Nadolig yn Aber

Ydych chi'n aros ar y Campws neu yn Aberystwyth yn ystod gwyliau'r Nadolig?
Os felly, peidiwch â phoeni. Byddwch mewn cwmni da! Ac er bod pethau'n dal i fod ychydig yn wahanol oherwydd cyfyngiadau’r Cofid, bydd cyfleoedd o hyd i fwynhau a gwneud y gorau o’r adeg hon o'r flwyddyn. Nid chi fydd yr unig fyfyriwr sy'n aros yn y Brifysgol yn ystod yr ŵyl. Mae llawer o fyfyrwyr, rhai o wledydd Prydain a rhai o dramor, yn aros yn Aber yn ystod gwyliau'r Gaeaf.
Bydd y tudalennau hyn yn rhoi gwybod i chi am yr hyn sy'n digwydd ar y Campws ar gyfer myfyrwyr drwy fis Rhagfyr a gwyliau'r Gaeaf. Mae'n cynnwys dolenni cyswllt â digwyddiadau, gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael, ac amseroedd agor gwasanaethau allweddol ar y Campws yn ystod yr egwyl.
Cael Gafael ar Gymorth yn Ystod Gwyliau'r Gaeaf
Wrth i'r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr gau ar gyfer gwyliau'r Nadolig, mae’n debyg y cewch y Brifysgol yn dawelach nag yn ystod y tymor. Peidiwch â phoeni – bydd cefnogaeth ar y campws o hyd i'ch helpu os bydd ei hangen arnoch.
Beth allaf gymryd rhan ynddo?
Drwy gydol mis Rhagfyr mae llu o weithgareddau a digwyddiadau Nadoligaidd i gymryd rhan ynddynt. O deithiau i farchnadoedd Nadolig i gystadlaethau Addurno Nadolig yn y Neuaddau, mae gennym amrywiaeth helaeth o bethau wedi’u trefnu.
Mae tîm gwych y gwasanaethau preswyl wedi gwneud COBLYN o waith da eleni wrth ddathlu 12 diwrnod y Nadolig gyda 12 o ddigwyddiadau Nadoligaidd drwy gydol mis Rhagfyr. Bydd pob un o'r 12 digwyddiad yn cael eu hysbysebu drwy Instagram & Facebook (@Bywydaberlife IG a BywydaberLife FB)
Mae'r rhain yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, 'Talwrn Teisenni Nadolig', Nosweithiau Ffilmiau, addurno bisgedi sinsir Nadolig, caban ffotos Nadoligaidd, ac ysgrifennu cardiau ar gyfer y gymuned leol – dewch draw i fynd i ysbryd yr ŵyl.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal rhai gweithgareddau anhygoel sy'n canolbwyntio ar y gymuned drwy gydol mis Rhagfyr. Edrychwch ar y tudalennau Digwyddiadau Digwyddiadau (abersu.co.uk) i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd a sut i gymryd rhan.
Gellir casglu a phostio cardiau post AM DDIM wrth ddesg dderbynfa'r Undeb (ar gael o 1af Rhagfyr) i fyfyrwyr eu hanfon at ffrindiau a/neu anwyliaid.
20 Rhagfyr - Taith fws i Farchnad Nadolig Frankfurt yn Birmingham - yn gadael Aber am 7:30am, ac yn gadael B'ham am 6pm. £17 y pen Marchnad Nadolig Birmingham: Yn Aber ar gyfer y Nadolig? Digwyddiadau (abersu.co.uk)
12 - 17 Rhagfyr 11am – 3pm - Hwyl yr ŵyl ar y sgwâr: cerddoriaeth Nadoligaidd, diodydd poeth a mins peis am ddim, rhoi cardiau Nadolig a hysbysebu digwyddiadau Gwyliau'r Gaeaf.
Pryd fydd y Brifysgol yn cau?
Bydd y Brifysgol ar gau o 5pm ddydd Iau 23 Rhagfyr 2021 a bydd yn ailagor ac yn ôl i’w gwaith fel arfer ddydd Mawrth 4 Ionawr 2022. Ni fydd staff yn darllen eu negeseuon ebost yn ystod y cyfnod hwn gan fod hwn yn gyfnod gwyliau iddynt, felly i'ch helpu tra byddwn ar gau, rydym wedi llunio rhai dolenni defnyddiol rhag ofn y bydd angen cymorth arnoch - yn enwedig os dyma'ch blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.
