150 o Straeon Ymchwil ac Arloesi
I ddathlu 150 mlwyddiant y Brifysgol, byddwn yn cyhoeddi 150 o straeon am yr ymchwil ac arloesi a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn ystod ei hanes. Bydd nifer o straeon yn cael eu cyhoeddi bob wythnos yn ystod y flwyddyn hon.
-200x102.jpg)
1. Talwrn y Beirdd Ifanc
Rhoddodd y prosiect hwn flas cyntaf o gerddi byr, bachog, digri a dwys y talwrn i gannoedd o ddisgyblion.
Eurig Salisbury
Darganfod mwy-200x108.jpg)
2. Dod â seryddiaeth cysawd yr haul i flaen y gad ym mywyd diwylliannol Cymru
Mae seryddiaeth wedi dod yn thema ganolog i sawl agwedd ar ddiwylliant Cymru trwy weithgareddau prosiect RAS200: ‘Seryddiaeth a Geoffiseg trwy Ddiwylliant Traddodiadol Cymru’.
Dr Huw Morgan
Darganfod mwy3. Arfau niwclear ym materion y byd
Ers y 1960au bu'r Adran yn flaenllaw yn rhyngwladol wrth ymchwilio i wahanol ddimensiynau arfau niwclear.
Yr Athro Ken Booth
Darganfod mwy-200x102.jpg)
4. Datblygu technoleg i gynorthwyo byw'n annibynnol
Mae Prifysgol Aberystwyth yn datblygu Labordy Cartref Clyfar newydd.
Dr Patricia Shaw
Darganfod mwy
5. Datblygu gweithdrefnau cynhesu sy'n gwella perfformiad ar gyfer digwyddiadau athletaidd
Datblygodd y Grŵp Ymchwil Perfformiad Dynol ym Mhrifysgol Aberystwyth drefn "cynhesu" dwysedd uchel newydd, a elwir yn "ymarfer preimio".
Dr Rhys Thatcher
Darganfod mwy
6. Gwerthusiad Atal Cyfiawnder Ieuenctid
Comisiynodd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Atal Ceredigion (YJPS), gan weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth, i fod yn brosiect braenaru.
Dr Gareth Norris
Darganfod mwy
7. The Persians, Coriolan/us and …’: cyfres o berfformiadau safle-benodol
Fe wnaeth staff yr adran Mike Pearson, Mike Brookes a Simon Banham lunio, dylunio a chyfarwyddo cynyrchiadau theatr o The Persians (2010) Aeschylus ar gyfer National Theatre Wales (NTW).
Yr Athro Simon Banham, Dr Mike Brookes
Darganfod mwy-200x112.jpg)
8. Archwilio Effaith Pandemig COVID-19 ar Ddysgwyr yng Nghymru
Yn groes i’r ymadrodd ‘colled dysgu’ a ddefnyddir yn aml, roedd llawer o ddisgyblion ysgol Cymru wedi elwa ar brofiadau dysgu gwahanol wrth iddynt addasu i’r newid i ddysgu ar-lein yn ystod pandemig COVID-19, yn ôl ymchwil yn ymwneud ag academyddion o Aberystwyth.
Prysor Mason Davies
Darganfod mwy-200x107.jpg)
9. Adroddiad GFS yn argymell offeryn newydd ar gyfer hen broblem gwastraff bwyd
Mewn adroddiad newydd ar gyfer rhaglen Diogelwch Bwyd Byd-eang (GFS) UKRI, mae ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa wedi cynghori sut y gallai TCA helpu i leihau colled a gwastraff ar draws y system fwyd.
Dr Siobhan Maderson
Darganfod mwy
10. Lleihau'r ddibyniaeth ar borthiant protein wedi'i fewnforio o fewn cadwyn gyflenwi anifeiliaid cnoi cil
Mae da byw yn darparu traean o'r protein y mae pobl yn ei fwyta. Mae angen dewisiadau eraill yn lle soia wedi'i fewnforio, sy'n elfen brotein allweddol o ddiet anifeiliaid cnoi cil, er mwyn darparu sicrwydd bwyd.
Dr Christina Marley
Darganfod mwy-200x103.jpg)
11. Ysgrifennu Covid Hir
Y prosiect hwn yw cam cyntaf ymchwiliad i sut y gallai ysgrifennu creadigol effeithio ar reolaeth Covid hir.
