Polisi E-gyflwyno ac E-adborth

1. Rhagair 

  1. Mae Prifysgol Aberystwyth (PA) yn mynnu bod pob darn o waith cwrs sy'n destun a baratowyd ar raglen prosesu geiriau yn cael ei gyflwyno ar-lein gan fyfyrwyr. 
  2. Mae PA yn mynnu bod staff yn rhoi gradd ac adborth yn electronig trwy Blackboard, yr amgylchedd dysgu rhithiol. 
  3. Dylai myfyrwyr gyflwyno eu gwaith trwy Blackboard. 
  4. Mae PA yn darparu offer Turnitin a Blackboard (gan gynnwys Blackboard Assignment a SafeAssign) ar gyfer e-gyflwyno.  
  5. Mae'n bosib y bydd gwaith a gyflwynir yn electronig yn cael ei wirio yn awtomatig gan wasanaeth paru testun megis Turnitin a SafeAssign a gall yr wybodaeth hon gael ei defnyddio fel rhan o’r marcio a’r adborth. Gall adroddiadau hefyd gael eu defnyddio mewn ymchwiliadau i Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. 
  6. Mae'r polisi hwn i'w gael ar wefan Gwasanaethau Gwybodaeth a chyfeirir ato yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd. 

2. Diffiniadau 

  1. Mae agweddau'r polisi hwn sy'n ymwneud â chyflwyno yn gymwys i bob gwaith i'w asesu sy'n destun a baratowyd ar brosesydd geiriau. Nid yw'r eitemau yn gysylltiedig â chyflwyno felly'n gymwys i waith arall, er enghraifft: 
    • Llyfrau nodiadau 
    • Paentiadau, darluniau, a cherfluniau 
    • Perfformiadau 
    • Cyfraniadau seminar 
    • Arbrofion labordy 
    • Meddalwedd arbenigol 
  2. Mae hwn yn bolisi sy'n gymwys i waith a gyflwynir gan israddedigion, uwchraddedigion ar gyrsiau a ddysgir a myfyrwyr ymchwil uwchraddedig. 

3. Defnyddio eich Data 

  1. Gwasanaethau cwmwl yw Turnitin a Blackboard. Felly mae'r ddau gwmni'n dal gwybodaeth am staff a myfyrwyr.
  2. Mae'r wybodaeth yn cynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, y rhai a gofrestrwyd ar fodiwlau a'u swyddogaeth yng nghyswllt y modiwl. Bydd copi o waith a gyflwynwyd, sylwadau adborth a graddau hefyd yn cael eu storio.
  3. Hefyd, gallai staff PA ddefnyddio data a gynhyrchwyd o'r ddau wasanaeth yn rhan o wasanaeth Dadansoddi Dysgu PA. Gellir cael gwybodaeth am Ddadansoddi Dysgu yn https://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/dp/learning-analytics/ 

4. Cyflwyno gwaith 

  1. Yr adrannau sy’n gyfrifol am greu mannau cyflwyno ym modiwlau Blackboard i bob e-gyflwyniad. Rhaid i'r mannau cyflwyno gynnwys gwybodaeth berthnasol i fyfyrwyr, gan gynnwys y dyddiad cau i gyflwyno'r aseiniad.
  2. Oni bai bod rhesymau penodol i beidio â gwneud hynny, dylai'r dyddiad a'r amser cau fod rhwng dydd Llun a dydd Gwener yn ystod oriau swyddfa.
  3. Dylai adrannau sy'n gosod terfynau amser y tu allan i'r tymor sicrhau bod cymorth priodol ar gael i fyfyrwyr a allai fod â chwestiynau am eu cyflwyniad. Dylid cynnwys cyngor clir ar bwy i gysylltu â nhw os oes angen cymorth ar fyfyrwyr ar safle’r cwrs yn Blackboard. Mae manylion am y cymorth a gynigir gan y Gwasanaethau Gwybodaeth ar gael ar y dudalen we, Cysylltu â’r Gwasanaethau Gwybodaeth.
  4. Dylai myfyrwyr gyflwyno'u gwaith mewn da bryd cyn yr amser a’r dyddiad cau. Ni fydd trafferthion TG yn cael eu hystyried yn 'amgylchiadau arbennig' (gweler adran 3.8 yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd).
  5. Dylai adrannau drefnu sesiwn ymarfer cyflwyno i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf cyn y dyddiad cau cyntaf. Dylai myfyrwyr fanteisio ar hyn i wneud yn sicr eu bod yn deall sut i gyflwyno ac i weld a allant gyflwyno'n iawn o'r cyfrifiadur y byddant yn ei ddefnyddio.
  6. Dylai myfyrwyr wirio bod eu gwaith wedi cael ei gyflwyno'n llwyddiannus. Dylai myfyrwyr sicrhau eu bod yn arbed copi o'r dderbynneb cyflwyno a'i gadw'n ddiogel (mae canllawiau ar gael ar gyfer Turnitin a Blackboard). Os nad ydynt yn gallu gweld y dderbynneb, dylai myfyrwyr wirio a rhoi gwybod i'r Gwasanaethau Gwybodaeth a'u hadrannau ar unwaith am unrhyw broblemau.
  7. Dylid sefydlu mannau cyflwyno ar Turnitin i ganiatáu i fyfyrwyr gyflwyno sawl gwaith cyn y dyddiad cau. 
  8. Dylid sefydlu mannau cyflwyno ar Turnitin i ganiatáu i fyfyrwyr weld eu hadroddiad gwreiddioldeb. Mae cyfarwyddyd i fyfyrwyr ar ddehongli'r adroddiad paru testun ar gael yng nghanllawiau'r llyfrgell ar Gyfeirnodi a Llên-ladrad
  9. Rhaid i'r mannau cyflwyno gael eu gosod i gyflwyno'n ddienw oni bai bod rheswm penodol i beidio â gwneud hynny.
  10. Os bydd cofrestriad y myfyrwyr wedi’i atal neu eu cyfrifon wedi’u cloi ni fyddant yn gallu cyflwyno eu gwaith. Bydd myfyrwyr yn y sefyllfa hon wedi derbyn negeseuon e-bost gan y brifysgol am hyn a fydd yn cynnwys manylion am sut i fynd i'r afael â'r sefyllfa. Gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio'r dudalen we Gwiriwch fod eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth yn gweithio i weld statws eu cyfrifon a darganfod â phwy i gysylltu i gael mwy o gymorth.  

