Y brif Gampfa

 

Yn sgil buddsoddiad o £250,000, bydd y cyfleusterau newydd yn cynnig y cyfarpar cardio diweddaraf, ac offer cryfhau a chyflyru a gyflenwyd gan Matrix Fitness. Mae cyfarpar arbenigol pellach gan Wattbike, SciFit, Boditrax a Concept yn darparu’r adnoddau gorau sydd ar y farchnad i’n defnyddwyr. Gall rhedwyr a beicwyr ddilyn llwybrau unrhyw le yn y byd drwy ddefnyddio technoleg rhithwir, a dringo rhai o adeiladau mwyaf eiconig y byd, gan gynnwys Tŵr Eiffel ac adeilad talaf y byd – Burj Khalifa. Yn ogystal â hyn bydd modd i’n haelodau ddefnyddio ap ‘SportAber’ ac apiau hyfforddi personol gan gyfuno eu holl ddata hyfforddi gydag apiau fel Strava, Map My Fitness a Fitbit.

Mae’r cyfleusterau newydd yn cynnig rhywbeth i bawb, o ddechreuwyr i athletwyr elît a selogion sydd wrth eu bodd yn cadw’n heini, i’r rhai sydd angen gwneud ymarfer corff i wella eu hiechyd. Mae'r buddsoddiad wedi ein galluogi i roi sylw arbennig i gynllun y cyfarpar, i wneud y profiad o ddefnyddio'r gampfa yn fwy cyfeillgar a chroesawgar, ac mae'r dechnoleg wedi’i chynllunio i wneud ymarfer corff yn fwy pleserus drwy ennyn diddordeb ein cwsmeriaid yn ogystal â’u hysbrydoli a’u herio. Mae'r cyfleusterau yn cynnig cyfle i'n holl aelodau ymarfer mewn awyrgylch gwych, gyda’r cyfle i wneud ffrindiau, ymlacio ac, wrth gwrs, i gyflawni eich holl amcanion iechyd a ffitrwydd.

I ddefnyddio'r Ganolfan Ffitrwydd, byddwn yn darparu sesiynau ymgyfarwyddo a fydd yn para 20/30munud. Mae’r rhain ar gael i bawb a gellir eu harchebu hyd at wythnos ymlaen llaw yn y Ganolfan Chwaraeon. Ar ôl y sesiynau ymgyfarwyddo, gall y rhai sy'n gymwys fynd ati i weithio heb gymorth, a bydd modd i’r rhai sydd eisiau cymorth ychwanegol fanteisio ar y cyfle i gael hyfforddiant personol neu ymgynghori â hyfforddwr ar yr adegau pan fo goruchwyliaeth ar gael.

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi a’ch helpu i gyrraedd eich nod o ran ymarfer corff. 

Mae rhagor o wybodaeth am gyfarpar y Ganolfan Ffitrwydd ar gael ar wefan y gwneuthurwr.

Archebwch eich lle ar-lein neu ffoniwch ni ar 01970 62280.