Dr Jacqueline Yallop
Darganfod mwy
12. Imprint: Gwyddoniaeth a threftadaeth yn elwa o hanes canoloesol
Ariannwyd prosiect Imprint gan yr AHRC ac mae wedi defnyddio ymchwil hanesyddol a thechnegau gwyddonol arloesol i ddod â’r gorffennol yn fyw mewn ffyrdd newydd, gan gyfrannu at ddatblygiadau allweddol mewn ymchwil fforensig.
Dr Elizabeth New
Darganfod mwy-200x104.png)
13. A yw dynion yn fwy doniol na menywod?
Fe wnaethon ni brofi a yw'r stereoteip bod dynion yn fwy doniol na menywod yn wir.
Dr Gil Greengross
Darganfod mwy
14. Canolfan Arbenigedd Ffotonig
Mae’r Ganolfan Arbenigedd Ffotoneg (CPE) yn dîm Cymru gyfan o bedair prifysgol yng Nghymru, gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth, sy’n defnyddio eu hymchwil blaenllaw, i gynnig atebion technolegol sy'n seiliedig ar olau i fusnesau ledled Cymru.
Yr Athro Andrew Evans, Dr Matt Gunn, Dr Rachel Cross, Dr Dave Langstaff, Dr Huw Morgan
Darganfod mwy
15. Amlinelliad/Outline: Cydweithrediadau celf-gwyddor mewn cyfnod o newid amgylcheddol, cymdeithasol a thechnolegol
Prosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a’r elusen Art+Science sy’n mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn.
Yr Athro Stephen Tooth
Darganfod mwy
16. Ewynnau fel hidlwyr hylif
Rydym yn datblygu efelychiadau cyfrifiadurol i fodelu ewynnau dyfrllyd, dosbarth o hylifau cymhleth sydd â llawer o gymwysiadau.
Dr Tudur Davies
Darganfod mwy
17. Trawsnewid Cyflwyno Polisi Cyhoeddus Ymddygiadol ac Arferion Ymarferwyr drwy’r Rhaglen MBBI
Datblygodd Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth raglen hyfforddi MBBI (Deall Ymddygiad a Gwneud Penderfyniadau’n Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar).
Yr Athro Mark Whitehead
Darganfod mwy
18. Newid Hinsawdd a Democratiaeth
Mae ymchwilwyr Aberystwyth yn arwain y gwaith o ailfeddwl gwleidyddiaeth ddemocrataidd yng nghyd-destun heriau byd-eang a lleol cyfoes:
Yr Athro Milja Kurki, Harry Warne
Darganfod mwy
19. Mae dilyniannu genom yn cyflymu potensial torri carbon glaswellt Miscanthus
Denodd y rhywogaeth hon o laswellt sylw gyntaf fel ffynhonnell ynni bosibl, ond mae ymchwil newydd yn dangos y gallai leihau allyriadau carbon mewn sawl ffordd.
Yr Athro Iain Donnison
Darganfod mwy
20. Gwleidyddiaeth Croestoriadol Antagoniaeth mewn Adeiladu Heddwch (IPAP)
Datblygir yr ymchwil Marie-Curie hwn yn Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.
Dr Sonia Garzon Ramirez
Darganfod mwy
21. Ucheldiroedd Arfordirol: Treftadaeth a Thwristiaeth
Mae'r prosiect yn ceisio defnyddio treftadaeth ddiwylliannol a naturiol ucheldiroedd arfordirol Mynyddoedd Cambria, Preseli, Wicklow a Blackstairs fel ffordd o hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy yn yr ardaloedd hyn.
Yr Athro Rhys Jones
Darganfod mwy
22. Newyn Canoloesol
Yn y degawdau naill ochr i 1300 cafodd y rhan fwyaf o ogledd Ewrop ei tharo gan gyfres o ddigwyddiadau tywydd eithafol a arweiniodd at fethiant sylweddol y cynhaeaf.
Yr Athro Phillipp Schofield
Darganfod mwy
23. Cyfraniad at Ddeddfwriaeth Ddatganoledig a Hygyrchedd y Gyfraith yng Nghymru
Mae gwaith Catrin Fflûr Huws ar ddatganoli ar y gwahaniaeth rhwng cyfraith Cymru a Lloegr, yn enwedig o ran hygyrchedd cyfraith Cymru, a’i hygyrchedd yn y Gymraeg a’r Saesneg wedi cael effaith fawr ar bolisi cyhoeddus.
