115. Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw
Dr Rita Singer, Yr Athro Peter Merriman, Yr Athro Rhys Jones

Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw

Mae basn Môr Iwerddon yn ffurfio cainc clir o hanes, economïau a hunaniaeth.

Mae prosiect Porthladdoedd, Ddoe a Heddiw yn ystyried pum porthladd gwahanol iawn a’u cymunedau ar naill ochr y môr: Porthladd Dulyn, Harbwr Rosslare, Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro.

Partneriaid y prosiect yw Coleg Prifysgol Cork, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Chyngor Sir Wexford. 

Mae’r prosiect yn ceisio gwella gweithgarwch ymgysylltu ymhlith cymunedau trefi porthladd y mae ganddynt eu treftadaeth cyfoethog eu hunain a Môr Iwerddon, gan ddefnyddio’r dreftadaeth honno i hyrwyddo twristiaeth a dyfnhau ymdeimlad o hunaniaeth a rennir.

Caiff hyn ei wneud trwy gyd-gynhyrchu’r canlynol gyda chymunedau - straeon treftadaeth ar-lein (dros 200 hyd yn hyn), ffilmiau dogfen o ansawdd uchel, 12 comisiwn creadigol, digwyddiadau cymunedol, rhwydweithiau twristiaeth gan gynnwys hyfforddiant twristiaeth treftadaeth am ddim, ac ap twristiaeth treftadaeth.

Ariannir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy gyfrwng Rhaglen Cydweithredu Iwerddon Cymru.

Ports, Past and Present 

Trydar – Ports, Past and Present

Facebook – Ports Past and Present

Mwy o wybodaeth

Dr Rita Singer

Yr Athro Peter Merriman

Yr Athro Rhys Jones

Adran Academaidd

Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear

Nesaf
Blaenorol