5.  Rhoi Gradd ac Adborth 

  1. Mae polisi PA ynglŷn ag adborth yn rhan o'r Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Mae'r polisi yn cynnwys gwybodaeth am Egwyddorion Adborth Effeithiol PA.
  2. Dylai staff roi adborth i fyfyrwyr o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad cyflwyno. Dydd Llun i ddydd Gwener pan fydd y Brifysgol ar agor yw'r dyddiau gwaith cydnabyddedig. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn Llawlyfr Ansawdd Academaidd PA.
  3. Rhaid rhoi marciau ac adborth trwy Blackboard. Gall staff ddefnyddio'r offer adborth sydd wedi'u hymgorffori yn Turnitin neu Blackboard i roi gradd ac adborth.
  4. Dylid rhoi marciau ac adborth i waith na chafodd ei gyflwyno'n electronig trwy ychwanegu colofn â llaw i'r llyfr graddau yn Blackboard. Mae hyn yn cynorthwyo myfyrwyr i gadw'r adborth mewn un lle, a gweld manylion eu marciau ar draws y modiwl. Mae hefyd yn caniatáu trosglwyddo marciau o Blackboard i AStRA. Os nad yw'n bosib rhoi adborth yn electronig, bydd staff yn rhoi gwybodaeth glir i fyfyrwyr ynglŷn â sut a phryd y bydd yr adborth yn cael ei roi.
  5. Mae canllawiau ar gyfer defnyddio adroddiadau paru testun mewn archwiliadau i achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol i'w cael yma: UAPF adroddiad ymchwiliad 

Gellir defnyddio adroddiadau paru testun mewn archwiliadau i achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. 

6.  Traethodau Hir 

  1. Dylai pob traethawd hir israddedig ac uwchraddedig trwy gwrs gael eu cyflwyno'n electronig.
  2. Dylai adrannau sy'n dymuno gweithio gyda chopïau papur gytuno ar ffordd i gadw trefn ar hynny, mewn trafodaethau â Chofrestrydd y Gyfadran.
  3. Does dim angen i draethodau hir israddedig gael eu rhwymo.
  4. Bydd gofyn i fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig gyflwyno gwaith yn electronig ar gyfer prosesu eu traethawd PhD i'w arholi. 

7.  Cyfnod Cadw 

  1. Mae cyrsiau Blackboard, gan gynnwys marciau yn y llyfr graddau, yn cael eu cadw am bum mlynedd. Mae dogfennau a gyflwynir, gan gynnwys adborth, yn cael eu cadw yn Blackboard tan y bwrdd arholi nesaf o leiaf.
  2. Nod y brifysgol yw sicrhau bod dogfennau a gyflwynir ar gael i'w gweld am bum mlynedd, ond efallai na fydd hyn bob amser yn bosib oherwydd newidiadau i dechnoleg. Hysbysir staff a myfyrwyr am unrhyw newidiadau o ran gweld dogfennau a gyflwynir.
  3. Oherwydd newidiadau i dechnegol, ar hyn o bryd gellir mynd yn ôl i'r Flwyddyn Academaidd 2022-23 i weld aseiniadau Turnitin.
  4. Gall myfyrwyr weld y marciau, ac os ydynt ar gael, y dogfennau a’r adborth a gyflwynwyd, tan y bydd eu cyfrif yn cau neu tan ddaw'r cyfnod pum mlynedd i ben (p'un bynnag sy'n digwydd gyntaf).
  5. Os bydd myfyrwyr yn dymuno cadw copïau o'r gwaith a gyflwynwyd a/neu'r adborth ar ôl iddynt adael PA dylent eu lawr lwytho cyn gadael. Ni all y brifysgol warantu darparu copi o unrhyw waith a gyflwynwyd ar ôl i fyfyriwr adael. 

8. Hawlfraint 

  1. Myfyrwyr sy'n cadw hawlfraint i'w gwaith gwreiddiol a gyflwynwyd i Turnitin.  Mae gwybodaeth am ddatganiad hawlfraint Turnitin i'w weld ar wefan Turnitin.
  2. Gall myfyrwyr ychwanegu eu gwaith yn wirfoddol at Gronfa Ddata Cyfeirio Byd-eang SafeAssign, ac nid yw Blackboard yn hawlio perchnogaeth ar bapurau a gyflwynwyd.
  3. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd staff yn dymuno gosod aseiniad nad yw'n ychwanegu'r cyflwyniadau i gronfa ddata ganolog Turnitin. Gellir defnyddio hyn i aseiniadau drafft neu aseiniadau sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol. 

9. Trafferthion TG 

  1. Pe byddai'r system gyfrifiadurol yn methu ar raddfa sylweddol am fwy na dwy awr rhwng 9am a 5pm ar unrhyw ddiwrnod yn yr wythnos waith, byddai dyddiadau cau cyflwyno a marcio'r diwrnod hwnnw'n cael eu hymestyn 24 awr (tan y diwrnod gwaith nesaf).
  2. Os mai Blackboard sy'n methu, bydd hyn yn effeithio ar bob dyddiad cau (Blackboard Assignments ac offer Blackboard eraill a ddefnyddir i asesu yn ogystal â Turnitin).
  3. Os mai Turnitin sy'n methu, dim ond aseiniadau Turnitin a effeithir.
  4. Bydd y Grŵp Addysg Ddigidol yn monitro pob achos o'r fath. Bydd y Rheolwr Addysg Ddigidol (neu ddirprwy) yn penderfynu pryd i weithredu'r cynllun methiant TG gan hysbysu'r Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth Dros Dro a'r Cofrestrydd Academaidd.  Yna, anfonir y penderfyniad at Gofrestryddion y Cyfadrannau sy'n gyfrifol am gysylltu â'r holl fyfyrwyr perthnasol.
  5. Bydd Gwasanaethau Gwybodaeth hefyd yn anfon negeseuon trwy Newyddion GG, y cyfryngau cymdeithasol a thudalen Statws GG.
  6. Pan fydd y system yn gweithio unwaith eto, bydd Cofrestryddion y Cyfadrannau yn trefnu i ddiweddaru pob man cyflwyno perthnasol gan roi'r dyddiad a'r amser cau newydd. 

10.  Hygyrchedd 

  1. Mae marcio ar-lein yn golygu treulio amser ychwanegol o flaen cyfrifiadur ar adegau penodol o'r flwyddyn. Dylai staff ac adrannau gofio dilyn canllawiau Iechyd a Diogelwch PA er mwyn osgoi cynyddu perygl Anaf Straen Ailadroddus (RSI) neu roi straen ar y llygaid. Mae gwybodaeth ynglŷn â defnyddio cyfarpar sgrin arddangos i'w chael ar y wefan Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd. Dylai cydweithwyr gwblhau asesiad Offer Sgrin Arddangos a'i anfon at eu rheolwr llinell i'w weithredu. 
  2. Mae Turnitin yn rhoi gwybodaeth am hygyrchedd eu cynnyrch ar eu gwefan. Mae gwybodaeth ynglŷn â chael mynediad i Blackboard hefyd i'w chael ar eu gwefan. Os yw staff yn cael trafferthion wrth ddefnyddio Turnitin dylent gysylltu â Phennaeth yr Adran a staff y Grŵp Addysg Ddigidol.
  3. Er gwaethaf lobïo helaeth, nid oes fersiwn Gymraeg o Turnitin i'w gael. Ond, gellir defnyddio Turnitin i gyflwyno papurau yn y Gymraeg a'u gwirio am wreiddioldeb (mae pob Prifysgol yng Nghymru'n defnyddio Turnitin). Os yw staff yn dymuno rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer cyflwyno a marcio dylent ddefnyddio offer 'Blackboard Assignment'. Mae Blackboard SafeAssign hefyd ar gael yn Gymraeg. 

Cefnogaeth 

Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnig cymorth a hyfforddiant i staff ynglŷn ag e-gyflwyno. Ceir mwy o wybodaeth ar dudalennau gwe E-gyflwyno. 

Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’i adolygwyd ddiwethaf ym mis Chwefror 2025 gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Chwefror 2026.