Beth alla i ei gyflwyno drwy Rho Wybod Nawr?

Gallwch ddweud unrhyw beth wrthym am eich cylch bywyd llawn fel myfyriwr o’ch modiwlau i’ch profiad myfyriwr cyffredinol. Mae’n rhaid i’ch sylw ddilyn y rheolau a rheoliadau i fyfyrwyr (Cliciwch yma i gael disgrifiad llawn o’r rheolau a rheoliadau i fyfyrwyr wrth ddefnyddio’r gwasanaeth hwn).

Nid Desg Gymorth yw Rho Wybod Nawr. Er y byddwn ni’n pasio eich sylwadau ymlaen efallai y byddai’n gynt pe baech yn cysylltu â -

  • Desg Gymorth Gwasanaethau’r Campws a Masnachol ar 01970 622999
  • Llinell Gymorth 24/7 y Brifysgol ar 01970 622900
  • Gwasanaethau Gwybodaeth ar 01970 622400
  • Nawdd Nos ar 01970 622166