Ydych chi'n aros yn Aber yn ystod Egwyl y Gaeaf?
Ydych chi'n aros ar y Campws neu yn Aberystwyth yn ystod Egwyl y Gaeaf?
Darganfyddwch mwy am oriau agor y Brifysgol; y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd ar gael yn ystod y cyfnod hyn, yn ogystal â digwyddiadau a gweithgareddau sy'n digwydd - a hwyl yr wyl! Mae mwy o wybodaeth am y testunau isod ynghlwm:
-Amseroedd Agored y Brifysgol
-Cefnogaeth ar Unwaith, i Fyfyrwyr a Chefnogaeth Astudio
-Gofod Llyfrgell a Chymmdeithasol
-Undeb Aber (Undeb y Myfyrwyr) - Gwybodaeth yn Aber dros y Gaeaf
-Gweithgareddau Bywyd Preswyl
-Beth i'w wneud yn Aber
-Gwirfoddoli dros Nadolig
-Teithio'n Lleol?
Dros y Gwyliau, bydd rhan fwyaf o wasanaethau’r Brifysgol ar gau neu’n gweithredu llai o oriau o nos Wener, 19 Rhagfyr 2025, tan ddydd Llun, 5 Ionawr 2026.
Mae Dydd Iau 25 Rhagfyr, Gwener 26 Rhagfyr a Dydd Iau 1 Ionawr yn Wyliau Banc.
Canolfan Croesawu Myfyrwyr: Ar Gau: O 23 Rhagfyr 2025 am 16:30. Ailagor: 2 Ionawr 2026.
Adeilad Undeb Aber (Undeb y Myfyrwyr): Ar Gau: O 19 Rhagfyr 2025 am 16:30. Ailagor: 2 Ionawr 2026 am 09:00.
Siop a Bar Undeb Aber (Undeb y Myfyrwyr): Siop ar Gau: O 19 Rhagfyr 2025 am 13:30. Bar ar Gau: O 12 Rhagfyr 2025. Siop a Bar yn Ailagor: 5 Ionawr 2026.
Canolfan Celfyddydau Aberystwyth: Ar Gau: O 23 Rhagfyr 2025 am 18:00. Ailagor: 3 Ionawr 2026.
Gwasanaethau T.G.: Ar Gau: O 23 Rhagfyr 2025 am 16:30. Ailagor: 2 Ionawr 2026.
Canolfan Chwaraeon SbortAber: Ar Gau: O 23 Rhagfyr 2025 am 17:00. Bydd y Gampfa ar agor ar 29 a 30 Rhagfyr rhwng 08:00 and 15:00. Bydd y Ganolfan Chwaraeon yn ailagor yn llawn: 2 Ionawr 2026 am 06:30.
Mannau Arlwyo: Ar Gau: O 19 Rhagfyr 2025 am 14:00. Ailagor: 5 Ionawr 2026.
Rydym am roi gwybod i chi fodd bynnag y bydd rhai gwasanaethau craidd a llawer o gefnogaeth yn dal i fod ar gael yn ystod y cyfnod hwn.
Angen cefnogaeth ar unwaith?
Bydd Llinell Gymorth 24/7 y Brifysgol ar gael ar 01970 622 900.
Bydd ein tîm Diogelwch cyfeillgar ar gael ac yn bresennol ar y campws 24/7, fel y mae bob amser. Gellir cysylltu â hwy ar 01970 622 900 neu ymweld a mynedfa’r Campus (ger mynedfa Campws Penglais yma – ar agor 24/7)
Gwasanaethau Myfyrwyr
Bydd Gwasanaethau Myfyrwyr yn cau ddydd Mawrth, 23 Rhagfyr am 16:30. Bydd yn ail-agor ddydd Gwener, 2 Ionawr am 09:00.
Dewch o hyd i fanylion cyswllt y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr yn ystod Egwyl y Gaeaf.
Darllenwch ragor o wybodaeth o ran cael cymorth brys yn ystod Egwyl y Gaeaf.
Cefnogaeth Astudio
Eisiau dysgu sgil newydd dros egwyl y Gaeaf neu ddod o hyd i adnoddau ac offer i dy helpu i astudio'n effeithiol?
-Mae gan y Brifysgol ystod o gymorth astudio sydd ar gael drwy gydol Egwyl y Gaeaf a gwybodaeth drwy Sgiliau Aber.
-Mae adnoddau defnyddiol ar gael ar gyfer adolygu ac arholiadau.
-Darllenwch Flog Myfyriwr ar sut i adolygu'n effeithiol i gael marc uchel.
