Pwy all eich helpu i reoli data eich ymchwil?

(dolenni allanol yn Saesneg yn unig)

Ym Mhrifysgol Aberystwyth

Gyda chymorth Grŵp Llywio Rheoli Data Ymchwil a Cyrchu Agored y Brifysgol, nod Gweithgor Rheoli Data Ymchwil Prifysgol Aberystwyth yw darparu gwasanaeth i holl ymchwilwyr y Brifysgol drwy gydol oes prosiectau ymchwil a ariennir yn allanol, ac yn enwedig felly’r cyllidwyr hynny sy’n nodi disgwyliadau penodol o ran rheoli a/neu rannu data ymchwil. Mae’r cyllidwyr hynny’n cynnwys, ymhlith eraill:

  • Cynghorau Ymchwil y DU
  • Llywodraeth
  • Y Comisiwn Ewropeaidd
  • Y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd
  • Elusennau
  • Masnachol

Bydd y Gweithgor hefyd yn ceisio cynnig cymorth i ymchwilwyr y Brifysgol sydd wedi cynhyrchu data mewn prosiectau ymchwil heb eu hariannu y mae angen cymorth arnynt ar ôl y prosiect i werthuso, dethol ac adneuo data.

Gallwch gysylltu â Gweithgor Rheoli Data Ymchwil Prifysgol Aberystwyth drwy anfon ebost i: dataymchwil@aber.ac.uk.

 

Y tu allan i Brifysgol Aberystwyth

"In conversation with Michael Ball from the BBSRC" ateb cwestiynau mawr am rannu data biolegol.

Mae’r Ganolfan Curadu Digidol (DCC) yn cynnig nifer o ganllawiau defnyddiol, gan gynnwys "How to Develop a Data Management and Sharing Plan" a "How to Appraise and Select Research Data".

Mae Archif Ddata’r DU hefyd yn cynnig llawer o wybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â chreu a rheoli data.

Mae Gwasanaeth Data’r DU yn darparu gwefan i gyd-fynd â’r cyhoeddiad Managing and sharing research data: A guide to good practice gan Louise Corti, Veerle Van den Eynden, Libby Bishop a Matthew Woollard, a defnyddir adnoddau ohoni drwy gydol y tudalennau hyn ar reoli data ymchwil. Mae’r wefan ar gael yma.
Yn ystod wythnos Mynediad Agored 2015, cafwyd gyflwyniad gan Veerle Van den Eynden ar "Managing, Publishing, and Sharing Research Data" ym Mhrifysgol Bangor.

Rhoddodd Katie Gowers o "British Oceanographic Data Centre" cyfres o gyflwyniadau ym Mhrifysgol Bangor yn ystod wythnos Mynediad Agored 2015 ar:

 

Hyfforddiant ac Adnoddau

Mae EDINA, y ganolfan sydd wedi’i dynodi gan y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth (JISC) ar gyfer arbenigedd digidol a darparu gwasanaethau ar-lein ym Mhrifysgol Caeredin, wedi cynhyrchu cwrs hyfforddi rheoli data ymchwil ar-lein sy’n rhad ac am ddim ac wedi’i addasu ar gyfer cynulleidfaoedd penodol o ymchwilwyr megis myfyrwyr ac academyddion uwch. Mae’r cwrs MANTRA ar gael yma.

A hithau’n un o bartneriaid arweiniol Prosiect KAPTUR a ariennir gan JISC, mae Prifysgol y Celfyddydau Creadigol yn cynnig cyfres o becynnau cymorth yn benodol i’r rhai hynny sy’n ymwneud â rheoli data ymchwil yn y Celfyddydau Gweledol. Mae dolenni i’r pecynnau hyn ar gael o wefan Rheoli Data Ymchwil Prifysgol y Celfyddydau Creadigol.

Ceir manylion ynglŷn â gweithdai hyfforddi, cynadleddau a gwe-seminarau rheoli data ymchwil sydd ar y gweill ar wefan Gwasanaeth Data’r DU isod. Sylwer mai’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) sy’n ariannu Gwasanaeth Data’r DU ac felly bydd rhai o’r seminarau ar y rhestr yn fwy perthnasol i’r rhai hynny sy’n astudio disgyblaethau’r Gwyddorau Cymdeithasol.