Datblygu cymdeithion DA wedi’u personoli – astudiaeth newydd

07 Medi 2026

Potensial cynorthwywyr personol Deallusrwydd Artiffisial (DA) i ddod yn rhan reolaidd o fywydau beunyddiol pobl fydd testun astudiaeth newydd bwysig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Arbenigwyr TB yn galw am ailwampio'r strategaeth ar gyfer brechu moch daear yng Nghymru

07 Medi 2026

Mae gwyddonwyr yn galw am ymagwedd wedi’i thargedu ac sydd wedi'i harwain gan dystiolaeth ar gyfer brechu moch daear yng Nghymru, gan rybuddio bod bylchau sylweddol mewn gwybodaeth yn cyfyngu ar ei rôl yn y frwydr yn erbyn twbercwlosis buchol.

Datgelu bywydau nosol adar y môr drwy waith celf ac arddangosfa newydd

15 Medi 2026

Bydd bywydau nosol adar drycin Manaw sy'n bridio ar ynysoedd oddi ar arfordir gorllewinol Prydain i'w gweld mewn arddangosfa newydd diolch i waith dan arweiniad academydd o Aberystwyth.

Arbenigwyr TB buchol yn trafod strategaethau rheoli a dileu

16 Medi 2026

Daeth llunwyr polisi, milfeddygon, ymchwilwyr, ffermwyr a chynrychiolwyr y diwydiant o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ac Iwerddon i Brifysgol Aberystwyth heddiw i drafod strategaethau ar gyfer rheoli a dileu twbercwlosis buchol.

Myfyrwyr yn cyrraedd Aberystwyth wrth i Benwythnos Croeso ddechrau

18 Medi 2026

Bydd miloedd o fyfyrwyr yn cyrraedd Aberystwyth heddiw ac ar hyd y penwythnos, wrth i Brifysgol Aberystwyth baratoi i groesawu myfyrwyr newydd a rhai sy'n dychwelyd ar gyfer ei Phenwythnos Croeso blynyddol.

‘Dim syndod’ wrth i blaid Putin ennill etholiad a gyflwynwyd fel refferendwm ar y rhyfel yn Wcráin

22 Medi 2026

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Dr Jenny Mathers yn dadlau nad oedd unrhyw amheuaeth ynghylch canlyniadau etholiadau seneddol Rwsia, ond bod yr ymgyrch wedi datgelu amwysedd ynghylch y rhyfel yn Wcráin.


 

Gwyddonydd milfeddygol o Aberystwyth wedi'i hethol i rôl arwain genedlaethol ym maes milfeddygaeth

25 Medi 2026

Mae darlithydd o Ysgol y Gwyddorau Milfeddygol Prifysgol Aberystwyth wedi cael ei hethol yn Llywydd Cymdeithas Filfeddygol Prydain.

Ysgol Gelf Aberystwyth i gynnal arddangosfa mewn gŵyl ffotograffiaeth ryngwladol

25 Medi 2026

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal arddangosfa fis nesaf fel rhan o Ffoto Cymru 2026, gŵyl ffotograffiaeth ryngwladol sy’n cael ei chynnal ledled Cymru.

Busnesau seidr, gwarchod ffermydd a gŵyl gerddoriaeth yn ennill Gwobrau Menter

28 Medi 2026

Mae mentergarwr sy'n cynhyrchu seidr, sylfaenydd busnes gwarchod ffermydd (farm-sitting) ledled Prydain, a threfnwyr rhaglen o wyliau cerddoriaeth ymhlith enillwyr Gwobrau Menter Prifysgol Aberystwyth.

Opsiwn cymhwyster cwnsela newydd i fyfyrwyr Seicoleg

29 Medi 2026

Gall myfyrwyr Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth bellach ennill cymhwyster cwnsela a gydnabyddir yn genedlaethol ochr yn ochr â'u gradd, yn sgil achrediad gan brif gorff dyfarnu cwnsela y DU.