Oriau Agor Gwyliau'r Nadolig

Ddarpariaeth Gwasanaethau Myfyrwyr Dros Wyliau'r Nadolig

Dyma’r trefniadau gadarnhau ar gyfer y ddarpariaeth Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd dros wyliau’r Nadolig.

Pryd fyddwn ni ar agor? Bydd ein staff a'n timau yn gweithio hyd at y 22ain o Ragfyr 2022, a thrwy gydol y diwrnod hwnnw. Ewch i’n tudalennau gwe i gael gwybod sut y gallwch chi gysylltu â ni - Manylion Cyswllt: Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd, Prifysgol Aberystwyth.

Pryd fyddwn ni’n cau? Bydd ein gwasanaethau wedyn ynghau drwy wyliau’r Nadolig, a byddant yn ailagor ddydd Mawrth, y 3ydd o Ionawr, 2023.

Cymorth yn ystod y gwyliau: Os bydd angen cymorth arnoch yn ystod gwyliau’r Nadolig, efallai yr hoffech ystyried yr opsiynau hyn:

  • Togetherall: https://togetherall.com/en-gb/ (adnodd cymorth a lles ar-lein)
  • Dylai myfyrwyr sydd ag argyfwng iechyd meddwl gysylltu â’r gwasanaethau cymorth statudol fel y bo'n briodol drwy’r adran damweiniau ac achosion brys, eu meddyg teulu neu'r gwasanaethau cymdeithasol.
  • Os ydych yn dymuno siarad â chwnselydd pan fydd y ddarpariaeth Cymorth i Fyfyrwyr a Gwasanaethau Gyrfaoedd ar gau, ewch i https://carefirst-lifestyle.co.uk/ a chofrestru fel a ganlyn: Enw defnyddiwr:abu002 a chyfrinair: student
  • myf.cymru - os wyt yn siarad Cymraeg, mae gwybodaeth ac adnoddau iechyd meddwl a lles ar gael ar y wefan:  https://myf.cymru   

  • Student Space - Cymorth dros wyliau'r gaeaf

Ffydd a Darpariaeth Ysbrydol: I gael cymorth caplaniaeth, ewch i'r tudalennau gwe canlynol https://www.aber.ac.uk/cy/sscs/_chaplaincy/ lle gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ddefnyddiol a phwyntiau cyswllt allweddol.

Mewn Argyfwng: I gael cymorth os oes gennych argyfwng meddygol/deintyddol/iechyd meddwl/diogelu/digwyddiad o bwys: https://www.aber.ac.uk/cy/sscs/contact-us/out-of-hours/

Diogelwch bob awr o'r dydd

Mae canolfan Tîm Diogelwch y Brifysgol yn Nerbynfa'r Campws a wrth law i gynorthwyo 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, trwy gydol y flwyddyn, ar y campws ac oddi arno.

Mewn argyfwng ffoniwch 999 neu'r staff Diogelwch ar 01970 622649 neu symudol 07889 596220.

E-post sitesecurity@aber.ac.uk

Diogelwch  : Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd , Prifysgol Aberystwyth


Yn olaf, o holl dîm Gwasanaethau Myfyrwyr, dymunwn y gorau i chi i gyd. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.