Dr Catrin Fflur Huws
Darganfod mwy
24. Y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR)
Nod CADR yw gwella bywydau pobl hŷn a gofalwyr trwy integreiddio ymchwil ar heneiddio, polisi ac ymarfer.
Yr Athro Charles Musselwhite
Darganfod mwy
25. Corona yr Haul
Mae'r ymchwil hwn yn ymwneud ag atmosffer dirgel yr Haul sy’n cael ei adnabod fel y corona.
Dr Youra Taroyan
Darganfod mwy
26. (Dad-)Pwytho yng Ngholombia
Astudiodd y prosiect cydweithredol hwn gyda chydweithwyr Colombia ailintegreiddio cyn-ymladdwyr FARC i gymdeithas ar ôl cytundeb heddwch Colombia 2016.
Yr Athro Berit Bliesemann de Guevara
Darganfod mwy
27. Effaith Pryder ar gydbwysedd gan ddefnyddio'r model her CO2
Archwiliodd y prosiect y berthynas rhwng pryder a newidiadau mewn cydbwysedd.
Dr Alexander Taylor
Darganfod mwy
28. Gyrru annibynnol oddi ar y ffordd
Mae ymchwilwyr Aber wedi datblygu system sy’n caniatáu i gerbyd yrru’n annibynnol ar draws caeau ac ar hyd traciau anniffiniedig, fel glaswellt a mwd.
Dr Frédéric Labrosse
Darganfod mwy
29. Y Geiriadur Eingl-Normaneg (GEN)
Mae ein tîm o ymchwilwyr yn gweithio ar adolygiad parhaus o eiriadur Eingl-Normaneg – yr iaith Ffrangeg fel y’i defnyddiwyd yn Ynysoedd Prydain yn ystod y cyfnod canoloesol (1066-1500).
Dr Geert De Wilde, Dr Heather Pagan
Darganfod mwy
30. 100 Llais y BBC – Diddanu’r D.U.
Curadodd Jamie’r wefan, ac ysgrifennodd nifer o’r cofnodion, gan dynnu ar archif hanes llafar helaeth y BBC.
Yr Athro Jamie Medhurst
Darganfod mwy
31. Bridio mathau o feillion hynod barhaus yn cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd ffermio da byw
Mae rhaglenni ymchwil a bridio Prifysgol Aberystwyth wedi cynhyrchu mathau hynod barhaus o feillion.
Dr Catherine Howarth
Darganfod mwy
32. Cefnogi anghenion seicogymdeithasol cleifion gofal lliniarol a chleifion canser gyda theleiechyd
Mae Canolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig Prifysgol Aberystwyth, dan arweiniad Dr Rachel Rahman, wedi archwilio’r defnydd o delefeddygaeth i wella mynediad gwledig i wasanaethau iechyd.
Dr Rachel Rahman
Darganfod mwy
33. Argraffiadau Lluosog: Ehangu Arferion Gwneud Printiau Cyfoes
Trwy ymarfer-fel-ymchwil, cyhoeddiadau, arddangosfeydd, dosbarthiadau meistr, portffolios print, cydweithrediadau rhyngwladol a rhwydweithio byd-eang, mae Croft wedi gwella'r ddealltwriaeth o wneud printiau cyfoes ac wedi darparu cyfleoedd newydd i gynulleidfaoedd cyhoeddus brofi ac ymgysylltu ag arferion o'r fath.
Paul Croft
Darganfod mwy
34. Hyrwyddo ffyrdd iach o fyw mewn oedolion hŷn
Mae Prifysgol Aberystwyth yn hyrwyddo bwyta'n iach a ffordd o fyw egnïol yn gorfforol.
Dr Marco Arkesteijn
Darganfod mwy
35. Llenyddiaeth Hanesyddol / Dadleuon Cyfoes
Archwiliodd yr Athro Richard Marggraf Turley y cysylltiadau rhwng gwaith awduron ac artistiaid hanesyddol o bwys a heriau cymdeithasol cyfredol yn ymwneud â diogelwch bwyd a diwylliant gwyliadwriaeth.
Yr Athro Richard Marggraf Turley
Darganfod mwy
36. Daear Fyw – dull gweithredu byd-eang o fonitro a chynllunio tir
Mae Daear Fyw yn ddull sy’n gymwys yn fyd-eang o gynhyrchu nodweddu, mapio a monitro cyson o ddata arsylwi’r Ddaear.
Yr Athro Richard Lucas, Dr Carole Planque, Dr Suvarna Punalekar, Sebastien Chognard, Clive Hurford
Darganfod mwy
37. Ewynau yn y Gofod
Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o nifer o sefydliadau ledled y byd sy'n ymwneud â'r arbrofion ar ewynnau sy'n cael eu cynnal ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol.
Yr Athro Simon Cox
Darganfod mwy
38. Hyfforddi'r Genhedlaeth Nesaf o Ymchwilwyr Deallusrwydd Artiffisial
Cory a Lily oedd ein myfyrwyr PhD cyntaf a ariannwyd gan CDT-AIMLAC UKRI, sy’n cynnwys hyfforddiant DA ychwanegol a lleoliad 6 mis yn y diwydiant.
Cory Thomas, Lily Major, Yr Athro Reyer Zwiggelaar
Darganfod mwy
39. Iwtopias Cynaliadwy: Newid agweddau a dulliau o adeiladu cymunedau, defnyddio treftadaeth a moeseg bwyd
Mae ymchwil Dr Jacqueline Yallop ar weledigaethau iwtopaidd ar gyfer ardaloedd trefol a gwledig wedi galluogi darllenwyr ei gwaith ysgrifenedig, a phobl sydd wedi cymryd rhan mewn prosiectau cysylltiedig, i wneud newidiadau yn eu ffyrdd o fyw o ran eu hunain a’u cymunedau.
Dr Jacqueline Yallop
Darganfod mwy-200x110.png)
40. Ymlusgo i Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig COP26
Ar ddydd Sadwrn 6 Tachwedd 2021, fe wnes i gropian gyda phinwydd Albanaidd 6 oed mewn pot ar fy nghefn trwy Ganol Dinas Glasgow.
Miranda Whall
Darganfod mwy
41. Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr: Gwella mynediad at gyfiawnder i gyn-filwyr bregus a’u teuluoedd
Datblygodd Olusanya y Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr (VLL), sef prosiect cyfiawnder iechyd aml-asiantaeth sy’n canolbwyntio ar y fyddin ledled Cymru
Dr Olaoluwa Olusanya
Darganfod mwy
42. Addasu newid hinsawdd drwy seilwaith arfordirol sy'n sensitif yn ecolegol
Mae ECOSTRUCTURE yn brosiect €5.5 miliwn a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy raglen Cydweithrediad Iwerddon Cymru, sy’n dod â phum prifysgol flaenllaw yng Nghymru ac Iwerddon ynghyd i ymchwilio a chodi ymwybyddiaeth o atebion eco-beirianneg i her addasu arfordirol i newid yn yr hinsawdd.
Dr Joe Ironside
Darganfod mwy
43. Pris Cydwybod - T. H. Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr
Ymdriniaeth â’r amgylchiadau a arweiniodd at ymddiswyddiad T. H. Parry-Williams yn 1919-1920 pan dreuliodd y flwyddyn academaidd honno yn fyfyriwr gwyddonol gyda’r bwriad o fynd yn feddyg neu’n llawfeddyg.
Dr Bleddyn Huws
Darganfod mwy
44. Stiwardiaeth Gwrthficrobaidd ar gyfer milfeddygon fferm Cymru
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi sefydlu rhwydwaith cenedlaethol o Hyrwyddwyr Rhagnodi Milfeddygol ledled Cymru sy’n gweithio i wella rhagnodi gwrthfiotigau ar ffermydd Cymru a mynd i’r afael â her fyd-eang ymwrthedd i wrthfiotigau.
Dr Gwenllian Rees
Darganfod mwy
45. Adnoddau mesur mewn theori gwybodaeth cwantwm
Mae'r prosiect hwn yn datblygu modelau mathemategol ar gyfer mesuriadau a ddefnyddir wrth brosesu gwybodaeth cwantwm.
Dr Jukka Kiukas
Darganfod mwy
46. Peirianneg meddalwedd ar gyfer archwilio'r gofod
Rydym yn datblygu rhannau o’r biblinell prosesu meddalwedd ac offeryn dadansoddi gwyddonol ar gyfer system gamerâu ExoMars PanCam ESA.