Bydd Adeilad Undeb y Myfyrwyr yn cau am 11pm ar 17 Rhagfyr 2021 ac yna’n ailagor ar y 10 Ionawr 2022. Bydd staff ar gael ar-lein rhwng 20 - 23 Rhagfyr ac yna eto rhwng 4 a 7 Ionawr 2022.
Cymorth gyda'ch aseiniadau
Mae gennym ystod eang o adnoddau ac offer dysgu i'ch helpu i astudio'n effeithiol a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo.
Mae'r ddwy Lyfrgell ar agor yr wythnos cyn y Nadolig ac mae cymorth ar gael gan y Gwasanaethau Gwybodaeth hyd at amser cau ddydd Iau 23 Rhagfyr.
Mae llawer o adnoddau llyfrgell ar gael ar-lein gan gynnwys Primo, catalog y llyfrgell. Mae fideos ar gael ar "Sut i ddod o hyd i e-lyfr" ac ar gael gafael ar adnoddau oddi ar y campws. I gael rhagor o gymorth ar-lein, edrychwch ar ganllawiau cynhwysfawr y Llyfrgelloedd
Edrychwch ar y cyrsiau a'r adnoddau sydd ar gael yn LinkedIn Learning - ar gyfer eich aseiniadau neu ddim ond am sbort. Gallwch feistroli Excel neu'r piano, cael gwybod beth yw’r cwestiynau mwyaf cyffredin mewn cyfweliadau neu hyfforddi’ch ymennydd ar gyfer hapusrwydd.
Dyma restr o 12 cwrs i chi roi cynnig arnynt dros 12 diwrnod y Nadolig:
- The pursuit of happiness: how to train your brain for happiness. - Hyd: 54 munud
- Learning Excel 2019 - Length: 1 hour 7 minutes
- GarageBand Essential Training: capture your musical vision - Hyd: 4 awr 4 munud
- Expert tips for answering common interview questions - Hyd: 1 awr 14 munud
- Drawing Foundations Fundamental - Hyd: 2 awr 24 munud
- Being an effective team member - Hyd: 31 munud
- Introduction to photography - Hyd: 1 awr 52 munud
- Managing your personal finances - Hyd: 1 awr 4 munud
- Designing a presentation - Hyd: 56 munud
- Piano Lessons: Teach yourself to play - Hyd: 1 awr 54 munud
- Project management foundations: small projects - Hyd: 1 awr 29 munud
- Building self confidence - Hyd: 18 munud
Mae holl fyfyrwyr a staff y Brifysgol yn cael defnyddio’r adnoddau allanol hyn ac os ydych yn rhoi’ch cyfrif ar waith cyn 10 Ionawr byddwch yn cael eich cynnwys mewn raffl i ennill taleb werth £25.00.
Gwasanaeth Diogelwch y Campws
Bydd ein tîm Diogelwch cyfeillgar ar gael ac yn bresennol ar y campws 24/7, fel y mae bob amser. Mae swyddfa’r gwasanaeth Diogelwch i’w chael yn Adeilad Derbynfa'r Campws ger prif fynedfa campws Penglais. Byddant yn rheoli mynediad a diogelwch adeiladau a llety'r Brifysgol yn ystod gwyliau'r Nadolig. Bydd y tîm yn ‘ymatebwyr cyntaf’, yn mynd i unrhyw ddigwyddiadau ac argyfyngau ac yn rheoli unrhyw sefyllfaoedd o’r fath ar y Campws. Gellir cysylltu â swyddfa’r gwasanaeth Diogelwch ar +44 01970 622 900.
Cymorth yn y Neuaddau Preswyl
Bydd y swyddfa llety ar agor tan 5pm ddydd Iau 23 Rhagfyr 2021, a bydd ar gau tan 08:30am ddydd Mawrth 4 Ionawr 2021. Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, ewch draw i brif dderbynfa'r campws lle y bydd staff ar ddyletswydd 24/7. Dyma oriau agor mannau cymdeithasol yr adeiladau Preswyl rhwng 23 Rhagfyr 2021 a 4 Ionawr 2022:
- Y Sgubor - ar agor 24/7 drwy ddefnyddio’ch Cerdyn Aber
- Y Ffald - ar agor 24/7 drwy ddefnyddio’ch Cerdyn Aber
- Lolfa Rosser - ar agor 24/7 drwy ddefnyddio’ch Cerdyn Aber
- Lolfa PJM - ar agor 24/7 drwy ddefnyddio’ch Cerdyn Aber
Bydd oriau agor y swyddfa lety yn ailddechrau ddydd Mawrth 4 Ionawr 2022 am 08:30am. Mae gwasanaeth Diogelwch y Campws ar gael 24 awr y dydd dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd a gellir cysylltu â’r tîm Diogelwch ar 01970 622900. Cofiwch, os oes gennych unrhyw faterion cynnal a chadw, neu unrhyw bryderon o ran lles, ffoniwch y tîm diogelwch ar 01970 622900.
Llyfrgelloedd
Bydd Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol ar agor:
08:30-17:30: Dydd Llun 20 Rhagfyr 2021 - Dydd Iau 23 Rhagfyr 2021
Bydd Ystafell Iris de Freitas ar agor ar y dyddiadau a'r amseroedd canlynol dros gyfnod y gwyliau, at ddefnydd myfyrwyr a staff y Brifysgol, gan ddarparu mannau astudio, cyfrifiaduron, mannau astudio mewn grwpiau, peiriannau gwerthu bwyd a diod ac argraffydd/llungopïwr:
08:30-17:30 Dydd Gwener 24 Rhagfyr 2021.
Ar agor 24/7 o 8:30 y bore ar ddydd Llun 27 Rhagfyr 2021 tan 17:30 dydd Gwener 31 Rhagfyr 2021.
08:30-17:30 Dydd Llun 3 Ionawr 2022.
Defnyddiwch eich cerdyn i fynd mewn ac allan drwy ystafell Herman Ethé. Gwyliwch y fideo am gyfarwyddiadau.
Bydd y llyfrgelloedd - Hugh Owen a’r Gwyddorau Ffisegol - yn ailagor yn llawn am 08:30 Dydd Mawrth 4 Ionawr 2022.
Gweler ein tudalennau gwe am oriau agor Llyfrgell Hugh Owen a Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol.
Y Ganolfan Chwaraeon
Bydd y Ganolfan Chwaraeon yn cau am 10pm ar 23 Rhagfyr ac yn ailagor am 6.30am ar 4 Ionawr. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu bod rhaid i chi laesu dwylo! Gall myfyrwyr sy'n aros yn llety’r Brifysgol ddefnyddio ein campfa, sydd lawr y grisiau yn Sgubor, Fferm Penglais bob dydd rhwng 9am - 9pm trwy gydol Gwyliau’r Nadolig. Nodwch na fydd y gampfa yn cael ei goruchwylio yn ystod y cyfnod yma, ac mae angen i chi gadw lle ymlaen llaw, gan ddefnyddio'r ddolen hon: https://www.aber.ac.uk/cy/sportscentre/facilities/sgubor-gym/
Mannau Arlwyo
Bydd ein holl mannau arlwyo ar agor tan 23 Rhagfyr, ac yna byddant yn ailagor ddydd Mawrth 4ydd Ionawr. Sylwch y bydd y siopau lleol gan gynnwys CK’s ac Subway ar agor drwyddi draw heblaw am Ddydd Nadolig.
Cymorth ynghylch COVID-19
Os ydych chi'n hananynysu, yn cael canlyniad prawf positif, yn dangos symptomau, neu'n byw gyda rhywun sy'n dangos symptomau, rhowch wybod i ni drwy ddiweddaru’ch cofnod myfyriwr a dewis y rheswm ynysu sy'n berthnasol i chi. Bydd aelod o'r tîm COVID yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Bydd y llinell gymorth coronafeirws COVID ar gael drwy e-bost coronafeirws@aber.ac.uk a’r ffôn ar 01970 622483 tan 3pm ar 23 Rhagfyr ac yna yn ôl ar yr oriau gwaith arferol o 4 Ionawr. Gallwch hefyd edrych ar ein tudalennau gwe Gyda'n Gilydd yn Aber sydd â'r holl wybodaeth ddiweddaraf am y COVID https://www.aber.ac.uk/cy/important-info/together-in-aber/.
Rhwng 24 Rhagfyr a 4 Ionawr, gwasanaeth e-bost yn unig fydd y llinell gymorth. Ar gyfer cwestiynau brys sy’n ymwneud â COVID-19 na all aros nes i ni ddychwelyd ar 4 Ionawr 2021, megis mynediad at brofion neu gymorth hunanynysu, e-bostiwch coronafeirws@aber.ac.uk.
Byddwn yn gwirio'r cyfrif ebost yn ddyddiol ac yn ymateb i ymholiadau brys yn unig. Bydd y gwasanaeth ffôn yn ailddechrau ddydd Llun 4 Ionawr 2021.
Mae'n bwysig cofio ei bod hi’n bosib y bydd amseroedd agor y siopau bwyd lleol yn fwy cyfyngedig dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd, felly bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cynllunio er mwyn sicrhau bod gennych ddigon o gyflenwadau bwyd os bydd angen i chi ynysu ar fyr rybudd. Bydd rhai parseli yn cynnwys bwydydd sych ar gael ar gyfer achosion brys a gellir cael gafael ar y rhain drwy gysylltu â'n Tîm Diogelwch Campws ar 01970 622900.
Cymorth Ariannol
Bydd y gwasanaeth Cyngor, Gwybodaeth ac Arian ar gael hyd 23 Rhagfyr 2021 a bydd yn dychwelyd i’r oriau gwaith arferol o 4 Ionawr.
Y dyddiad olaf ar gyfer prosesu ceisiadau Caledi mewn pryd ar gyfer gwyliau'r Nadolig yw 14 Rhagfyr 2021. Gellir cyflwyno ceisiadau caledi dros egwyl y Nadolig ond ni fyddant yn cael eu hasesu tan ar ôl yr egwyl.
Gellir gweinyddu cyllid mewn argyfwng drwy student-adviser@aber.ac.uk hyd at 23 Rhagfyr 2021. Ar ôl hynny, gwneir trefniadau i wasanaethau diogelwch y safle weinyddu'r cyllid mewn argyfwng.
Iechyd Meddwl a Lles
Bydd ein Tîm Lles Myfyrwyr yn ôl ar 4 Ionawr 2022. Bydd unrhyw ffurflenni ar-lein a gyflwynir yn ystod yr egwyl yn cael eu blaenoriaethu ar ôl dychwelyd ac fe gysylltir â’r myfyrwyr wedyn.
Pryderon argyfwng sy'n gysylltiedig â lles, iechyd meddwl neu ddiogelwch, gweler ein tudalen Argyfwng sydd â gwybodaeth ddefnyddiol a siartiau llif i'ch cyfeirio at y cymorth priodol yn gyflym: Mewn Argyfwng Nawr? : Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr a Gyrfaoedd , Prifysgol Aberystwyth/
Lles cyffredinol: gwybodaeth, cymorth a chyngor, mae’r gwasanaethau isod ar gael i’w defnyddio gan y myfyrwyr:
Care First: Care First : Student Support & Careers Services , Aberystwyth University
Argyfwng Iechyd Meddwl. Pryderu ynghylch eich diogelwch? Gweler ein tudalen Argyfwng sydd â gwybodaeth ddefnyddiol a siartiau llif i'ch cyfeirio at y cymorth priodol yn gyflym: Mewn Argyfwng Nawr? https://www.aber.ac.uk/cy/sscs/wellbeing/crisis/
- Cysylltwch â’ch meddyg teulu lleol am apwyntiad ar frys: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/directory/gps
- Galw Iechyd Cymru GIG: 111 neu 0845 46 47
- Yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys Leol: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/directory/hospitals/104
- Deialwch 999
- Y Samariaid:
- Ffôn 116 123 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)
Llinell Gymraeg 0300 123 3011 (7pm- 11pm yn unig, 7 diwrnod yr wythnos) - Ebost jo@samaritans.org
- Gwe www.samaritans.org
- Ffôn 116 123 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)
O dan ofal meddyg teulu, gwasanaethau iechyd meddwl neu arbenigwyr eraill? Rydym yn eich cynghori i ystyried eich anghenion a sut i gael gafael ar wasanaethau dros dymor yr ŵyl. Sicrhewch fod gennych ddigon o unrhyw foddion sydd ar bresgripsiwn, a’ch bod yn gwybod pryd bydd y gwasanaethau ar agor ar gyfer apwyntiadau os bydd eu hangen. Mae gwybodaeth am feddygon teulu a’r ysbyty lleol yn ardal Aberystwyth ar gael yma: Health in Wales | Postcode Search
- Y Samariaid:
- Ffôn 116 123 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)
- Llinell Gymraeg 0300 123 3011 (7pm- 11pm yn unig, 7 diwrnod yr wythnos)
- Ebost jo@samaritans.org
- Gwe www.samaritans.org