Faint o amser mae'n ei gymryd i gwblhau gradd ymchwil uwchraddedig?

Yn amodol ar eich cymwysterau mynediad unigol, lleiafswm y cyfnod cofrestru safonol ar gyfer y rhaglenni canlynol yw:

MPhil

Amser-llawn: un flwyddyn

Rhan-amser: dwy flynedd

PhD

Amser-llawn: tair blynedd

Rhan-amser: pum mlynedd

Dylai myfyrwyr anelu at gwblhau eu hastudiaethau o fewn y cyfnodau hyn, er y bydd ganddynt hefyd beth amser ychwanegol i gwblhau ysgrifennu eu traethawd ymchwil. Bydd y dyddiadau cau penodol ar gyfer cyflwyno yn cael eu nodi ar y llythyr cynnig ffurfiol.