Dr Matt Gunn, Dr Helen Miles
Darganfod mwy
47. Diwrnod AIDS y Byd
Yn 2008, dyfarnwyd Cadair UNESCO i’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am ymchwil i HIV/AIDS a diogelwch iechyd yn Affrica.
Yr Athro Colin McInnes
Darganfod mwy
48. Capel: Mae'r Goleuadau Ymlaen: cynhyrchu ffyrdd newydd o feddwl sy'n dylanwadu ar ymarfer creadigol
Fe wnaeth y perfformiad safle-benodol Capel: Mae'r Goleuadau Ymlaen gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o bwysigrwydd lle a pherthyn a grymuso pobl ag anabledd dysgu i fynegi cyfalaf diwylliannol a threftadaeth trwy ymyrraeth greadigol.
Dr Margaret Ames
Darganfod mwy
49. Gwarchod a diogelu ffyngau glaswelltir
Datblygodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth (PA) ddull metabarcodio DNA newydd gan ddefnyddio eDNA pridd, a’i ddefnyddio fel dull o asesu bioamrywiaeth ffwngaidd mewn cynefinoedd glaswelltir yn gyflym.
Yr Athro Gareth Griffith
Darganfod mwy
50. Merched ac iechyd
Rydym yn defnyddio cysyniadau fel syniad Foucault o bŵer i archwilio’r grymoedd cymdeithasol ehangach sy’n llywio profiadau menywod, a’r ffyrdd y mae menywod yn rheoli disgwyliadau cymdeithasol o iechyd corfforol a meddyliol.
Dr Martine Robson
Darganfod mwy
51. Symudiadau annibyniaeth yn Ewrop
Mae ymchwilwyr o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru wedi archwilio’r honiadau cyfansoddiadol a wneir gan fudiadau annibyniaeth ar draws Ewrop, a sut mae’r rhain yn cael eu fframio.
Dr Anwen Elias, Dr Elin Royles, Dr Nuria Franco Guillen, Dr Catrin Wyn Edwards, Dr Huw Lewis
Darganfod mwy
52. Ymateb rhewlifoedd yr Himalaya i newid hinsawdd
Yn yr Himalaya, garw uchel, mae pryderon mawr ynghylch newidiadau i rewlifoedd, a nodweddion cysylltiedig megis llynnoedd ag argaeau marian ac argaeau iâ a gorchudd malurion, yn enwedig o ran llifogydd posibl o lynnoedd yn ffrwydro, a all gael canlyniadau trychinebus i lawr yr afon.
Dr Tristram Irvine-Fynn, Yr Athro Neil Glasser
Darganfod mwy
53. 'The sky was clearer in those days'
Mae artistiaid arobryn ac ymchwilwyr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn datgymalu car teulu ail law yn gyhoeddus, gan dorri i lawr ei elfennau cyfansoddol dros bum niwrnod o berfformiad cyhoeddus eang.
Dr Mike Brookes, Dr Rosa Casado
Darganfod mwy
54. Darganfod materion defnyddioldeb mawr yn awtomatig mewn gwefannau e-Fasnach trwy ddysgu peiriannau
Mae algorithmau cloddio data newydd wedi’u datblygu i ddarganfod materion defnyddioldeb mewn gwefannau e-Fasnach yn effeithiol ac yn effeithlon, gan ddefnyddio datrysiadau dadansoddeg UserReplay gan ddefnyddio ein gwaith, gan arbed symiau sylweddol o arian i fusnesau ledled y byd.
Dr Richard Jensen
Darganfod mwy
55. Rhwydwaith Twf, Gwydnwch Gwledig ac Arloesi (GRRaIN)
Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo mewn cael ei hystyried yn sefydliad entrepreneuraidd, ymchwil ac addysgu.
Dr Wyn Morris
Darganfod mwy
56. Ail-lunio tirwedd Cymru i gyflawni potensial amaethyddiaeth yr ucheldir
Mae Cymru’n adnabyddus am ei bryniau gwyrdd sydd wedi’u gorchuddio â phorfa barhaol i dda byw.
Dr Muhammad Naveed Arshad
Darganfod mwy
57. Dyfodol Gwyddonol: Hanes yn Llywio Byd Yfory
Bu’r Athro Iwan Morus yn gweithio gyda buddiolwyr allweddol yn edrych ar y ffyrdd y câi naratifau am y dyfodol eu llunio mewn cyfnodau hanesyddol gwahanol.
Yr Athro Iwan Morus
Darganfod mwy-2019-Ceredigion-Museum2-200x107.jpg)
58. Ffermwyr defaid
Comisiynwyd ‘Ni Yw’r Ddiadell’ gan amgueddfa Ceredigion ar gyfer eu harddangosfa Defaid/Sheep yn 2019.
Dr Ffion Jones
Darganfod mwy
59. Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK)
Nod THINK yw integreiddio trafnidiaeth ac iechyd trwy archwilio:
Yr Athro Charles Musselwhite
Darganfod mwy
60. Clybiau Roboteg, Addysg Anffurfiol a Datblygiad Technolegol yn Irac
Roedd y prosiect rhyngddisgyblaethol hwn yn edrych ar sut y gall clybiau roboteg fod o fudd i ddysgwyr ifanc a bod yn fodd o gymorth datblygu.
Yr Athro Milja Kurki, Dr Patricia Shaw
Darganfod mwy
61. Gwella Arferion Amddiffyn Sifil ar gyfer Llu Heddwch Di-drais
Galluogodd mabwysiadu’r dull a ddyluniwyd trwy ymchwil yr Athro Bliesmann de Guevara Llu Heddwch Di-drais (NP) Myanmar i fynd i’r afael â phroblemau mynediad corfforol, ieithyddol a diwylliannol cyfyngedig i gymunedau buddiolwyr mewn modd effeithiol.
Yr Athro Berit Bliesemann de Guevara
Darganfod mwy
62. Datblygu cnydau i helpu i atal y broblem gynyddol o ddiabetes yn Affrica
Prosiect sy’n cael ei arwain gan wyddonwyr yn Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) i ddatblygu cnydau – yn benodol mathau a hybridiau o miled perlog – a all ffynnu yn Affrica Is-Sahara, gan ddarparu ffynhonnell fwyd wydn a chyfeillgar i ddiabetes ar gyfer poblogaethau lleol.
Yr Athro Rattan Yadav
Darganfod mwy
63. Yr Athro Lily Newton
Daeth Lily Newton i Aberystwyth ym 1928 gan gymryd swydd fel darlithydd mewn Botaneg, gan ddod yn bennaeth adran benywaidd cyntaf y brifysgol fel Athro a Chadeirydd Botaneg ym 1930.
Dr Jessica Adams
Darganfod mwy-(1)-200x108.jpg)
64. Gwyddonwyr i helpu i ragweld bygythiadau tywydd gofod
Mae prosiect SWEEP (Pecyn Ensemble Empeiraidd Tywydd y Gofod) yn brosiect aml-sefydliadol, a arweinir gan Aberystwyth, ac a ariennir trwy gronfa SWIMMR fel rhan o Gronfa Blaenoriaethau Strategol (SPF) UKRI.
Dr Huw Morgan
Darganfod mwy
65. Yr Athro George A Schott
Ymunodd George A Schott â’r Adran Ffiseg yn Aberystwyth fel darlithydd ym 1892 ac fe’i penodwyd yn Bennaeth Mathemateg Gymhwysol ym 1909.
Yr Athro Eleri Pryse, Yr Athro Andrew Evans
Darganfod mwy
66. Aber Instruments yn dathlu 35 mlwyddiant
Wedi’i sefydlu ym mis Ionawr 1988 fel un o gwmnïau deillio cyntaf y Brifysgol, mae Aber Instruments yn cyflenwi systemau monitro eplesu ledled y byd ar gyfer mesur crynodiad biomas yn gyflym ac yn gywir.
Yr Athro Hazel Davey
Darganfod mwy
67. Kindertransport: Stori William Dienemen
Mae Dr Andrea Hammel wedi ymchwilio i ffoaduriaid a ffodd rhag Sosialaeth Genedlaethol i’r DU am dros ugain mlynedd, gan ganolbwyntio’n fwyaf diweddar ar blant sy’n ffoaduriaid ac ar ffoaduriaid sy’n dod o hyd i loches yng Nghymru.
Dr Andrea Hammel
Darganfod mwy