47. Diwrnod AIDS y Byd
Yr Athro Colin McInnes

Prof Colin McInnes

Yn 2008, dyfarnwyd Cadair UNESCO i’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol am ymchwil i HIV/AIDS a diogelwch iechyd yn Affrica.

Roedd hon, sef y Gadair UNESCO gyntaf yng Nghymru ac un o lond llaw yn unig yn y DU, yn cydnabod gwaith arloesol ar iechyd a diogelwch a wnaed yn yr Adran.

Yn y degawd ar ôl dyfarnu Cadair UNESCO, ymgymerodd tîm o ymchwilwyr yn yr adran dan arweiniad yr Athro Colin McInnes â gwaith o bwys byd-eang ar sut yr effeithiodd HIV ar ddiogelwch dynol a chenedlaethol, rôl gwrthdaro yn lledaeniad HIV, a rôl llywodraethu byd-eang i liniaru effaith gymdeithasol y clefyd.

Newyddion: Penodi academydd o Aberystwyth yn Is-Gadeirydd UNESCO yn y DU

Mwy o wybodaeth

Yr Athro Colin McInnes

Adran Academaidd

Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol

Nesaf
Blaenorol