Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae arbenigo yn eich maes dewisol trwy Astudiaethau Uwchraddedig yn gyflawniad gwych.

Wrth i chi astudio ac ymchwilio ar y lefel uwch hon, da o beth hefyd yw paratoi at gam nesaf eich gyrfa – boed hynny yn y byd academaidd neu broffesiwn arall.

Dyma’r pwyntiau y mae’n rhaid i chi eu hystyried:

  • Croesawch brofiadau
    O lefel israddedig i lefel uwchraddedig a thu hwnt, mae ennill profiad yn amhrisiadwy a bydd yn eich rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer eich dyfodol. Mae hyd yn oed camgymeriadau (mae pawb yn eu gwneud) yn brofiadau gwerthfawr i’w dysgu hefyd.
  • Diweddarwch eich CV a’ch statws ar-lein
    Gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich sgiliau, profiad, cyflawniadau – a’ch cymwysterau, wrth gwrs! – wrth i chi symud trwy’ch astudiaeth uwchraddedig. Cofiwch ddiweddaru eich presenoldeb ar-lein hefyd, boed ar wefan brifysgol neu LinkedIn. Gwnewch nodyn o’r meysydd y mae gennych ddiddordeb ynddynt, sgiliau, prosiectau ymchwil a sut y gall y rhain drosi’n yrfa i chi yn y dyfodol.
  • Ystyriwch eich proffesiwn neu ddiwydiant yn y dyfodol
    Os ydych yn bwriadu cael gyrfa y tu allan i’r byd academaidd ar ôl eich astudiaeth uwchraddedig, yna mae’n werth ymchwilio i’ch proffesiwn “delfrydol” neu, o leiaf, i’r diwydiant yr hoffech fynd iddo – e.e. TG, busnes, cyllid, ynni, iechyd, llywodraeth, nid er elw, gwasanaethau cyhoeddus, ac ati.
  • Yn y Deyrnas Unedig neu dramor?
    Os ydych yn frwdfrydig am eich maes astudio penodol ac am barhau ynddo yn eich gyrfa, yna mae’n bosib y bydd grŵp / prosiect ymchwil rhyngwladol y gallech ymuno ag ef. Ac yn y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, mae yna lawer o gyfleoedd hefyd, yn enwedig mewn dinasoedd mawr.
  • Rhwydweithio
    Gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â chydweithwyr, ymhell ac agos, sy’n rhannu’r un diddordebau â chi o ran astudiaethau uwchraddedig. A hyd yn oed y tu allan i’r byd academaidd mae’n ddefnyddiol iawn meithrin perthynas â phobl a chwmnïau a allai gynnig cam gyrfa i chi. Mae gwybod pethau yn bwysig, ond mae pwy rydych chi’n eu hadnabod yr un mor bwysig hefyd!