Dyma fanylion oriau agor yr Ystafelloedd Gyfrifiaduron dros gyfnod gwyliau'r Nadolig.
Bydd Llyfrgell Hugh Owen Lefel D, Lolfa@Rosser, Lolfa@PJM a’r Weithfan yn parhau ar agor dros y Nadolig i ddefnyddwyr sydd â Cherdiau Aber.
Llyfrgell Hugh Owen: Lefelau E&F: Ar Gau: O 23 Rhagfyr 2025 am 16:30. Ailagor: 2 Ionawr 2026 am 08:30.
Llyfrgell Gwyddorau Ffisegol: Ar Gau: O 23 Rhagfyr 2025 am 16:30. Ailagor: 2 Ionawr 2026 am 08:30.
Cofiwch fod Lefel D Llyfrgell Hugh Owen ar agor 24/7 drwy gydol egwyl y gaeaf ac yn darparu mynediad i fannau astudio, cyfrifiaduron, peiriannau gwerthu a seddau cyfforddus.
Mae angen eich Cerdyn Aber i fynd i mewn a chael mynediad i'r lefel hon.
Dyma fanylion am Oriau Agor y Llyfrgell dros Egwyl y Gaeaf.
Darganfyddwch mwy o wybodaeth am Wasanaethau a Chymorth TG a Llyfrgell dros y gwyliua.
Mannau Gofod Cymdeithasol Eraill:
Bydd Y Sgubor, Y Ffald, PJM a Lolfa Rosser yn parhau ar agor 24/7 drwy gydol egwyl y Gaeaf.
Dyma fanylion am Wasanaethau Arlwyo’r Brifysgol dros Egwyl y Gaeaf.
Mae gan Undeb Aber restr o ddigwyddiadau a chysylltiadau defnyddiol ar gyfer myfyrwyr sy'n aros yn Aberystwyth dros egwyl y gaeaf.
Dyma fanylion am Ddigwyddiadau a Chysylltiadau.
Ymunwch â Grŵp Facebook Yn Aber am y Gaeaf!
Mae Undeb Aber wedi creu grwp Facebook i rannu diweddariadau lleol o ddigwyddiadau a gweithgareddau, yn ogystal â rhoi cyfle i fyfyrwyr gyfarfod gyda myfyrwyr eraill.
Digwyddiad Cwrdd a Chyfarch yn Aber dros y Gaeaf - Dydd Mercher, 17 Rhagfyr yn y Picture House, Undeb Aber - 13:00 - 15:00
Dewch i gwrdd â myfyrwyr eraill sy’n aros yn Aberystwyth dros wyliau’r gaeaf! Mynnwch fins-pei a phwnsh twym heb alcohol am ddim yno!
Cinio Nadolig Fflat/Tŷ
Gwyddom y gall eich cymuned yma’n Aber gael cinio Nadolig fflat. Mae Undeb Aber wedi rhestru yma lle gallwch chi gael eich twrci a llysiau rhataf yn archfarchnadoedd Aber!
Mae tîm Bywyd Preswyl Prifysgol Aberystwyth yn cynnal amrywiaeth wych o ddigwyddiadau Nadoligaidd ym mis Rhagfyr. Mae’r holl wybodaeth am y digwyddiadau hyn i’w gweld ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol BywydPres hefyd @Bywydaberlife IG a @Bywydaberlife FB.
Canolfan y Celfyddydau
Mae Canolfan y Celfyddydau yn cynnal ystod o wahanol gyrsiau a gwersi untro trwy gydol egwyl y gaeaf. Bydd y sinema yn dangos llawer o ddangosiadau arbennig yn ystod y cyfnod hwn.
Darganfyddwch fwy o wybodaeth am holl weithgareddau mis Rhagfyr.
Canolfan Chwaraeon SbortAber
Bydd y Ganolfan Chwaraeon ar gau o 23 Rhagfyr am 17:00 tan 28 Rhagfyr.
Bydd Cromen SbortAber (y Gampfa yn unig) ar agor ar 29 a 30 Rhagfyr rhwng 08:00 a 15:00.
Bydd y Ganolfan Chwaraeon yn ailagor yn llawn ar 2 Ionawr 2026 am 06:30.
Awydd rhedeg neu nofio?
A oes awydd arnoch nofio yn y môr ar gyfer elusen?
Ymunwch â ddigwyddiad Nofio yn y Môr Ddydd Calan ym Mae Clarach ddydd Iau 1 Ionawr 2026 er budd i RNLI. Ewch am ddiod poeth am ddim hefyd!
