Ysgoloriaeth Graddedigion Aber

Ysgoloriaeth Graddedigion Aber

Angen cymorth i ariannu’ch cwrs Meistr yn 2024?

Mae’r ysgoloriaeth hon ar gael i raddedigion Aberystwyth (o wledydd Prydain, yr Undeb Ewropeaidd, ac yn fyfyrwyr Rhyngwladol) sy’n cofrestru am raglenni Meistr a Dysgir drwy Gwrs, MPhil ac LLM drwy Ymchwil yn 2024.

Rydym yn cynnig gostyngiad ffioedd dysgu o £1,000 ar gyfer graddedigion Aberystwyth sy’n cofrestru am raglenni Meistr a Dysgir drwy Gwrs (ac eithrio TAR),LLM drwy Ymchwil ac MPHil yn 2024.

Nid oes angen gwneud cais am yr Ysgoloriaeth gan y bydd yn cael ei chyfrif yn awtomatig a’i rhoi ar waith pan fyddwch yn talu’ch ffioedd.

Pwy all eu cael?

  • Rhaid i ymgeiswyr fod wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd 2:2 neu well.
  • Mae graddedigion Prifysgol Aberystwyth sy’n hanu o wledydd Prydain, gweddill yr Undeb Ewropeaidd ac sydd yn fyfyrwyr Rhyngwladol yn cael gwneud cais.
  • Gall ymgeiswyr dal ysgoloriaeth Graddolyn Aber gyda chyllid arall ond ar yr amod nad yw'r swm cyfunol yn fwy na 50% o'r ffioedd dysgu Meistr arfaethedig. (Sylwer: Nodwch gall rheoliadau ysgoloriaethau eraill eu hatal rhag eu dal gyda gwobrau eraill. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd ydyw i ofyn am gadarnhad o hyn.).
  • Mae’r cyrsiau perthnasol yn cynnwys cyrsiau Meistr a Ddysgir drwy Gwrs, ac MPhil ac LLM drwy Ymchwil.
  • Mae’r ysgoloriaethau yn cynnwys pob dull astudio (amser-llawn, rhan-amser a dysgu o bell).
  • Rhaid derbyn eich cais ar gyfer cwrs perthnasol erbyn 31 Gorffennaf 2024.

Eithriadau:

  • Nid yw ymgeiswyr gyda chyllid arall sy'n fwy na 50% o'r ffioedd dysgu arfaethedig (cyn neu ar ôl cyfuno ysgoloriaeth AberGrad) yn gymwys
  • Nid yw ymgeiswyr sy’n aelodau o staff yn cael yr ysgoloriaethau hyn.
  • Nid yw’r cyrsiau Tystysgrif Addysg i Raddedigion wedi’u cynnwys yn y cynllun hwn.

Os oes gennych ymholiadau am Ysgoloriaeth AberGrad, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn i Ôl-raddedigion (pg-admissions@aber.ac.uk). Sylwer, mae’r cynllun hwn yn disodli’r Gostyngiad Abergrad ac fe’i hadolygir bob blwyddyn.