Cae 3G

 

Maint y cae yw 40m x 25m, ac mae’n adnodd hyfforddi ychwanegol ar gyfer chwaraeon cyswllt. Mae’r cae, sydd â llifoleuadau, o flaen y Ganolfan Chwaraeon, ger y Cae Astro presennol. Mae ar gael i’w ddefnyddio gan fyfyrwyr, clybiau myfyrwyr, staff, ysgolion a grwpiau cymunedol drwy gydol y flwyddyn. 

Amodau Defnyddio’r Cae

Mae’r amodau isod yn berthnasol i bawb sy’n defnyddio’r cyfleuster:

  • Ni chewch fynd ar y trac yn droednoeth
  • Cewch wisgo esgidiau wedi’u mowldio, ond dim llafnau na stydiau metel
  • Rhaid i bob cyfarpar hyfforddi a osodir ar y trac fod yn fath nad yw’n gadael unrhyw ôl
  • Ni chewch fynd â gwydr i’r ardal hon
  • Dim cynhesu ar y trac, heblaw fod hynny wedi’i drefnu’n rhan o’r archeb

Ceir rhestr lawn o’r Telerau a’r Amodau isod:

Terms and Conditions 3g Pitch