Concordat Uniondeb Gwaith Ymchwil
Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymgorffori’r egwyddorion a geir o fewn y Concordat i mewn i’w holl weithgareddau ymchwil.
Mae’r Concordat yn nodi pum ymrwymiad, sy’n gosod disgwyliadau ar ymchwilwyr a'r sefydliad. Bydd y Concordat hefyd yn darparu sicrwydd i’r llywodraeth, i’r cyhoedd ac i’r gymuned ryngwladol bod ymchwil yn y DU yn dal i fod wedi’i seilio ar y safonau uchaf o ran gwytnwch ac uniondeb.
Datblygwyd y Concordat ar y cyd â’r Cynghorau Ymchwil a chyllido, yr Ymddiriedolaeth Wellcome ac amryw adrannau o’r llywodraeth, ac fe fydd yn:
• Gwella’r modd y sicrheir uniondeb gwaith ymchwil ar hyn o bryd.
• Hwyluso cyfathrebu mwy effeithiol o’n hymdrechion i sicrhau bod y safonau uchaf o ran gwytnwch ac uniondeb yn parhau i fod yn sail i’n holl waith ymchwil
• Annog mwy o drylwyredd ac atebolrwydd ar lefel y sefydliad ac ar lefel y sector
• Ein sbarduno i ystyried ein harferion presennol i nodi lle y gellid gwneud gwelliannau.
Dylai pob ymchwilwyr yn Aberystwyth fod yn gyfarwydd â'r egwyddorion a geir o fewn y Concordat a manteisio ar gyfleoedd a ddarperir gan y Brifysgol i wella ac ymgorffori ymhellach y sgiliau hyn i mewn i’w gweithgareddau addysgu ac ymchwilio beunyddiol. Gellir cael manylion pellach o dan 'cyfleoedd hyfforddi' ar y dudalen Moeseg Ymchwil isod.
I lawr lwytho copi o’r Concordat cliciwch yma
Datganiad Blynyddol ar Uniondeb Ymchwil
- Datganiad Blynyddol ar Uniondeb Ymchwil 2018-19
- Datganiad Blynyddol ar Uniondeb Gwaith Ymchwil 2020-2021
Polisïau a gweithdrefnau Aberystwyth
- Moeseg Ymchwil yn Aberystwyth
- Ymarfer Ymchwil Da
- Gweithdrefn ar gyfer ymchwilio i Gamymddygiad mewn Ymchwil
- Y Drefn Gwyno
- Public Interest Disclosure PolicyPublic Interest Disclosure PolicyPublic Interest Disclosure PolicyPublic Interest Disclosure PolicyPublic Interest Disclosure Policy
Cyswllt yn Aberystwyth
Ar gyfer ymholiadau ynglŷn â'r Concordat i Gefnogi Uniondeb Gwaith Ymchwil, cysylltwch â: Lisa Fisher