104. Darparu fframwaith i ymgorffori gwerthoedd economaidd a chymdeithasol-ddiwylliannol Cyfraniadau Natur i Bobl yn y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol
Yr Athro Michael Christie

Yr Athro Michael Christie

Mae ymchwil yr Athro Mike Christie ar gyfer asesiad ‘Ewropean and Central Asia’ (ECA) y Llwyfan Polisi Gwyddoniaeth-Rynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystem (IPBES) yn darparu fframwaith i ymgorffori gwerthoedd economaidd a chymdeithasol-ddiwylliannol Natur a’i gwasanaethau mewn polisïau cyhoeddus.

Mae natur yn dirywio ar gyfraddau digynsail, sy’n effeithio’n andwyol ar economïau a llesiant pobl.

Rhoddodd asesiad ECA dystiolaeth i lunwyr polisi ar werthoedd Natur i ymateb i'r argyfwng hwn.

Cymeradwywyd yr asesiad ECA gan 130 o lywodraethau (sef aelodau llofnodol Cyfarfod Llawn IPBES), a ymgorfforwyd ym mhrosesau'r Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD), y G7; ac mae hefyd yn rhan o ganllawiau staff yr UE ar gyfer integreiddio ecosystemau a'u gwasanaethau mewn polisïau lliniaru ac addasu yn yr hinsawdd.

ipbes – The values assessment

Trydar – Aber Business School

Facebook – Aberystwyth University Business School

Mwy o wybodaeth

Yr Athro Michael Christie

Adran Academaidd

Ysgol Fusnes Aberystwyth

Nesaf
Blaenorol