Mae'r BPS yn rhoi sêl ei bendith yn Aberystwyth

Cymdeithas Seicoleg Prydain

Cymdeithas Seicoleg Prydain

23 Mehefin 2013

Ar ôl pum mlynedd o fuddsoddiad o'r Brifysgol a gwaith caled gan staff Seicoleg, mae'r Gymdeithas Seicoleg Prydain, sef y gymdeithas ddysgedig yn y DU wedi ei chydnabod yn rhyngwladol sy'n gyfrifol am sicrhau safonau ansawdd y y pwnc, wedi dyfarnu achrediad gwladol yn sgîl eu hymweliad ar 19 Mehefin.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae'r adran wedi gweithio'n llwyddiannus i wneud enw da i'w hunan ar gyfer ansawdd ei gradd a gofal ei myfyrwyr, ac mae hi eisioes wedi cyrraedd y lle cyntaf yn yr Holiadur Gwladol o Fodlondeb Myfyrwyr, sy'n cadw cofnod o ba mor hapus mae myfyrwyr yn y cyrsiau maen nhw wedi eu dewis ledled y DU. Gellir darllen y stori lawn ar dudalen prif newyddion y Brifysgol.