Gampfa’r Hwb

 

Croeso i Gampfa’r Hwb  

  • Mae Campfa’r Hwb ar gael i fyfyrwyr preswyl yn unig.  
  • Rhaid i chi archebu lle yn y gampfa o flaen llaw a dim ond un slot y dydd y gallwch ei archebu nes y bydd rhagor o gyfyngiadau’n cael eu codi. 
  • Mae'r sesiynau ar yr awr ac yn para am 45 munud, bydd arnoch angen eich Cerdyn Aber i gael mynediad drwy’r drysau Salto. 
  • Lle i 7 sydd yn yr ystafell felly peidiwch â gadael y drysau ar agor yn ystod eich sesiwn.  
  • Gofynnwn i chi gyrraedd yn barod ar gyfer eich sesiwn (gyda thywel a diod) gan na fydd ystafelloedd newid ar gael. 
  • Mae holl offer y gampfa wedi cael eu symud i gydymffurfio â chanllawiau pellhau cymdeithasol felly parchwch ofod eich gilydd. 
  • Gofynnwn i chi lanhau'r offer yr ydych yn eu defnyddio cyn ac ar ôl eu defnyddio, darperir deunyddiau glanhau. 
  • Nid oes staff yn bresennol i oruchwylio cwsmeriaid, ond bydd hapwiriadau yn cael eu gwneud trwy gydol y dydd ac mae'r cyfleuster yn cael ei fonitro gan deledu cylch cyfyng (Canolfan Chwaraeon a Diogelwch y Safle) i sicrhau nad yw’r ystafell yn gorlenwi a bod y gofynion pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn. 
  • Unwaith y bydd eich sesiwn yn gorffen, ewch allan o'r gampfa.  

Archebwch eich lle ar-lein