Gwyddonwyr y Brifysgol yn dod â sioe fawr eclips yr haul i lan môr Aberystwyth

07 Awst 2026
Yr wythnos nesaf mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal digwyddiad arbennig ar y Prom i ddangos eclips yr haul, lle gall y cyhoedd ddysgu gan arbenigwyr ac edrych yn ddiogel ar sioe ysblennydd yr wybren.
Ar 12 Awst 2026, bydd mwy na 90% o’r Haul yn cael ei gysgodi gan y Lleuad, gan greu eclips rhannol dwfn a fydd yn weladwy ledled y wlad.
I nodi'r achlysur, bydd ffisegwyr o Brifysgol Aberystwyth yn cynnal digwyddiad cyhoeddus am ddim i wylio’r achlysur ym Manstand y dref. Bydd ymwelwyr yn gallu gwylio’r eclips yn ddiogel gan ddefnyddio offer arbenigol a dysgu mwy am yr wyddoniaeth sy’n sail i'r ffenomenon oddi wrth ffisegwyr solar ac ymchwilwyr yn y Brifysgol.
Bydd yr eclips yn dechrau am 18:10, yn cyrraedd anterth y cysgodi am 19:12, ac yn gorffen tua 20:00.
Gwahoddir ymwelwyr o bob oed i ymuno â gweithdy ymarferol o 17:30 ymlaen pryd y gallant greu gwyliwr twll pin eu hunain i edrych ar yr eclips. Bydd nifer cyfyngedig o sbectolau am ddim hefyd ar gael i wylio’r eclips.
Dywedodd Dr Rachel Cross, Uwch Ddarlithydd ac Ymchwilydd yn yr Adran Ffiseg:
"Bydd hwn yn un o'r eclipsau solar mwyaf trawiadol sydd i'w gweld yng Nghymru ers blynyddoedd lawer. Er na fydd yr eclips yn llwyr yn Aberystwyth, bydd gweld mwy na 90 y cant o'r Haul wedi'i gysgodi gan y Lleuad yn olygfa brin a chofiadwy.
"Rydym yn ddiolchgar iawn i'r Sefydliad Ffiseg yng Nghymru am gefnogi'r digwyddiad hwn. Mae ei gyllid wedi ein helpu i gynnig profiad gwylio diogel a hygyrch wrth arddangos yr ymchwil ffiseg solar sy'n digwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr."
Er mai eclips rhannol dwfn a welir yng Nghymru, bydd yr eclips llwyr i'w weld o goridor cul sy'n ymestyn ar draws yr Ynys Las, Gwlad yr Iâ, gogledd Portiwgal a Sbaen.
Bydd aelodau o Grŵp Ffiseg Cysawd yr Haul y Brifysgol yn cynnal arsylwadau gwyddonol yn Sbaen yn ystod yr eclips.
Os bydd gorchudd cwmwl yn ein hatal i wylio'n uniongyrchol yn Aberystwyth, bydd ffrydiau byw a delweddau o arsylwadau eclips ledled y byd yn cael eu dangos y tu mewn i'r Bandstand, gan sicrhau y bydd yn dal yn bosibl i ymwelwyr gymryd rhan yn y digwyddiad a dysgu am yr wyddoniaeth sydd y tu ôl iddo.
AU19626

