Rhuanedd Richards as a Fellow of Aberystwyth University.

Rhuanedd and I have a number of things in common: we attended the same school, Ysgol Gyfun Rhydfelen in Pontypridd, although I should point out that I was in the sixth form when Rhuanedd began in 1985. Deng mlynedd yn ddiweddarach, fe raddiodd Rhuanedd mewn Drama o’r Adran yr wyf i’n aelod ohoni erbyn hyn, sef Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu. After graduating in Drama, she remained in Aberystwyth, as so many graduates of this University do (myself included) and served as President of the Aberystwyth Guild of Students for a year whilst also volunteering at Radio Ceredigion and presenting local BBC Radio Cymru bulletins.

A dyma ddechrau gyrfa hynod ddisglair ym myd darlledu. Yn 1996 cafodd Rhuanedd ysgoloriaeth gan y BBC i astudio am Ddiploma Ôl-raddedig mewn Newyddiaduraeth Darlledu yng Nghaerdydd ac yna fe ddechreuodd ei gyrfa fel newyddiadurwraig gyda BBC Cymru, gan weithio fel Gohebydd y De-orllewin ac, yn nes ymlaen, fel Gohebydd Gwleidyddol. In 2007 she stepped down as BBC Wales Political Correspondent and entered the world of politics, having been invited to become Special Adviser to the Welsh Government. Between 2011 and 2016 Rhuanedd was Plaid Cymru's Chief Executive, before she became Special Adviser to what was then the Assembly’s, now the Senedd’s, Presiding Officer.

Ond roedd tynfa’r cyfryngau darlledu yn ormod, ac yn 2018, dychwelodd i'r BBC a daeth yn Olygydd BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw. Yn 2021 cafodd ei dyrchafu i fod yn Gyfarwyddwr Cenedlaethol BBC Cymru, yn gofalu am holl wasanaethau a chynnwys y gorfforaeth o Gymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar radio, teledu ac ar-lein. As Director of BBC Wales, Rhuanedd is responsible for all the Corporation's services and content from Wales, in Welsh and English, on radio, television and online. And I thought I had a lot on my plate!

One of the good things about attending the same school (albeit some years apart) is that we have friends in common … and these friends are more than willing to share memories of the younger Rhuanedd’s antics, some of which may well have shaped her future career path.

Magwyd diddordeb Rhuanedd yn y byd gwleidyddol yn ystod ei chyfnod yn yr ysgol – a daeth ei doniau celf a llefaru i’r amlwg wrth iddi arwain gweithdy Chweched Dosbarth ar greu baneri a sloganau i rannu gyda Phrif Weinidog y pryd, John Major, wrth iddo ymweld â Phontypridd.

She was clearly destined for a leadership role because she was appointed the school’s Head Girl. And whilst her A Level subjects of History, English, and Drama occupied her during the day she was, by all accounts, a bit of a party animal by night. It was during one of these parties that one Kelly Jones (who later went on to become lead singer of The Stereophonics) decided to gate-crash along with some of his friends, which required Rhuanedd to think on her feet and act swiftly – skills which no doubt are essential in her current role.

Rhuanedd, rydym yn falch iawn o dy lwyddiannau, ac yn gwerthfawrogi’n fawr dy gefnogaeth a’th gyfraniad i’r Brifysgol fel aelod o’r Cyngor. Ac fel Adran, rydym yn edrych ymlaen at ail-gynnau a datblygu’r berthynas gyda thi a chyda BBC Cymru yn y dyfodol.

Canghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Rhuanedd Richards i chi yn Gymrawd.

Chancellor, it is my absolute pleasure to present Rhuanedd Richards to you as a Fellow of Aberystwyth University.

Rhuanedd Richards yn cyflwyno gan Yr Athro Jamie Medhurst

Yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd (Canghellor) gyda Rhuanedd Richards

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2022

Yn rhan o'r seremonïau graddio bydd y Brifysgol hefyd yn cyflwyno deg Cymrodoriaeth er Anrhydedd i unigolion sydd â chysylltiad ag Aberystwyth neu Gymru, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'w dewis feysydd.  

Mae'r Cymrodyr eleni yn cynnwys ffigurau blaenllaw o'r celfyddydau, darlledu, y gyfraith, amaethyddiaeth, a'r sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg.

Dyma Gymrodyr er Anrhydedd 2022 (yn y drefn y’u cyflwynir):

  • Yr Athro Fonesig Elan Closs Stephens DBE, Comisiynydd Etholiadol Cymru ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd y BBC, yn ogystal â bod yr aelod dros Gymru ar y Bwrdd hwnnw
  • Myrddin ap Dafydd, awdur, cyhoeddwr ac Archdderwydd Cymru
  • Yr Anrhydeddus Ustus Datuk Vazeer Alam Mydin Meera, Barnwr Llys Apêl, Malaysia
  • Harry Venning, cartwnydd, darlunydd ac awdur comedi arobryn
  • Dr Zoe Laughlin, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr ‘Institute of Making’
  • Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr Cenedlaethol BBC Cymru
  • Jonathan Whelan, ymgynghorydd TG, awdur a Chymrawd Cymdeithas Gyfrifiaduron Prydain.
  • Tom Jones OBE, amaethwr a chadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm ar adeg ei sefydlu
  • Ei Anrhydedd y Barnwr Nicholas Cooke CF, cyn Uwch Farnwr Cylchdaith yn y Llys Troseddol Canolog, “yr Hen Feili”
  • Gwerfyl Pierce Jones, cyn-Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru