Canolfannau Data ar gyfer storio data ar ôl i’r prosiect ddod i ben

(dolenni allanol yn Saesneg yn unig)

Mae polisi Rheoli Data Ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn nodi y dylid cynnig data ymchwil yn y lle cyntaf i’w adneuo a’i gadw mewn storfa pwnc-benodol neu wasanaeth data cenedlaethol neu ryngwladol priodol, yn unol â chyngor cyllidwr yr ymchwil. Rhestrir isod storfeydd o’r fath ynghyd â rhagor o awgrymiadau ar gyfer storfeydd y gallech eu defnyddio sy’n benodol i’ch disgyblaeth. Mae’r storfeydd hyn hefyd yn adnoddau defnyddiol ar gyfer data a fydd ar gael i’w ailddefnyddio yn eich ymchwil chithau.

Mae storfeydd data eraill ar gael, yn ogystal â’r rhai a restrir isod. Os nad ydych yn meddwl bod y rhain yn addas i’ch data chi, mae’n bosib chwilio am storfeydd penodol neu bori yn ôl pwnc yn y Gofrestr o Storfeydd Data Ymchwil.

Cysylltwch â dataymchwil@aber.ac.uk os hoffech gael cymorth neu gyngor wrth ddewis storfa addas neu os ydych o’r farn y dylid cynnwys manylion storfa arall, yr ydych wedi ei defnyddio’n rheolaidd, ar y dudalen hon.

Y Gwyddorau Cymdeithasol, y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Archif Ddata’r DU yw curadur y casgliad mwyaf o ddata digidol ym maes y gwyddorau cymdeithasol a’r dyniaethau yn y Deyrnas Unedig. Mae’n cefnogi Gwasanaeth Data’r DU ac mae hefyd yn gartref i’r Gwasanaeth Data Hanes – ceir disgrifiad o’r ddau isod.

Ariennir Gwasanaeth Data’r DU gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a chaiff data ei adneuo drwy ReShare (Storfa Ddata’r ESRC gynt). Mae’r pwyslais yma ar storio a rhannu data ymchwil sylfaenol ym maes y gwyddorau cymdeithasol ac ymddygiadol a phrosiectau’r ESRC, yn benodol.

Mae’r Gwasanaeth Data Hanes (HDS) yn casglu, yn cadw ac yn hyrwyddo defnydd o adnoddau digidol, sy’n deillio o ymchwil, dysgu ac addysgu hanesyddol, neu’n eu cefnogi. Archif Ddata’r DU ym Mhrifysgol Caerwysg sy’n cynnal y gwasanaeth (gweler uchod).

Mae’r Gwasanaeth Data Archeoleg (ADS) yn casglu, yn catalogio, yn rheoli ac yn cadw adnoddau digidol sydd wedi’u creu gan archeolegwyr, ac yn annog eu hailddefnyddio.

Mae Gwasanaeth Data’r Celfyddydau Gweledol (VADS) yn casglu, yn catalogio, yn rheoli, yn cadw ac yn annog ailddefnyddio adnoddau digidol sydd wedi’u creu gan gymuned addysg y celfyddydau gweledol, neu sy’n berthnasol i’r gymuned honno.

Gwyddoniaeth

Mae Zenodo yn gadwrfa wedi’i ariannu gan OpenAIREplus; mae’n gadwrfa digidol agored i bawb a phob dim sy heb wasanaeth adneuo data pwrpasol. Mae’n croesawu allbynnau ymchwil o bob maes gwyddonol beth bynnag yw’r ffynhonnell ariannu.

Mae gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) rwydwaith o ganolfannau data amgylcheddol sy’n ganolbwynt i ddata a gwybodaeth wyddonol yr NERC mewn saith disgyblaeth. Ceir manylion y canolfannau hyn isod.

Canolfan Data Atmosfferig Prydain (BADC) yw Canolfan Ddata Ddynodedig Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) ar gyfer y Gwyddorau Atmosfferig.

Mae Canolfan Data Arsylwi’r Ddaear (NEODC) yr NERC yn archifo ac yn cynnig mynediad i wybodaeth synhwyro o bell synwyryddion lloeren ac awyr ynglŷn ag arwyneb y Ddaear.

Mae Canolfan Data’r DU ar Gysawd yr Haul (UKSSDC) yn darparu archif ganolog a chanolfan ddata a ariennir ar y cyd gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) a’r NERC ar gyfer gwyddor Cysawd yr Haul yn y DU.

Mae BADC, NEODC ac UKSSDC yn rhan o’r Ganolfan Archifau Data Amgylcheddol (CEDA) sy’n cael ei rhedeg ar y cyd â’r Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

Mae’r Ganolfan Data Pegynol (PDC) yn cydlynu ac yn rheoli data ynglŷn â’r Pegynau a gesglir gan wyddonwyr a ariennir yn y DU. Mae’r data’n cynnwys gwybodaeth a gesglir am blanhigion, anifeiliaid di-asgwrn-cefn, daeareg y ddaear a daeareg y môr.

Mae’r Ganolfan Data Gwybodaeth Amgylcheddol (EIDC) yn cydlynu gweithgareddau data Canolfan yr Amgylchedd a Hydroleg a hi yw Canolfan Ddata’r NERC ar gyfer Gwyddorau’r Ddaear a Dŵr Croyw.

Ceir yn y Ganolfan Data Gwyddorau Daear Genedlaethol (NGDC) yr Archif Data Hydrocarbonau Genedlaethol yn ogystal ag Archif Academaidd y Gwyddorau Daear a’r Ganolfan Cofnodion Daearegol Genedlaethol; yn darparu setiau data helaeth a gwybodaeth ddaearegol yn mynd yn ôl dros fwy na dwy ganrif. Mae’r NGDC yn cefnogi rhaglenni gwyddoniaeth Arolwg Daearegol Prydain a hi yw’r ganolfan ddata ddynodedig ar gyfer y Gwyddorau Daear ym Mhrydain.

Mae Canolfan Data Eigioneg Prydain (BODC) yn gyfleuster cenedlaethol ar gyfer storio a dosbarthu data ynglŷn ag amgylchedd y môr. Mae Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) yn mynnu bod pob data amgylcheddol am y môr sy’n deillio o brosiectau a ariennir ganddynt yn cael eu hadneuo gyda ni.

Porth yw GoGeo ar gyfer dod o hyd i adnoddau gwybodaeth daearofodol. Ymhlith darparwyr y data mae sefydliadau academaidd ac endidau masnachol, yn ogystal â chyflwyniadau cyhoeddus.

 

Nid yw’r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) yn cynnal ei ganolfan ddata ei hun ond mae’n darparu enghreifftiau o gronfeydd data a storfeydd cyhoeddus cyfredol y mae’n eu cefnogi yn ei bolisi rhannu data (pdf).

Un enghraifft o’r fath yw Cronfa Data Dilyniannau Niwcleotid Labordy Bioleg Foleciwlaidd Prydain (EMBL) (a elwir hefyd yn EMBL-Bank), prif adnodd dilyniannau niwcleotid Ewrop. Prif ffynhonnell y dilyniannau DNA ac RNA yw cyflwyniadau uniongyrchol gan ymchwilwyr unigol, prosiectau dilyniannu genomau a cheisiadau am batentau.

Storfa ddata ryngwladol yw Dryad ar gyfer llenyddiaeth wyddonol a meddygol wedi’i hadolygu gan gymheiriaid, ac yn arbennig ddata nad oes storfa arbenigol ar ei gyfer.