Eisiau cymryd rhan mewn Parkrun dros y Nadolig neu Ddydd Calan?
Bydd Parkrun Aberystwyth yn cynnal digwyddiad Parkrun ar Ddiwrnod Nadolig (Dydd Iau 25 Rhagfyr) ac ar Ddydd Calan (Dydd Iau 1 Ionawr 2026) er mwyn i chi allu bod yn barod ar gyfer eich Cinio Nadolig!
Digwyddiadau Tref Aberystwyth
Gemau Pêl-droed a Rygbi
Clwb Pêl-droed Aberystwyth - Coedlen y Parc, SY23 1PG
Tîm Dynion Aberystwyth v Caerfyrddin - Dydd Iau 1 Ionawr 2026 - Cychwyn 14:30
Tim Merched Aberystwyth v Briton Ferry - Dydd Sul 4 Ionawr 2026 - Cychwyn 14:00
Tocyn am ddim i Fyfyrwyr y Brifysgol efo’ch Cerdyn Myfyriwr.
Clwb Rygbi Aberystwyth - Plascrug, SY23 1HL
Tim Athletig Dynion Aberystwyth v Tregaron - Gem Flynyddol Diwrnod San Steffan - Dydd Gwener 26 Rhagfyr - Cychwyn 14:30
Siopa Nadolig?
Yn ystod cyfnod cyn y Nadolig, bydd siopau annibynnol yng nghanol y dref yn aros ar agor tan 7pm bob dydd Iau.
Cynhelir Marchnad Ffermwyr Aberystwyth ar y 6ed a’r 20fed o Ragfyr ar dop y dre' ger Neuadd y Farchnad rhwng 09:00 a 13:00.
Digwyddiadau cymunedol Nadolig a dangosiadau
Mae digwyddiadau cymunedol amrywiol yn cael eu cynnal yn Aberystwyth a’r ardal drwy gydol y cyfnod hwn. Dyma rai enghreifftiau o’r digwyddiadau hyn:
-Aber Game Park – Digwyddiadau pen bwrdd fel Gemau Pokémon
-Bookshop by the Sea – Digwyddiadau a Gweithgareddau
-Sinema Commodore Cinema – Dangosiadau
Gellir dod o hyd i wybodaeth fanwl am adeg y Nadolig yma ar wefan Darganfod Ceredigion.
Gweddio ac Addoli
Mae ein Gofod Ffydd yn rhywle y gall aelodau o gymuned ein Prifysgol weddïo, cyfarfod ac ymlacio.
Bydd y Gofod Ffydd yn parhau ar agor dros Egwyl y Gaeaf 7 diwrnod yr wythnos ac mae gwybodaeth yma ar sut i archebu'r lle.
Gellir dod o hyd i ddolenni pellach yma i’r nifer o ddarpariaethau ffydd leol a chyfleoedd i fynychu dros Egwyl y Gaeaf.
Bydd gwasanaethau carolau yn cael eu cynnal mewn nifer o leoliadau hardd ar draws Aberystwyth a Cheredigion.
Mae llawer o gyfleoedd gwirfoddoli yn Aberystwyth a’r cyffiniau, sy’n parhau dros gyfnod y gaeaf.
Dyma rai enghreifftiau o sefydliadau a fyddai’n ddiolchgar am eich cefnogaeth y Nadolig hwn:
There are many volunteering opportunities in and around Aberystwyth, which continues over the winter period.
Here are some examples of organisations that would be grateful for your support this Christmas:
-Jubilee Storehouse – Banc Bwyd wedi ei leoli yn Aberystwyth. E-bostiwch jubileestorehouse@broaberystwyth.co.uk os am wirfoddoli.
-Bookshop by the Sea – Siop Lyfrau lleol. E-bostiwch thebookshopbythesea@gmail.com
-Siopau Elusennol Lleol – galwch fewn i'r siopau elusennol lleol i holi o ran gwirfoddoli.
Cofrestwch gyda CAVO sy'n hyrwyddo a chefnogi gweithredu cymunedol gwirfoddol ledled Ceredigion ar gyfer cyfleoedd gwirfoddoli pellach.
Trafnidiaeth Lleol
Cofiwch wirio amserlenni gwasanaethau trafnidiaeth dros y gwyliau a’u oriau agor ymlaen llaw. Gellir dod o hyd i wefannau cwmnïau Trafnidiaeth Lleol yma:
Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda i'n holl fyfyrwyr a staff!
