Y newyddion diweddaraf ar wasanaethau’r Llyfrgell a TG
Mae Llyfrgell Hugh Owen a gwasanaethau TG y manylir arnynt isod yn parhau i fod ar agor ac ar gael.
Desg Wasanaeth Rithiol TG a'r Llyfrgell
Mae Desg Wasanaeth TG a'r Llyfrgell ar gael drwy sgwrs ar-lein, ar MS Teams, dros y ffôn a thros e-bost: Dydd Llun-Gwener 08:30-20:30 / Dydd Sadwrn & Dydd Sul 08:30-17:30
Defnyddio Adnoddau'r Llyfrgell yn ystod cyfyngiadau COVID
Cymorth pwnc a sgiliau Llyfrgell a Gwybodaeth
Mannau astudio yn y Llyfrgell
Gweler ein gwefan am fwy o wybodaeth ar yr hyn sydd ar gael a sut i archebu man astudio.
- Mae Ystafell Iris de Freitas yn darparu mannau astudio sydd rhaid eu rhag-archebu i fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth.
- Mae Lefelau E a F yn Llyfrgell Hugh Owen bellach ar agor ac yn cynnig amrywiaeth o fanau astudio y mae’n rhaid eu harchebu o flaen llaw.
Dychwelyd eich llyfrau ac offer TG
Benthyca llyfrau’r llyfrgell drwy’r post
Os nad yw’r llyfr yr ydych ei angen ar gael ar-lein drwy Primo, catalog y llyfrgell, ac nad ydych yn Aberystwyth, gallwch drefnu i’r llyfr gael ei anfon i chi drwy’r post gan ddefnyddio’r Gwasanaeth Benthyca drwy’r Post
Benthyg llyfrau drwy'r gwasanaeth Clicio a Chasglu
- Gellir benthyg llyfrau ac offer TG trwy ddefnyddio’r gwasanaeth Clicio a Chasglu a threfnu amser casglu ymlaen llaw. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael 7 diwrnod yr wythnos rhwng 10:00 a 17:00.
- Os hoffech ddefnyddio adnoddau nad ydynt ar gael i'w benthyg - cysylltwch â ni.
Gwasanaeth dros dro i ddigideiddio penodau o lyfrau
Mewn ymateb i COVID-19, rydym yn cyflwyno gwasanaeth dros dro i ddigideiddio penodau o lyfrau tra bod mynediad at ddeunyddiau yn y Llyfrgell yn gyfyngedig.
Argraffu a chopïo
Mwy o Lyfrau
- Gwasanaeth Mwy o Lyfrau
- Os nad yw eich cais ar gael fel e-lyfr, byddwn nawr yn ceisio archebu copi print. Mae’n bosib na fydd y llyfr ar gael i’w gasglu am rai wythnosau oherwydd y sefyllfa sydd ohoni felly cadwch hyn mewn cof.
Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau o'r llyfrgell
- Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau o'r llyfrgell
- O ganlyniad i'r cyfyngiadau newydd a roddwyd ar waith yn ddiweddar ledled y DU, ni fydd y tîm Cyflenwi Dogfennau yn gallu benthyca na rhoi benthyg deunydd print am y tro. Gellir parhau i wneud ceisiadau am ddeunydd digidol gan ddefnyddio'r botwm "Cyflenwi Dogfennau" yn Primo.
- Os oes angen arnoch lyfr, erthygl, neu bennod, nad oes gennym yma yn Aberystwyth, gallwch wneud cais am yr eitem gan ddefnyddio’r botwm “Cyflenwi Dogfennau” yn Primo – Catalog y Llyfrygell.
- Pan fydd eich eitem yn cyrraedd y llyfrgell, fe anfonwn e-bost atoch gyda gwybodaeth ar sut i archebu slot amser i chi ddod mewn i’w chasglu.
Sesiynau rhithiol i gynefino â Thechnoleg Gwybodaeth a'r Llyfrgell i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd
Datblygiadau diweddaraf
Cadwch lygad ar ein cynlluniau i ailagor drwy ddilyn cyfrifon y Gwasanaethau Gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol