Beth yw'r amser gorau i ddechrau astudiaeth uwchraddedig?

Mae'r amser gorau i ddilyn gradd uwchraddedig yn wahanol i bawb, a gall amgylchiadau ariannol unigol bennu hyn. Mae nifer fawr o fyfyrwyr yn parhau â'u hastudiaethau uwchraddedig yn syth ar ôl graddio, neu o fewn ychydig flynyddoedd. Fodd bynnag, yn gynyddol mae cyflogwyr yn cydnabod manteision hyfforddiant uwchraddedig, i'r cwmni ac i'r unigolyn, ac yn cefnogi eu gweithwyr yn y maes hwn. Efallai y byddwch, felly, yn ystyried dilyn gradd uwchraddedig ran-amser, neu astudio trwy Ddysgu o Bell, tra byddwch yn gweithio, fel datblygiad proffesiynol. Mae gradd uwchraddedig hefyd yn gymhwyster defnyddiol os ydych yn ystyried llwybr gyrfa newydd.